Arweinyddiaeth ddosbarthedig sy’n cefnogi gwelliant ysgol
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Cafodd ysgolion Bryngwyn a Glan-y-Môr eu ffedereiddio’n ffurfiol ym Medi 2014 gan ddod yn beilot ar gyfer ffederasiynau uwchradd yng Nghymru. Maent 7 milltir oddi wrth ei gilydd. Ysgol gymunedol, gymysg 11-16 oed yw Ysgol Bryngwyn. Mae wedi’i lleoli yn Nafen, ar ochr gogledd ddwyreiniol Llanelli, Sir Gaerfyrddin ac mae disgyblion o rannau o ganol y dref ac o nifer o bentrefi cyfagos yn mynychu’r ysgol. Mae 1,050 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae tua 20% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Ysgol gymunedol 11-16 ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin yw Glan-y-Môr, gyda 480 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae tua 30% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ddwy ysgol nid yn unig yn gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd, maent hefyd yn gweithio mewn partneriaeth agos â chlwstwr o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd eraill yn yr ardal a’r coleg Addysg Bellach lleol. Mae’r ddwy ysgol yn ysgolion arloesi ac ysgolion creadigol arweiniol
Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector
Mae arweinyddiaeth yn ysgogwr allweddol ar unrhyw daith wella ysgolion, hyd yn oed fwy felly yng nghyd-destun ffederasiynau lle mae disgwyliad bod arweinwyr ar draws sefydliadau yn gweithredu’n ymreolaethol. Mae ffederasiynau newydd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i rannu arfer orau gyda chynulleidfaoedd newydd, datblygu safbwyntiau gwahanol a darparu symbyliad newydd ar gyfer newid. Mae rheolaeth effeithiol ar ffederasiynau yn mynnu datblygu arweinyddiaeth wirioneddol ddosbarthedig ar bob lefel ac, yn bwysicaf, drwy sefydliadau ac ar draws sefydliadau. Y model arweinyddiaeth ddosbarthedig hwn sydd wedi galluogi gwneud cynnydd cyflym ar draws y gyd-ddarpariaeth. Dros gyfnod, mae model arweinyddiaeth deinamig a chydweithredol wedi datblygu. Yn y ddwy ysgol, ceir uchelgais a brwdfrydedd i sicrhau deilliannau gwell a lefelau cadarn o les disgyblion a’r set o fedrau cywir i sicrhau hyn.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Yr her wreiddiol i’r ddwy ysgol oedd datblygu strwythurau uwch arweinyddiaeth newydd a fyddai’n galluogi arweinyddiaeth effeithiol yn y ddwy ysgol wrth fodloni gofynion presennol ar lefel ysgol gyfan, lefel leol a lefel genedlaethol. I fynd i’r afael â hyn, ymgymerodd yr holl arweinwyr â rolau ar draws y ffederasiwn ochr yn ochr â’u rolau yn yr ysgol, gyda phob aelod o’r uwch dîm arwain yn cael cyfrifoldebau ffederasiwn “ymbarél”. Dros gyfnod, mae’r her o weithredu ar draws ddau safle wedi ysgogi’r ysgol i fod yn fwy pragmatig o ran ei dull arwain. Er enghraifft, mae dyletswyddau rheolwyr llinell a arferai gael eu dosbarthu ar draws yr Uwch Dîm Arwain cyfan ac ar draws safleoedd y ddwy ysgol wedi datblygu fel bod arweinwyr canol yn cael mwy o fynediad at gysylltiadau’r Uwch Dîm Arwain sy’n gweithio ar eu safle.
Er mwyn i ffederasiwn weithio, roedd yn hanfodol hefyd creu diwylliant o arloesi ac atebolrwydd ar lefel arweinwyr canol. Roedd y cyfle a grëwyd gan ffederasiwn i weithio mwy mewn partneriaeth, a’r fraint unigryw i staff weithio ar draws ysgolion ac i rannu syniadau a phrofiadau addysgol, yn allweddol i hyn. Hyd yma, yn nhair blynedd gyntaf y ffederasiwn, mae 34 aelod o staff wedi elwa yn sgil ymgymryd â chyfrifoldebau arwain ychwanegol ar lefel adrannol, ysgol gyfan a ffederasiwn, gan arwain at gyfleoedd newydd pwysig ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyn wedi cynyddu gallu arweinyddiaeth yr ysgol ac wedi gwella ei gwydnwch i reoli newid yn effeithiol yn y dyfodol.
Roedd yn bwysig hefyd sicrhau bod corff llywodraethol y ffederasiwn yn darparu lefel gyson uchel o her a chymorth i’r ysgol, ac i ddatblygu llywodraethu cadarn, arloesol a fyddai’n darparu cyfeiriad strategol cryf ac atebolrwydd i’r ffederasiwn. Roedd yn hollbwysig creu llywodraethu cefnogol i’w gilydd, ac eto llywodraethu ymreolaethol yn lleol ar gyfer Bryngwyn a Glan-y-Môr. Byddai hyn yn galluogi’r ysgolion i ffynnu a hefyd cadw nodweddion unigryw eu cymunedau eu hunain a’r poblogaethau a wasanaethir ganddynt.
I gyflawni’r nodau hyn, mae’r ysgol wedi datblygu model arweinyddiaeth sy’n canolbwyntio ar y “6C”:
1. Cysondeb – mae sicrhau ansawdd darpariaeth, mynediad at adnoddau a datblygu cymorth arbenigol ar draws y ffederasiwn wedi lleihau amrywio o fewn yr ysgolion ac ar draws y ffederasiwn.
2. Cydweithio – wrth i gydweithio ddod yn fwy naturiol a sefydledig, mae’r ysgol yn gweithio’n graffach, ac yn gwella ei harferion.
3. Cynnig Her – defnyddio cyd-destun a data i osod targedau heriol sy’n symud y dysgwr yn ei flaen a pheidio byth ag anghofio’r angen i ddisgyblion fwynhau eu profiadau yn yr ysgol. Mantra’r ysgol ar gyfer disgyblion a staff yn syml yw, ‘bod y gorau y gallant fod’. Mae hunanarfarnu a chynllunio gwelliant trwyadl, cadarn ac ystyrlon ar draws y ffederasiwn wedi sicrhau gwelliannau rhagorol i safonau, profiadau dysgu, ac wedi arwain at addysgu o safon uchel yn barhaus.
4. Capasiti – trwy ddefnyddio medrau ac arbenigedd cyfunol yr holl staff i rannu arfer dda ac annog sgwrs ynghylch addysgeg, mae’r ysgol yn gwella profiad y dysgwr a’r ymarferwr. Mae’r ysgol yn ceisio newid a gwella’n gyson, wrth ragweld beth sydd ar y “gorwel” a cheisio cynllunio ar ei gyfer yn bwyllog, yn ddadansoddol ac yn effeithiol.
5. Creu Hinsawdd – Mae hyrwyddo diwylliant o “Ymddiriedaeth a Sgwrs” ar draws y ffederasiwn wedi bod yn hanfodol i lwyddiant yr ysgol. Mae cydweithwyr i gyd yn ymboeni’n angerddol ynglŷn â beth maent yn ei wneud ac yn deall pwysigrwydd gweithio gyda’i gilydd i gyflawni gwelliant i’r holl ddysgwyr. Mae hyn yn ymestyn dros feysydd academaidd a meysydd bugeiliol. Uchelgais syml yr ysgol i’w disgyblion yw y bydd yn eu helpu i ‘adeiladu bywyd’ iddyn nhw eu hunain.
6. Cystadleuaeth: mae cystadleuaeth iach a chyfeillgar rhwng ysgolion ac ar draws adrannau o fewn y ffederasiwn, ac mae hyn wedi helpu gwella safonau. Mae safonau yn uchel iawn yn y ddwy ysgol. Mae Glan-y-Môr wedi gweld gwelliant sylweddol mewn deilliannau o flwyddyn i flwyddyn ers ffedereiddio, ac mae Bryngwyn wedi cynnal ei safonau, gan gyflawni rhai o’r canlyniadau gorau erioed yn y 4 o’r 5 mlynedd diwethaf.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Yn ogystal â’r gwelliannau mewn deilliannau disgyblion a nodwyd uchod, mae’r ffederasiwn wedi datblygu ymagwedd arloesol at wobrau a chosbau sydd wedi arwain at welliannau sylweddol mewn lles disgyblion ac agweddau cadarnhaol at ddysgu. Mae cydweithio, yn cynnwys cyfarfodydd ar y cyd ac arsylwi a rhannu arferion gorau ac adnoddau, wedi gweithio fel sbardun i welliannau ar draws y cwricwlwm, sydd yn eu tro wedi bod yn ysgogwyr allweddol ar gyfer ymgysylltu a deilliannau gwell i grwpiau o ddisgyblion. Erbyn hyn, mae gan ddisgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr ymdeimlad cryf o berthyn i’r ffederasiwn ac mae pob ysgol yn teimlo gwir falchder yn eu cyflawniadau ar y cyd. Mae arwyddair yr ysgol, sef ‘rhoi o’n gorau’, yn ymgorffori penderfyniad y ddwy ysgol i gyflawni rhagoriaeth, ond mae hefyd yn cyfleu ei ffocws ar bob unigolyn yn rhoi o’i orau glas i wireddu ei botensial.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Caiff arfer dda ei rhannu drwy sgwrs agored a gonest yn seiliedig ar hunanarfarnu trwyadl sy’n dathlu cryfderau ac yn cynyddu’r uchelgais i wella mwy fyth. Mae staff ar bob lefel yn dadansoddi eu cryfderau a meysydd i’w datblygu gyda rheolwyr llinell. Mae rhaglen hyfforddi a mentora bersonoledig iawn ar waith ar gyfer pob un o’r staff: caiff athrawon eu paru’n ofalus ag ymarferwyr arweiniol o fewn y ffederasiwn ac ar draws y ffederasiwn. Anogir staff ar bob lefel i ymgymryd â rôl arweiniol ar draws y ffederasiwn ar ffurf ‘Teachmeets’, digwyddiadau HMS a fforymau addysgu a dysgu lle mae staff yn cyfranogi mewn sgwrs broffesiynol fywiog wrth rannu strategaethau sy’n amrywio o arfer yn yr ystafell ddosbarth i arferion arweinyddiaeth effeithiol. Defnyddir fforymau digidol i ymgorffori arfer dda a pharhau i rannu gyda mwy o staff dros gyfnod.
Lle bo modd, archwilir cyfleoedd y tu hwnt i’r ffederasiwn hefyd wrth i staff gael eu hannog i rannu’u cryfderau gyda chydweithwyr o ysgolion eraill o fewn y teulu o ysgolion ac ar draws y rhanbarth.