Athrawon fel Ymchwilwyr
Quick links:
Cyd-destun
Mae Ysgol Cynwyd Sant ym Maesteg yn awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae tua 300 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 40 o ddisgyblion meithrin. Mae 11 dosbarth, ac mae pump o’r rhain yn ddosbarthiadau oedran cymysg. Cymraeg yw prif gyfrwng bywyd a gwaith yr ysgol. Daw tua 30% o ddisgyblion o gartrefi Cymraeg eu hiaith.
Mae tua 12% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 23% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.
Penodwyd y pennaeth ym mis Medi 1999. Cyn hyn, roedd yn ddirprwy bennaeth yn yr ysgol.
Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol. Mae hefyd yn rhan o raglen ysgolion arweiniol creadigol Llywodraeth Cymru ac mae’n ysgol hwb ar gyfer ei chonsortiwm rhanbarthol. Mae hyn yn golygu ei bod yn cefnogi ysgolion eraill yn y consortiwm trwy ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd i arsylwi a rhannu arfer dda.
Strategaeth a chamau gweithredu
Mae’r ysgol bob amser wedi buddsoddi adnoddau sylweddol i ddatblygu medrau ei staff fel athrawon ac arweinwyr. Mae hyn yn cynnwys cynorthwywyr addysgu sydd â chyfrifoldeb am arwain dysgu gyda dosbarthiadau a grwpiau.
Mae’r pennaeth yn arweinydd profiadol sy’n magu hyder ymhlith ei gweithlu. Mae’n eu hannog i roi cynnig ar syniadau newydd a gwahanol ffyrdd o wneud pethau, ac mae’n eu cynorthwyo i wneud hynny trwy ddarparu’r amser a’r adnoddau i gynllunio a gwneud pethau’n gywir. O ganlyniad, mae aelodau o’i thîm arweinyddiaeth a staff eraill yn datblygu medrau arwain cryf a hunanhyder sylweddol. Nid ydynt yn ofni arfarnu eu gwaith yn feirniadol ac maent yn addasu cynlluniau neu’n rhoi’r gorau iddynt pan fydd angen. Nid yw arweinwyr yn peryglu niwedio cynnydd neu les disgyblion ac maent bob amser yn sicrhau bod tystiolaeth dda i awgrymu y bydd canlyniadau cadarnhaol yn sgil unrhyw newidiadau. Er bod gan athrawon lefelau uchel o ymreolaeth, mae canllawiau clir y dylent weithio oddi mewn iddynt. Er enghraifft, wrth gynllunio testun, mae uwch arweinwyr yn nodi set o ddisgwyliadau nad ydynt yn agored i drafodaeth. Mae hyn yn cynnwys wythnos baratoadol pan fydd athrawon yn atgoffa disgyblion am y pethau sylfaenol, gan gynnwys pwysigrwydd sgwrsio pwrpasol, rheolau’r ystafell ddosbarth a’r ysgol, cyflwyno a sillafu, a’r pedwar diben.
Mae gan yr ysgol ddull cysylltiedig ar gyfer popeth a wna, ac mae’n sicrhau bod yr holl ddatblygiadau’n cysylltu â’i gilydd. Mae cynllunio gwelliant ysgol, rheoli perfformiad, dysgu proffesiynol, ymchwil athrawon a newidiadau i’r cwricwlwm i gyd yn cysylltu’n agos ac mae hyn yn sicrhau nad yw athrawon yn teimlo fel pe baent yn ailadrodd gwaith yn ddiangen, nac yn gwneud gwaith er mwyn ei wneud. Bron ym mhob achos, mae unrhyw beth a wna athrawon yn cyflawni sawl diben.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r ysgol wedi newid pwyslais arsylwadau ystafell ddosbarth. Mae’r pennaeth ac uwch arweinwyr eraill yn cynnal arsylwadau statudol o hyd, ond dair blynedd yn ôl, dechreuodd athrawon weithio mewn triawdau gyda’u cydweithwyr. Mae staff yn teimlo eu bod bellach yn elwa llawer mwy ar y dull cydweithredol hwn o wella addysgu.
Mae’r pennaeth wedi ymrwymo hefyd i’r cysyniad o athrawon fel ymchwilwyr. Mae uwch arweinwyr wedi cyflwyno ffyrdd arloesol o ddatblygu medrau ymchwil athrawon fel rhan o’u gwaith bob dydd, a heb eu gorlethu. Mae gwaith ymchwil bellach yn cefnogi rheoli perfformiad athrawon a hunanarfarnu’r ysgol.
I gynnal ac ymestyn y cryfderau a nodwyd mewn addysgu adeg yr arolygiad diwethaf, mae’r ysgol wedi gweithio’n galed i aros ar flaen y gad o ran datblygiadau addysgol. Mae’r pennaeth wedi chwilio am gyfleoedd i wella ei gwybodaeth a’i dealltwriaeth broffesiynol ei hun, gan weithio’n agos ag asiantaethau allanol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a sefydliadau’r celfyddydau, i gynnal ymweliadau rhyngwladol a gwneud gwaith ymchwil. Mae hi wedi ymestyn ymglymiad yr ysgol mewn rhannu arfer dda trwy ehangu ei rôl fel ysgol hwb. Mae’n galluogi aelodau o staff yr ysgol i ddarparu hyfforddiant ar gyfer staff o ysgolion eraill, ac yn croesawu llawer o ymwelwyr i’r ysgol. Er enghraifft, yn ddiweddar, hwylusodd sawl aelod o staff gwrs ar asesu ar gyfer dysgu i ysgolion eraill. Mae paratoi ar gyfer y gweithgareddau hyn yn rhoi cyfleoedd da i athrawon fyfyrio ar waith yr ysgol, yn ogystal â dysgu am y dulliau a ddefnyddir gan ysgolion eraill.
Dechreuodd yr ysgol weithio mewn triawdau sawl blwyddyn yn ôl, ac ysbrydolwyd hyn i ddechrau gan arweiniad gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae’r ysgol wedi gwneud yr hyn y mae’n aml yn ei wneud yn hynod lwyddiannus, ac wedi addasu’r syniad yn unol ag anghenion ei hathrawon ei hun a chyd-destun yr ysgol. Ar y dechrau, cytunodd staff ar ffordd o weithio a oedd yn llai rhagnodol a ffurfiol nag yr oedd yr arweiniad yn ei awgrymu. Mae pob triawd yn cynnwys uwch arweinydd, a dau aelod arall o staff sydd â gwahanol fedrau a gwahanol lefelau o brofiad. Maent yn cynllunio gwersi gyda’i gilydd ac yn arsylwi ei gilydd yn addysgu eu dosbarthiadau eu hunain. Wedyn, maent yn dod at ei gilydd i gael trafodaeth broffesiynol. Mae’r sgyrsiau hyn yn gefnogol, ond yn codi llawer o faterion pwysig a diddorol, y mae athrawon yn eu trafod yn feirniadol er mwyn arfarnu effeithiolrwydd eu haddysgu ar safonau disgyblion.
I hwyluso ymchwil athrawon, mae’r ysgol wedi defnyddio dull gwahanol o reoli perfformiad. Mae’r dull newydd nid yn unig yn sicrhau bod rheoli perfformiad yn cysylltu’n dda â datblygiadau eraill yr ysgol, mae hefyd yn sicrhau ymrwymiad ac ymgysylltiad llawn pob un o’r athrawon â’r broses. Ar ddechrau’r flwyddyn, mae athrawon yn gosod cwestiwn ymchwil iddyn nhw eu hunain. Er enghraifft, mae un athro wedi dewis ystyried p’un a yw ymarfer corff cynyddol yn cael effaith gadarnhaol ar gymhelliant, ymgysylltiad a chynnydd academaidd grŵp o fechgyn sydd mewn perygl o ymddieithrio. Daw’r cwestiynau ymchwil hyn yn brif sbardun ar gyfer rheoli perfformiad athrawon trwy gydol y flwyddyn ac maent yn gosod targedau sy’n gysylltiedig â’r cwestiwn ymchwil. Er bod gan athrawon ddewis rhydd o gwestiynau ymchwil, mae disgwyliadau arweinwyr o athrawon yn glir. Yn ystod y flwyddyn, mae arweinwyr yn disgwyl i athrawon:
- wneud gwaith ymchwil weithredu gyda’u disgyblion
- ymgymryd â darllen a gwaith ymchwil proffesiynol cysylltiedig
- arfarnu eu canfyddiadau a pharatoi adroddiad i’w rannu â chydweithwyr ac fel rhan o’u hadolygiad rheoli perfformiad blynyddol
I adlewyrchu’r dull arall hwn o reoli perfformiad, mae’r ysgol hefyd wedi defnyddio dull hollol wahanol o gynllunio gwelliant yr ysgol trwy ddefnyddio cwestiwn ymchwil ysgol gyfan, sydd, ar gyfer 2017-2018, yn canolbwyntio ar baratoadau’r ysgol ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae’r trywydd ymholi presennol yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae staff yn defnyddio’r egwyddorion addysgegol a amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) i godi safonau a gwella lles pob disgybl.
Deilliannau
O ganlyniad i’r ffocws cryf ar ddatblygu arweinwyr a pharhau i wella addysgu, mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Er enghraifft, mae disgyblion yn siarad am y pedwar diben yn hyderus ar lefel sy’n addas ar gyfer eu hoedran a’u cyfnod datblygu. Mae rhan disgyblion mewn cynllunio testunau yn rhan bwysig o athroniaeth yr ysgol. Mae hyn yn sicrhau lefelau uchel o ymgysylltu â dysgu ac yn cyfrannu at les a chynnydd cryf disgyblion o fannau cychwyn.
Fel rhan o hunanarfarniad yr ysgol, mae staff wedi dechrau arfarnu cynnydd yn erbyn y pedwar diben a amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015). Mae’r ysgol yn cynnal arolwg hefyd i asesu agweddau disgyblion tuag at ddysgu ac atebion athrawon i’w dysgu proffesiynol. Yn y ddau achos, mae ymatebion yn gadarnhaol. Er enghraifft, mae holiadur diweddar i staff yn cadarnhau bod pob un o’r staff a holwyd yn teimlo bod eu dealltwriaeth o’r newidiadau yn y cwricwlwm newydd yn dda neu’n dda iawn.
Mae athrawon yn ymddiddori’n fawr yn eu dysgu proffesiynol eu hunain ac yn croesawu’r cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil a rhannu arfer dda gydag athrawon eraill. Maent yn staff hyderus sy’n ymateb yn frwdfrydig i syniadau newydd ac maent yn hyblyg yn eu hymagwedd at bob agwedd ar eu gwaith. Mae ganddynt ddisgwyliadau uchel ohonyn nhw eu hunain, eu cydweithwyr a’u disgyblion.
Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol
Mae’r ysgol yn bwriadu:
- Datblygu ymhellach ei dull o weithio mewn triawdau ar gyfer athrawon a staff cymorth, i gynnwys staff sy’n cyflenwi mewn dosbarthiadau yn rheolaidd
- defnyddio staff profiadol yn yr ysgol i wella agweddau penodol ar hyfforddiant a mentora
- cynyddu nifer y sesiynau cynllunio ar y cyd ac arsylwadau gwersi ar y cyd ar gyfer triawdau athrawon o ddau i dri mewn blwyddyn a sicrhau bod arweinydd y tîm yn llunio adroddiad ar ddeilliannau’r gwaith triawdau i’w rannu â staff eraill ar draws yr ysgol
- galluogi unigolion i fyfyrio o fewn triawdau ar eu perfformiad eu hunain a defnyddio’r safonau addysgu proffesiynol i nodi meysydd personol i’w datblygu
- Canolbwyntio ar un o’r egwyddorion addysgegol a nodwyd yn Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) fel ysgol, gyda bwriad i greu strategaeth ysgol gyfan ar gyfer meddwl yn feirniadol, meddwl yn greadigol a datrys problemau
- Annog staff i ddefnyddio dull yn seiliedig ar ymholi fel rhan o reoli perfformiad fel eu bod yn cymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad personol eu hunain a nodi eu datblygiad yn erbyn y safonau proffesiynol
- Gweithio mewn triawdau gyda dwy ysgol gynradd o awdurdodau lleol cyfagos i greu strategaeth ar gyfer addysgeg