Arweiniad atodol ar gyfer arolygu diogelu mewn darpariaeth ôl-16 - Estyn

Arweiniad atodol ar gyfer arolygu diogelu mewn darpariaeth ôl-16

Adroddiad thematig


Nod yr arweiniad atodol hwn yw cynorthwyo arolygwyr yn ôl yr angen i werthuso trefniadau diogelu darparwyr wrth gynnal arolygiadau.

Ym mhob agwedd ar ein gwaith, rhaid rhoi anghenion, buddiannau a lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus uwchlaw anghenion a buddiannau pawb arall. Felly, rhaid i’n Polisi Diogelu a’r arweiniad ynddo gael blaenoriaeth dros yr holl gyngor a pholisïau eraill. Trwy’r arweiniad hwn a thrwy hyfforddiant priodol, byddwn yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ein staff o achosion posibl o gam-drin, esgeulustra ac arfer broffesiynol anniogel mewn lleoliadau rydym yn eu harolygu, ac mewn lleoliadau eraill rydym yn ymweld â nhw.

Dylid defnyddio’r arweiniad atodol ar gyfer cyfeirio ato yn ystod arolygiad ochr yn ochr â’n Polisi a Gweithdrefnau ar gyfer Diogelu.

Nid yw’r arweiniad hwn yn cwmpasu’r modd y dylai arolygwyr ddelio â honiadau o ran diogelu a ddaeth i law yn ystod arolygiad. Rhaid i arolygwyr fod yn gyfarwydd â’n Polisi a Gweithdrefnau ar gyfer Diogelu (gweler uchod), sy’n cwmpasu plant, pobl ifanc ac oedolion bregus. Dylai pob arolygydd fod yn ymwybodol o beth i’w wneud os daw honiadau i law yn gysylltiedig â diogelu, ac amlinellir y camau angenrheidiol yn y ddogfen hon.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn