Bodloni anghenion cyflogwyr â chwricwlwm sy’n canolbwyntio ar fedrau - Estyn

Bodloni anghenion cyflogwyr â chwricwlwm sy’n canolbwyntio ar fedrau

Arfer effeithiol

Coleg Cambria


 

Gwybodaeth am y darparwr

Mae adran gwallt a harddwch Coleg Cambria yn cyflwyno ystod eang o gyrsiau amser llawn o lefel mynediad i lefel tri, gyda chyrsiau mewn trin gwallt, therapi harddwch, therapi sba, gwasanaethau ewinedd a cholur theatrig a’r cyfryngau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae ymrwymiad cryf y coleg i fodloni anghenion yr holl ddysgwyr yn sicrhau bod dysgwyr ar bob lefel, beth bynnag fo’u cefndir, yn ennill eu cymwysterau gwallt a harddwch ac yn ennill ystod o fedrau sydd eu hangen arnynt i fynd ymlaen i gyflogaeth neu lefelau dysgu uwch.  Mae’r cwricwlwm wedi ei ddatblygu’n ofalus o amgylch anghenion y sector a blaenoriaethau’r cyflogwr, yn lleol ac yn genedlaethol fel ei gilydd.  Mae partneriaethau effeithiol ag ystod eang o gyflogwyr yn darparu ystod eang o gyfleoedd dysgu ar gyfer yr holl ddysgwyr a staff.  O ganlyniad, mae dysgwyr gwallt a harddwch yn hynod fedrus ac yn bodloni anghenion cyflogwyr.

Nod gweledigaeth y coleg ar gyfer rhagoriaeth yw sicrhau llwyddiant pob dysgwr trwy ‘ymgorffori diwylliant cefnogol o arloesedd a chreadigrwydd, gan herio pawb i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i greu dyfodol llwyddiannus’.  Mae’r tîm gwallt a harddwch yn defnyddio technoleg ddigidol yn hynod effeithiol i ennyn diddordeb dysgwyr a’u herio.  Mae athrawon yn defnyddio adnoddau digidol yn eithriadol o dda i hyrwyddo dysgu, cefnogi asesu a monitro cynnydd.  Mae dysgwyr yn defnyddio cymunedau dysgu digidol i gofnodi eu dysgu a myfyrio arno, a chreu portffolios digidol o ansawdd uchel i arddangos eu medrau.  Mae’r coleg wedi buddsoddi mewn ystod o feddalwedd, sy’n galluogi’r tîm gwallt a harddwch i fonitro cynnydd yr holl ddysgwyr, a rhoi unrhyw gymorth sydd ei angen ar waith yn gyflym i gadw dysgwyr ar y trywydd cywir i gyflawni eu potensial.  Mae dysgwyr yn dysgu sut i osod eu targedau dysgu effeithiol eu hunain a datblygu arferion dysgu annibynnol.  Mae athrawon yn monitro cynnydd dysgwyr o grwpiau mewn perygl yn fanwl, gan ddefnyddio gwasanaethau cymorth ac anghenion dysgu ychwanegol y coleg yn dda i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cyflawni. 

Mae’r cwricwlwm gwallt a harddwch yn ymgorffori ystod o fedrau cyfathrebu a meddwl lefel uwch ac mae dysgwyr yn cymhwyso’r rhain yn llwyddiannus ac yn hyderus yn eu cyd-destun galwedigaethol.  Mae dysgwyr yn datblygu eu gallu i ddefnyddio cwestiynau treiddgar wrth ymgynghori â chleientiaid i   weld beth sydd ei angen ar gleientiaid a dysgu sut i roi cyngor, gan gymhwyso eu gwybodaeth alwedigaethol i awgrymu arddulliau.  Mae dysgwyr yn datblygu medrau adwerthu cryf hefyd, ac maent yn cymhwyso eu medrau rhifedd yn effeithiol trwy dargedau misol a dadansoddi eu cynhyrchiant a’u perfformiad o ran gwerthiant.  Mae dysgwyr yn elwa’n fawr hefyd ar gymryd rhan mewn cystadlaethau medrau rhanbarthol a chenedlaethol.  Mae’r dysgwyr hyn yn datblygu medrau gwerthfawr, gan gynnwys hyder, gwydnwch a hunangred.

Mae partneriaethau hynod effeithiol, a ddatblygwyd gydag ystod o gyflogwyr a chwmnïau cenedlaethol, yn llywio cynllunio’r cwricwlwm.  Defnyddir gwybodaeth y farchnad lafur yn bwrpasol i lywio cynllunio’r cwricwlwm, ac mae cyflogwyr yn helpu i ffurfio’r cwricwlwm i sicrhau bod medrau galwedigaethol dysgwyr yn bodloni anghenion diwydiant.  Caiff hyn effaith gadarnhaol ar ddeilliannau gan fod bron pob un o’r dysgwyr trin gwallt a therapi harddwch yn datblygu medrau proffesiynol o ansawdd uchel yn eu gwaith ymarferol.  Mae’r cysylltiadau agos y mae partneriaid wedi eu meithrin gyda’r coleg yn cyfoethogi profiadau dysgu ymhellach trwy gyfleoedd profiad gwaith, siaradwyr gwadd, hyfforddiant medrau ac arddangosiadau ymarferol.  Mae’r partneriaethau a sefydlwyd gyda brandiau proffesiynol blaenllaw yn galluogi staff i ddilyn hynt a helynt datblygiadau yn y diwydiant a gwella eu medrau masnachol ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar fedrau, ynghyd â’r olrhain a’r cymorth trylwyr i’r holl ddysgwyr gyflawni, wedi cael gwelliant nodedig yn y cyfraddau llwyddiant.  Mae cyfraddau llwyddiant y cwrs hir Gwallt a Harddwch yng Ngholeg Cambria yn rhagorol, sef 89%, naw pwynt canran uwchlaw’r cymharydd cenedlaethol.  Bu tuedd ar i fyny dros dair blynedd, a chynnydd o 13 pwynt canran yn y ddwy flynedd ddiwethaf, sy’n gosod y coleg ar frig chwartel gyntaf yr holl golegau yng Nghymru ar gyfer cyrsiau hir Gwallt a Harddwch.  Mae bron pob un o’r dysgwyr yn ennill eu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn llwyddiannus o ran cymhwyso rhif, TG a chyfathrebu.  Mae dysgwyr o gefndiroedd sydd dan fwy o anfantais yn gymdeithasol a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn llwyddo i gyflawni ymhell uwchlaw’r cymharydd cenedlaethol ar gyfer deilliannau dysgwyr.  Mewn cystadlaethau medrau rhanbarthol a chenedlaethol, mae dysgwyr Coleg Cambria yn cyflawni’r lefel uchaf o ddyfarniadau yn rheolaidd.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn