Bagloriaeth Cymru yng nghyfnod allweddol 4 – Mai 2008

Adroddiad thematig


Mae ysgolion sy’n addysgu Bagloriaeth Cymru i bob disgybl yng nghyfnod allweddol 4 wedi gweld ei bod yn haws ei rhoi ar waith na’r ysgolion hynny sy’n ei haddysgu i grwpiau dethol o ddisgyblion. Yn gyffredinol, mae ysgolion yn teimlo bod y rhaglen yn llai cymhleth i’w chyflwyno yng nghyfnod allweddol 4 nag yn y sector ôl-16.Mewn ysgolion lle mae cynllunio ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn effeithiol, maent yn gweld y rhaglen yn ffordd o fodloni gofynion eraill y cwricwlwm yn hytrach na baich ychwanegol. Yn y rhan fwyaf o’r ysgolion y gwnaethom arolwg ohonynt, caiff y rhaglen ei haddysgu’n dda ar y cyfan. Fodd bynnag, roedd y cynllunio i fodloni anghenion dysgwyr o wahanol alluoedd yn effeithiol mewn rhai gwersi yn unig.


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • sicrhau bod gan uwch reolwyr rôl allweddol mewn arwain a chydlynu datblygu’r rhaglen yn eu hysgolion;
  • rhoi digon o amser cynllunio ac arfarnu ar gyfer y tîm sy’n cyflwyno’r rhaglen;
  • sefydlu systemau hylaw i safoni’r safonau a gyflawnir at ddibenion asesu;
  • sefydlu systemau cynhwysfawr ac ymarferol i gynllunio, amlinellu a monitro cyflwyno medrau allweddol; a
  • threfnu grwpiau tiwtor o faint rhesymol fel bod tiwtoriaid personol yn gallu cyflawni eu rôl.

Dylai CBAC:

  • ddarparu arweiniad a hyfforddiant pellach i athrawon ar safonau’r gwaith a ddisgwylir ar lefelau 1 a 2; a
  • pharhau â’r gwaith i wella dibynadwyedd a chysondeb asesiadau ar bob lefel trwy drefniadau safoni gwell.

Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn cynnwys arfer orau o ysgolion amrywiol.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn