Arweinwyr yn sicrhau gwelliant mewn awdurdod lleol - Estyn

Arweinwyr yn sicrhau gwelliant mewn awdurdod lleol

Arfer effeithiol

Cyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen/Torfaen County Borough Council

Cyflwyniad proffesiynol ar y gweill, yn cynnwys siaradwr ar y blaen yn annerch grŵp o fynychwyr yn eistedd o amgylch bwrdd cynhadledd. Mae'r ffocws ar sgrin sy'n arddangos siartiau gyda chanrannau. Mae'r lleoliad yn awgrymu amgylchedd swyddfa modern, llachar.

Cefndir 

Arolygwyd Awdurdod Lleol Torfaen ym mis Mawrth 2022, ac o ganlyniad i wendidau mewn arweinyddiaeth, deilliannau ar gyfer pobl ifanc a phrosesau gwerthuso a gwella, barnwyd bod yr awdurdod lleol yn achosi pryder sylweddol.  

Rhoddwyd pedwar argymhelliad i’r awdurdod lleol, sef: 

A1 Gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd  

A2 Cryfhau rheoli perfformiad  

A3 Cryfhau prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant a’r cyswllt rhyngddynt   

A4 Gwella arweinyddiaeth strategol dysgu ac ADY  

Bu Estyn yn gweithio i beilota ymweliadau monitro gyda’r awdurdod lleol gyda’r bwriad o gefnogi eu gwelliant yn fwy effeithiol. Helpodd yr ymweliadau hyn i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella ar wahanol gamau o ddatblygiad yr awdurdod lleol. Roeddent yn ymweliadau cefnogol lle darparwyd adroddiadau ysgrifenedig i’r awdurdod lleol yn gwerthuso cynnydd yn erbyn argymhellion penodol. 

Ers yr arolygiad craidd, mae’r awdurdod lleol wedi ymgysylltu’n dda â’r prosesau monitro ac arolygydd cyswllt, ac wedi bod yn agored a thryloyw yn gyson am y cynnydd y mae wedi’i wneud. 

Mae’r awdurdod lleol wedi gweithio’n rhagweithiol gyda’r holl randdeiliaid ac wedi sicrhau gwelliannau nodedig mewn llawer o agweddau ar eu gwaith. O ganlyniad, tynnwyd yr awdurdod lleol o’r categori achosi pryder sylweddol ym mis Hydref 2024. 

Gweithgarwch 

Datblygu gweledigaeth a rhannu disgwyliadau uchel 

Ymatebodd yr Arweinydd, yr Aelod Gweithredol dros Blant a Theuluoedd, a’r Prif Weithredwr, yn gadarnhaol i’r argymhellion a osodwyd fel rhan o’r arolygiad craidd yn brydlon. Roeddent yn glir am eu huchelgeisiau uchel ar gyfer y gwasanaeth addysg ac yn eu nod i sicrhau’r gwasanaeth gorau posibl. 

Aeth y Prif Weithredwr ati i ailstrwythuro arweinyddiaeth y gwasanaeth addysg, a phenododd Gyfarwyddwr Addysg yn ogystal â chynyddu capasiti’r uwch dîm arweinyddiaeth addysg. Ers ei benodi, mae’r Cyfarwyddwr Addysg wedi darparu arweinyddiaeth gref, strategol a thosturiol. Mae wedi sicrhau bod pob un o’r staff yn deall eu rôl mewn gyrru gwelliannau.  

Bu’r Cyfarwyddwr Addysg a’i dîm yn gweithio’n rhagweithiol gyda’r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Strategol, yr Arweinydd a’r Aelod Gweithredol i sicrhau a rhannu gweledigaeth a ddeellir yn dda ar gyfer addysg yn Nhorfaen. Ategir gwaith yr holl wasanaethau gan y weledigaeth hon sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod pob person ifanc yn Nhorfaen yn cael y cyfle gorau i lwyddo.  

Trwy drefniadau rheoli perfformiad gwell, arweinyddiaeth ddosbarthedig a dysgu proffesiynol buddiol, mae’r Cyfarwyddwr Addysg wedi sicrhau bod pob un o’r staff yn deall eu rôl yn dda o ran sicrhau gwelliannau. Sicrhaodd gyfrifoldeb ar y cyd lle mae pob aelod o staff yn gwerthfawrogi’r cymorth a gânt ond maent hefyd yn atebol am gyflawni yn erbyn eu blaenoriaethau gwella. Mae’r dull hwn yn helpu sicrhau bod eu gwasanaethau’n cyflawni ar gyfer y bobl ifanc a’r ysgolion yn Nhorfaen. 

Gwella perthnasoedd ag ysgolion 

Mae sicrhau perthnasoedd mwy effeithiol â’u hysgolion wedi bod yn agwedd annatod ar welliant yr awdurdod lleol. Trwy’r gwaith hwn, mae’r awdurdod lleol wedi sicrhau bod arweinwyr ysgolion yn deall disgwyliadau’r awdurdod lleol a’u rôl mewn cefnogi gwelliannau ar y cyd ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc ar draws y fwrdeistref.  

Trwy gyfarfodydd rheolaidd â phenaethiaid, cyflwyno grwpiau penaethiaid strategol ac ymweliadau rheolaidd ag ysgolion, mae’r Cyfarwyddwr a’r tîm arweinyddiaeth addysg wedi datblygu diwylliant agored lle mae arweinwyr ysgolion a staff yr awdurdod lleol yn dryloyw am gryfderau a materion. Mae hyn yn eu galluogi i weithio’n adeiladol gyda’i gilydd i oresgyn heriau a nodwyd.  

Mae’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Strategol Plant a Theuluoedd wedi cefnogi’r perthnasoedd cryfach hyn trwy eu hymgysylltiad rheolaidd ag ysgolion. Maent yn mynd ati i gefnogi penderfyniadau a chamau’r Cyfarwyddwr Addysg ac mae hyn yn helpu sicrhau’r gwelliannau gofynnol, hefyd.   

Gwella perthnasoedd â’r gwasanaeth gwella ysgolion 

Mae’r awdurdod lleol wedi gweithio’n agos gyda GCA i ddatblygu perthynas ymddiriedus, gadarnhaol ac agored. Mae arweinwyr yn GCA wedi ymateb yn dda i’r cymorth a’r her gynyddol ac wedi croesawu’r ffordd y gall y ddau wasanaeth gydweithio i wella deilliannau ar gyfer pobl ifanc yn ysgolion Torfaen.  

Mae uwch arweinwyr yn GCA yn cyfarfod yn rheolaidd â’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Addysg ac mae’r ddau wasanaeth yn fodlon bod yn agored, yn onest ac yn fyfyriol am gryfderau a meysydd i’w gwella ym mhob un o’u gwasanaethau. Mae’r Prif Bartner Gwella Ysgolion yn mynychu’r tîm arweinyddiaeth estynedig yn yr awdurdod lleol ac mae hyn wedi cefnogi gwybodaeth yr awdurdod lleol am ei ysgolion. Mae hyn wedi helpu swyddogion i gymryd camau cyflym a phendant pajn fydd unrhyw faterion yn codi.  

Mae GCA wedi gweithio’n gadarnhaol gyda phob awdurdod lleol i wella’r wybodaeth y maent yn ei darparu am ysgolion unigol, ac yn ei theilwra’n dda i gefnogi anghenion unigol Torfaen. O ganlyniad, caiff yr awdurdod lleol olwg well ar berfformiad ysgolion unigol erbyn hyn, yn ogystal â pha mor dda y mae disgyblion ar draws ysgolion Torfaen yn cyflawni.  

Mae’r awdurdod lleol a’r GCA yn cymryd cyfrifoldeb ar y cyd am sicrhau deilliannau gwell ar gyfer pobl ifanc, ac mae hyn wedi helpu’r ddau wasanaeth i wella’r ffordd y maent yn gweithio gydag ysgolion i osgoi dyblygu gwasanaethau.  

Datblygu diwylliant o arweinyddiaeth ddosbarthedig a gwelliant parhaus  

Mae arweinyddiaeth well y gwasanaeth addysg yn Nhorfaen wedi bod yn nodedig. Mae’r Cyfarwyddwr Addysg wedi gweithio’n ddygn i sicrhau bod pob un o’r staff yn deall eu rolau ac yn teimlo’n atebol am gyflwyno gwasanaeth o ansawdd uchel. Mae datblygu’r uwch dîm arweinyddiaeth wedi bod yn ffactor allweddol wrth sicrhau gwelliannau parhaus yr awdurdod lleol. Erbyn hyn, mae arweinwyr yn meddu ar ddealltwriaeth glir o reolaeth llinell a rheoli perfformiad yn effeithiol, ac maent yn glir â phob un o’r staff am eu disgwyliadau.  

Mae’r awdurdod lleol wedi darparu dysgu proffesiynol rheolaidd a buddiol ar gyfer staff ar bob lefel. Mae hyn yn arbennig o wir am y tîm arweinyddiaeth estynedig. Mae’r rhaglen arweinyddiaeth gyswllt yn darparu cyfleoedd i swyddogion ar bob lefel gymryd rhan mewn grwpiau arweinyddiaeth, yn ogystal â chefnogi llawer o staff i ehangu eu dealltwriaeth o waith y gwasanaeth addysg a meddwl a chynllunio’n fwy strategol. Mae’r grwpiau hyn wedi helpu dosbarthu arweinyddiaeth ac wedi annog staff i herio a chefnogi ei gilydd yn adeiladol. Mae hyn yn helpu’r gwasanaeth addysg i sicrhau gwelliannau pwysig a datblygu capasiti arwain.  

Gwella prosesau gwerthuso a gwella 

Nododd yr arolygiad craidd fod gwendidau pwysig ym mhrosesau gwerthuso a gwella’r awdurdod lleol. Ers yr arolygiad craidd, mae arweinwyr wedi sefydlu prosesau gwerthuso a gwella effeithiol ar draws y gwasanaeth addysg. Mae hyn yn galluogi’r Arweinydd a’r Aelod Gweithredol dros Blant a Theuluoedd i ddeall cryfderau a meysydd i’w gwella’r gwasanaeth addysg yn dda. Mae aelodau’n ymgysylltu’n rheolaidd â swyddogion ac mae ganddynt drosolwg clir o ysgolion a lleoliadau ar draws yr awdurdod. 

Mae’r Cyfarwyddwr Addysg wedi gweithio’n rhagweithiol gyda’i dimau i sicrhau bod staff yn meddu ar ddealltwriaeth well o brosesau gwerthuso a gwella. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gydag Arolygydd Cyswllt yr Awdurdod Lleol a ddarparodd sesiynau dysgu proffesiynol i dimau am ymagweddau effeithiol at werthuso a gwella. Trwy ystod eang o ddysgu proffesiynol, rheolwyr llinell cefnogol a heriol ac adborth rheolaidd, mae uwch arweinwyr wedi sicrhau bod prosesau gwerthuso a gwella yn cael eu deall yn dda a’u gweithredu’n gyson gan staff ar bob lefel. Roedd penodi swyddogion gwerthuso a gwella, a gwaith effeithiol y penaethiaid gwasanaethau, yn allweddol i’r gwelliannau hyn. Mae swyddogion yn defnyddio’r prosesau hyn yn drylwyr i werthuso gwaith y gwasanaeth yn rheolaidd ac yn gywir. O ganlyniad, mae uwch arweinwyr yn meddu ar ddealltwriaeth gref o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella ar draws meysydd gwasanaeth mewn addysg. Mae hyn yn sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer cynllunio gwelliant effeithiol. 

I wella’u prosesau atebolrwydd ymhellach, cyflwynodd yr awdurdod lleol ‘Fwrdd Gwella Carlam’ a gafodd ei gadeirio i ddechrau gan y Prif Weithredwr. Galluogodd y bwrdd hwn i uwch arweinwyr a swyddogion fonitro cynnydd yn agos a dwyn pob un o’r staff i gyfrif am gynnydd yn erbyn cynlluniau gwella gwasanaethau. Bu’r awdurdod lleol yn gweithio’n agos gyda mentor allanol hefyd a ddarparodd her a chymorth rheolaidd i’r awdurdod lleol. Yn dilyn llwyddiant y bwrdd hwn, mae’r awdurdod lleol bellach wedi defnyddio’r dull hwn ar draws gwasanaethau eraill.  

O ganlyniad i’r gwelliannau hyn, darperir adroddiadau cywir a buddiol i’r pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Addysg erbyn hyn. Mae aelodau’r pwyllgor yn gofyn cwestiynau perthnasol ac yn darparu her reolaidd trwy argymhellion clir, y mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi cael eu derbyn gan y Cabinet. 

Bu’r awdurdod lleol yn ymgysylltu’n gadarnhaol ag arolygydd cyswllt yr awdurdod lleol trwy gydol y prosesau hyn, a gyda’i gilydd, datblygon nhw berthynas onest a thryloyw lle trafodwyd cryfderau a meysydd i’w gwella yn agored. Bu arolygydd cyswllt yr awdurdod lleol yn cefnogi’r awdurdod lleol trwy gynnal gweithdai yn ymwneud â gwerthuso a chynllunio gwelliant. Helpodd hyn i wella dealltwriaeth swyddogion o arfer effeithiol ac roedd o gymorth i feithrin perthynas â swyddogion ar bob lefel. O ganlyniad, daeth swyddogion yn fwy hyderus i gymryd rhan mewn deialog agored a gonest gydag arolygwyr yn ystod yr ymweliadau monitro.   

Monitro cynnydd 

Creodd yr awdurdod lleol Grŵp Gwella Carlam, a fu’n cyfarfod bob mis i fonitro cynnydd yn erbyn yr argymhellion a’r cynllun gwella gwasanaethau. Mynychodd uwch arweinwyr a swyddogion o’r awdurdod lleol ynghyd ag uwch arweinwyr o’r GCA y grŵp hwn. Darparodd y grŵp hwn her a chymorth buddiol i’r gwasanaeth addysg a’r GCA a sicrhau bod y Prif Weithredwr ac aelodau gweithredol yn cael eu hysbysu am gynnydd.  

Hefyd, penodwyd mentor allanol gan yr awdurdod lleol a ymwelodd â’r awdurdod lleol yn rheolaidd a darparu llygad beirniadol buddiol ar gyfer y gwasanaeth a’r Prif Weithredwr. Galluogodd yr her a’r cymorth rheolaidd a buddiol hwn yr awdurdod lleol i fyfyrio’n ofalus am gryfderau a meysydd i’w gwella ar draws pob agwedd ar eu gwaith, a chynllunio i sicrhau gwelliannau.