Arweinyddiaeth effeithiol er mwyn uno ysgolion yn ddi-dor - Estyn

Arweinyddiaeth effeithiol er mwyn uno ysgolion yn ddi-dor

Arfer effeithiol

Dinas Powys Primary School


 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Wrth drafod uno’r ddwy ysgol, roedd gan randdeiliaid weledigaeth ar gyfer trosglwyddo di-dor a chyn lleied o newidiadau ag y bo modd.  Roedd yr uno di-dor hwn yn cynnwys uno’r datganiadau cenhadaeth, gwerthoedd yr ysgol, logos, arwyddion, gwisg ysgol, polisïau, gweithdrefnau a chynlluniau gwaith.  Roedd yn hanfodol sefydlu ethos ysgol gyfan cyn gynted ag y bo modd – Un Ysgol, Un Weledigaeth.  Roedd blaenoriaethau pellach yn cynnwys ymestyn y corff llywodraethol, uno’r cyllidebau, y timau arwain, y gymdeithas rieni, asesu, a systemau TGCh.  Roedd y pennaeth yn cyfleu cynllun gweithredu clir yn effeithiol i bob un o’r staff, y rhieni, y disgyblion a’r llywodraethwyr, ac yn sicrhau bod yr ysgolion yn uno’n ddi-dor ac yn cynnal safonau uchel.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Nodwedd ragorol o’r uno oedd y sylw i fanylder a roddwyd gan y pennaeth, o ran pob agwedd ar fywyd ysgol.  Roedd hyn yn sicrhau cyfle cyfartal a darpariaeth gyfartal i bawb.

Roedd arweinwyr yn uno pob un o’r staff yn effeithiol, gan sicrhau bod gan yr ysgol synnwyr clir o ddiben a dull cyson ar y ddau safle.  Roedd ‘Dinas Duos’ yr ysgol yn cynnwys cynrychiolwyr o’r ddwy ysgol o ran y dirprwy benaethiaid, y tîm arwain, arweinwyr pwnc, staff gweinyddol, cynorthwywyr cymorth dysgu a’r gofalwyr.  Roedd hyn hefyd yn galluogi arweinwyr i sefydlu diwylliant dysgu proffesiynol effeithiol iawn i rannu gwybodaeth drylwyr ac arbenigedd, a oedd yn cynnwys arsylwadau athrawon a datblygiadau addysgegol dilynol.  Roedd arweinwyr yn ymestyn a datblygu dadansoddiad fforensig o ddata disgyblion ymhellach, gan arfarnu perfformiad yr ysgol yn gywir.  

Fe wnaeth y cyfeiriad strategol clir hwn sicrhau bod yr ysgol yn cynnal a datblygu ansawdd yr addysgu a’r dysgu.  Y ffocws oedd sicrhau darpariaeth ddysgu unedig, fel llyfrau ac adnoddau o ansawdd da ac amgylchedd dysgu gwell yng nghyfnod allweddol 2, a oedd yn cynnwys gosod carpedi newydd a bleindiau ffenestri newydd, a gwneud atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw cyffredinol.  Ymgymerodd yr ysgol newydd â rhaglen welliant ddiwyro, gan roi ymdeimlad cryf o hunaniaeth iddi.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r uno wedi sicrhau cyfnod pontio di-dor o’r Cyfnod Sylfaen i gyfnod allweddol 2.  Mae’r ysgol yn datgan ei bod wedi cynnal ei safonau uchel, a bod disgyblion yn gwneud cynnydd da iawn o’u mannau cychwyn unigol.  Mae’n haeru bod llawer o ddisgyblion sy’n fwy abl yn gwneud cynnydd rhagorol ac yn cyflawni safonau ymhell uwchlaw’r rheiny sy’n ddisgwyliedig ar gyfer eu hoedran.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi croesawu’r holl gyfleoedd i gydweithio ag ysgolion eraill, trwy groesawu ymweliadau gan ysgolion eraill, cymryd rhan mewn grŵp gwella ysgolion, gwaith clwstwr a siarad â phobl broffesiynol eraill, gan gynnwys arweinwyr o ysgolion sydd ar fin uno.