Asesu ar gyfer Dysgu a medrau meddwl - Estyn

Asesu ar gyfer Dysgu a medrau meddwl

Arfer effeithiol

Gaer Primary School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd y Gaer ar ochr orllewinol dinas Casnewydd.  Agorwyd yr ysgol yn 2014 ar ôl uno’r ysgol fabanod a’r ysgol iau.  Mae gan yr ysgol 459 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed, gan gynnwys 63 o ddisgyblion rhan-amser yn y dosbarth meithrin.  Mae 17 dosbarth, gan gynnwys dosbarth canolfan adnoddau yng nghyfnod allweddol 2 ar gyfer disgyblion ag amrywiaeth o anawsterau llafaredd, ymddygiadol ac anawsterau dysgu cyffredinol.

Cyfran gyfartalog y disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim dros y tair blynedd ddiwethaf yw tua 20%.  Mae hyn yn agos at y cyfartaledd cenedlaethol, sef 19%.  Mae ychydig o ddisgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan 32% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%, ond mae hyn yn cynnwys y disgyblion yn y dosbarth canolfan adnoddau.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Dechreuodd y pennaeth yn ei swydd ym mis Medi 2014.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ar ôl yr uno ym mis Medi 2014, teimlai arweinwyr yr ysgol ei bod yn bwysig sefydlu systemau a gweithdrefnau ar gyfer ‘asesu ar gyfer dysgu’ a fyddai’n gweithio’n gynyddol dda ar draws yr ysgol.  Ar ôl arbrofi ag amrywiaeth o strategaethau asesu ar gyfer dysgu yn y gorffennol, wedi’i ddylanwadu gan ymchwil ehangach, ac a fu’n llwyddiannus o’r dechrau, yr her yn awr oedd defnyddio’r llwyddiant hwn i resymoli a chreu dull asesu ar gyfer dysgu ar gyfer yr ysgol gynradd a ffurfiwyd yn ddiweddar.

Mae asesu ar gyfer dysgu hynod effeithiol wedi cael ei ystyried yn helaeth gan addysgwyr fel rhywbeth sy’n hanfodol o ran codi safonau ar gyfer dysgwyr.  Mae hyn yn helpu o ran gwneud dysgu ‘yn fwy gweladwy’ ac mae’n helpu dysgwyr i ddeall sut beth yw rhagoriaeth a sut gallant ddatblygu eu gwaith eu hunain i gyrraedd y lefel honno.  Yng ngwaith arloesol John Hattie ar effeithiolrwydd addysgol, sef Visible Learning for Teachers (2011), roedd Hattie yn ystyried strategaethau adborth  yn 10fed o 150 o ffactorau sy’n ysgogi gwelliannau sylweddol yn neilliannau dysgwyr.  Mae pobl eraill yn cefnogi hyn ac yn dadlau, os bydd athrawon yn defnyddio asesiadau ffurfiannol fel rhan o’u haddysgu, gall disgyblion ddysgu tua dwywaith yn gyflymach na hynny. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

I ddechrau, roedd y broses yn cynnwys creu polisi adborth a marcio ar y cyd i ddarparu fframwaith i amlinellu’r gweithdrefnau sy’n gysylltiedig ag asesu ar gyfer dysgu.  Yn dilyn hynny, datblygwyd rhestrau gwirio golygu a modelau hunanasesu ac asesu cyfoedion i gefnogi a gwella’r broses a darparu ffordd fwy effeithiol o gynorthwyo disgyblion i wella.  Cyflwynwyd marcio ‘Cau’r bwlch’ fel rhan o’r polisi, gan ffurfio dealltwriaeth o holi a sbardunau priodol i herio disgyblion a’u helpu i wneud cynnydd.

Un nodwedd arwyddocaol yn llwyddiant y broses oedd cyflwyno ‘meini prawf llwyddiant’ clir a chyflawnadwy.  Mae’r meini prawf llwyddiant CAMPUS (Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig/Perthnasol ac Wedi’i Bennu gan Amser), sy’n aml yn cael eu creu gyda disgyblion, wedi sicrhau bod eglurder ynglŷn â chanlyniad disgwyliedig y gwersi.  Erbyn hyn, mae staff a disgyblion yn fwy medrus yn darparu adborth penodol ac effeithiol iawn.

Cyflwynwyd ‘Chwe Het Meddwl’ De Bono i gefnogi’r broses.  Mae defnyddio’r hetiau hyn ar draws y cwricwlwm wedi galluogi disgyblion i ddysgu am ystod eang o ddulliau meddwl.  Yn ychwanegol, mae disgyblion yn defnyddio’r hetiau hyn i hunanasesu ac asesu cyfoedion o safbwynt penodol fel edrych ar brosesau, problemau posibl neu o ongl gwbl ffeithiol.  Defnyddir yr hetiau yn effeithiol iawn i gefnogi myfyrdodau’r disgyblion ar eu dysgu.  Mae pob lliw yn cynrychioli meddylfryd i’w fabwysiadu wrth fyfyrio: melyn (pethau a aeth yn dda); du (pethau nad aethant cystal); coch (ennyn emosiwn/teimladau); gwyrdd (dawn greadigol); gwyn (ffeithiau/gwybodaeth a oedd yn ategu’r dysgu; glas (camau nesaf).  Mae disgyblion yn hunanasesu eu dysgu’n hynod effeithiol gan ddefnyddio’r hetiau, ar lafar ac fel ateb ysgrifenedig.

Mae’r het meddwl las yn cyfateb yn effeithiol i’r targedau ‘cam nesaf’.  Caiff targedau disgyblion unigol eu datblygu gyda’r holl ddisgyblion o Flwyddyn 1 ymlaen.  Mae disgyblion yn creu targedau ochr yn ochr â’u hathro ac yn eu cymhwyso ar draws y cwricwlwm.  Cânt eu cofnodi mewn ‘llyfr targedau’ disgyblion unigol.  Mae targedau’n rhai CAMPUS ac yn canolbwyntio ar agweddau penodol iawn ar ysgrifennu.  Enghraifft yw, ‘defnyddio brawddegau syml i greu tensiwn’.  Mae disgyblion ac athrawon yn defnyddio sticeri i amlygu pan fydd targed wedi’i fodloni.  Pan fydd targedau wedi’u bodloni deirgwaith, cytunir ar darged newydd.  Bydd pob disgybl yn cael dim mwy na thri tharged ar unrhyw adeg benodol.  Mae’r broses yn sicrhau bod disgyblion yn glir iawn ynglŷn â’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella eu dysgu.

Mae modelau asesu cyfoedion wedi cael eu cyflwyno a’u mireinio i gefnogi datblygiad disgyblion o ran darparu adborth adeiladol i’w cyfoedion.  Mae’r modelau dilyniadol yn cyfeirio at y meini prawf llwyddiant, y rhestr gwirio marcio, targedau unigol, dathlu cryfderau a’r camau nesaf.  Mae’r broses yn amlygu pwysigrwydd parch wrth roi adborth i gyfoedion.

Mae proses hunanarfarnu parhaus a deialog broffesiynol gan staff ac arweinwyr yr ysgol, sy’n edrych yn feirniadol ar effaith, wedi sicrhau bod y systemau’n cael eu mireinio a’u cymhwyso’n gyson.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r prosesau newydd wedi cael effaith sylweddol ar newid y diwylliant yn yr ystafelloedd dosbarth.  Mae’r systemau wedi creu ethos cefnogol a chydweithredol, lle mae disgyblion yn mynd ati i ymgymryd â’u dysgu, ac maent yn hyderus i roi cynnig ar bethau newydd, heb ofni gwneud camgymeriadau.  Maent yn hyderus i olygu eu dysgu ac yn myfyrio ar newidiadau a fydd yn gwella safonau.

Mae’r prosesau ‘asesu ar gyfer dysgu’ wedi cael effaith hynod arwyddocaol ar ddeilliannau dysgwyr.  Erbyn hyn, mae disgyblion yn cymryd mwy o berchnogaeth o’u dysgu a gallant wella â mwy o annibyniaeth.  Maent yn fwy ymwybodol o sut beth yw dysgu da a’r camau nesaf iddynt allu cyflawni safonau uwch.  Mae’r prosesau asesu ar gyfer dysgu wedi helpu creu synnwyr o hunaneffeithiolrwydd, hyder yn eu gallu i gyrraedd targedau trwy waith caled a phenderfyniad.  Mae’r broses asesu cyfoedion wedi helpu disgyblion i atgyfnerthu eu dysgu trwy esbonio syniadau i bobl eraill.  Hefyd, mae’r broses asesu cyfoedion wedi helpu disgyblion i ddatblygu medrau diplomyddiaeth a llafaredd gwell.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei hymagwedd at asesu ar gyfer dysgu o fewn ei chlwstwr o ysgolion gyda staff ac arweinwyr eraill sy’n ymweld â’r ysgolion fel rhan o’i rhaglen ‘ysgol i ysgol’.