Athroniaeth cynhwysiant
Quick links:
Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector
Ysgol arbennig ar gyfer hyd at 135 o ddisgyblion rhwng 11 ac 19 oed yw Ysgol Maes Hyfryd. Agorwyd yr ysgol ym Medi 2009 yn dilyn ad-drefnu darpariaeth addysgol arbennig yn Sir y Fflint. Mae’r ysgol yn gweithredu ar ddau safle. Mae’r brif ysgol, a adeiladwyd yn bwrpasol, yn rhannu campws gydag Ysgol Uwchradd y Fflint, ac mae canolfan adnoddau addysgu ychwanegol ar gyfer hyd at 12 disgybl, sef Cyswllt, yn Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle.
Mae gan ddisgyblion yn Ysgol Maes Hyfryd ystod eang o anghenion addysgol arbennig. Mae’r rhain yn cynnwys anawsterau dysgu cymedrol, difrifol a chymhleth, yn cynnwys anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Mae gan lawer o ddisgyblion anawsterau cyfathrebu, ymddygiadol neu synhwyraidd cysylltiedig. Mae gan bob disgybl ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig.
Mae tua hanner disgyblion Ysgol Maes Hyfryd yn treulio rhan o’r wythnos mewn dosbarthiadau prif ffrwd yn datblygu eu medrau a’u hannibyniaeth, ac maent yn dilyn cyrsiau prif ffrwd achrededig.
Mae polisi cynhwysiant Ysgol Maes Hyfryd yn amlinellu athroniaeth glir fod gan bob disgybl yr hawl i gael ei (h)anghenion unigol wedi’u bodloni mewn lleoliad priodol. Mae’r ysgol yn credu bod gan bob disgybl hawl i lwybr unigol a fydd, i lawer o ddisgyblion, yn golygu eu bod yn cael eu cynnwys mewn lleoliad prif ffrwd am ran o’r wythnos.
Defnyddiodd yr ysgol uno tair ysgol arbennig yn gyfle i ddatblygu rhaglen gynhwysiant o lwybrau unigol arbennig a phriodol ar gyfer pob disgybl. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys:
- darpariaeth ysgol arbennig ar wahân;
- darpariaeth ysgol arbennig gyda chysylltiadau cynhwysol yn Ysgol Uwchradd y Fflint neu ysgol arall brif ffrwd ger cartref disgybl; neu
- ddarpariaeth yng nghanolfan adnoddau Cyswllt yn Ysgol Uwchradd Elfed.
Ar hyn o bryd, mae bron i hanner disgyblion Ysgol Maes Hyfryd yn treulio rhywfaint o’u hamser mewn darpariaeth mewn un o wyth ysgol prif ffrwd yn Sir y Fflint. Mae pob disgybl cyfnod allweddol 4 yn dilyn cyrsiau achrededig.
Yn Cyswllt, mae’r disgyblion yn dilyn gwersi prif ffrwd ar gyfer rhwng 25% a 90% o’r amserlen, yn dibynnu ar anghenion unigol pob disgybl. Cynhaliwyd y trefniant hwn yn llwyddiannus yn sgil atgyfnerthu tasgau gwersi prif ffrwd yn y ganolfan adnoddau.
Mae staff cymorth yn Ysgol Maes Hyfryd a Cyswllt yn monitro a chefnogi’r disgyblion yn barhaus i sicrhau cysondeb sy’n galluogi iddynt barhau i weithio’n ddiwyd yn y dosbarth prif ffrwd.
Disgrifiad o natur strategaeth neu weithgaredd
Y strategaeth a fabwysiadwyd yn Ysgol Maes Hyfryd yw strategaeth i wella profiadau cwricwlaidd disgyblion unigol a chanolbwyntio ar gryfderau pob disgybl. Mae hyn yn helpu disgyblion i ddilyn cyrsiau achrededig, lle bo’n briodol. Er bod achredu’n rhan bwysig o’r rhaglen gynhwysiant, mae disgyblion hefyd yn datblygu eu hunan-barch, eu hyder a’u medrau cyfathrebu yn ystod eu lleoliadau mewn dosbarthiadau prif ffrwd.
Mae uno’r ganolfan anghenion dysgu ychwanegol yn y brif ffrwd ag Ysgol Maes Hyfryd o dan arweinyddiaeth athro Ysgol Maes Hyfryd wedi bod yn ddatblygiad arwyddocaol yn Cyswllt yn ddiweddar. O ganlyniad, gall disgyblion fanteisio ar gyfleoedd ehangach, mae staff yn rhannu a datblygu eu harbenigedd yn fwy effeithiol ac mae’r ganolfan yn fwy cynaliadwy.
Mae trefniadau monitro yn allweddol i ddeilliannau llwyddiannus y rhaglen gynhwysiant. Mae’r trefniadau hyn yn cynnwys arsylwadau manwl o ddisgyblion gan staff cymorth a chyfarfodydd rheolaidd rhwng y cydlynwyr a chyfarfodydd tymhorol yr uwch dîm arweinyddiaeth, yn ogystal ag adolygiadau blynyddol ffurfiol.
Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae pob rhaglen gynhwysiant wedi’i seilio ar anghenion y disgybl unigol, ac fe gaiff yr effaith ar ddarpariaeth, safonau a deilliannau ei mesur yn unigol hefyd.
Mae’r rhaglen gynhwysiant wedi gwella cyfleoedd dysgu ac wedi gwella deilliannau ar gyfer disgyblion.
Yn benodol, mae disgyblion wedi dilyn ystod o gyrsiau achrededig mewn pynciau fel gwyddoniaeth, celf, y cyfryngau a drama.
Mae deilliannau penodol ar gyfer disgyblion yn cynnwys:
- gwelliannau sylweddol mewn presenoldeb gydag enghreifftiau unigol o welliant o 67% i 98% ac o 68% i 97%; a
- chanlyniadau gwell mewn arholiadau gyda 4 disgybl yn Cyswllt yn llwyddo mewn 20 o bynciau TGAU rhyngddynt yn 2010.
Bu gwelliannau sylweddol yn oedrannau darllen, sillafu a mathemateg llawer o ddisgyblion, gyda:
- 80% o ddisgyblion yn cynyddu eu hoedran darllen o 11 mis ar gyfartaledd;
- 98% yn cynyddu eu hoedran sillafu o 6.7 mis ar gyfartaledd; a
- 98% yn cynyddu eu hoedran mathemateg o 9.2 mis ar gyfartaledd.
Yn ychwanegol, dangosodd y disgyblion hyder a hunan-barch gwell, a chynhwysiant cymdeithasol cynyddol, er enghraifft trwy gymryd rhan mewn tîm pêl-droed prif ffrwd a mynychu clybiau ar ôl yr ysgol a gweithgareddau preswyl eraill.