Arwain y ffordd i strategaethau newydd

Arfer effeithiol

Open Door Family Centre


 
 

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Canolfan Deuluol Drws Agored wedi’i chofrestru i ofalu am 19 o blant rhwng dwy a phedair oed ar unrhyw adeg benodol.  Cynhelir sesiynau Dechrau’n Deg ar gyfer plant dwy flwydd oed rhwng 9.00am ac 11.30am bum bore’r wythnos yn ystod y tymor, ac am bythefnos yn ystod gwyliau’r haf.  Cynhelir sesiynau’r cyfnod sylfaen ar gyfer plant tair oed rhwng 12.30pm a 3.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau bob wythnos.

Mae’r lleoliad ar safle Ysgol Yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng yn Oldford ym Mhowys.  Ceir lefelau sylweddol o amddifadedd yn yr ardal.  Mae lleiafrif o blant yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.  Sefydlwyd Canolfan Deuluol Drws Agored yn wreiddiol fel grŵp rhieni a phlant bach ym 1993 gan grŵp o wirfoddolwyr, ac mae wedi datblygu o hyn.  Mae iddi ethos cariadus a meithringar, a’i nod yw darparu cyfleoedd effeithiol i blant chwarae a dysgu mewn amgylchedd hapus a diogel.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Roedd angen i Ganolfan Deuluol Drws Agored gael ei monitro gan Estyn ar ôl ei harolygiad yn 2013.  Ar ôl newid rheolwyr, roedd arweinwyr newydd yn awyddus i gael cyngor a chymorth da i’w helpu i symud ymlaen.  Gwnaethant y gorau o gyfleoedd ac awgrymiadau a gynigiwyd gan Blynyddoedd Cynnar Cymru, cymorth busnes gofal plant, athrawon y cyfnod sylfaen ac athrawon ymgynghorol Dechrau’n Deg.  Bu arweinwyr yn gweithio gyda’i gilydd yn llwyddiannus i sefydlu rolau a strategaethau rheoli clir.  Fe wnaethant rannu gweledigaeth gref yn effeithiol gyda phob un o’r ymarferwyr, a chreodd hyn ethos cadarnhaol yn y lleoliad.  O ganlyniad, mae pob un o’r staff yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau, ac yn gweithio gyda’r ymddiriedolwyr yn dda i gyflawni nodau’r lleoliad ac ysgogi gwelliannau cynaledig.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae rheolwyr ac ymddiriedolwyr wedi sefydlu prosesau a gweithdrefnau eithriadol o dda i sicrhau bod y lleoliad yn ddiogel, yn cael ei redeg yn effeithlon, yn bodloni’r holl safonau gofynnol cenedlaethol, ac yn aml yn rhagori ar y rhain.  Maent wedi sefydlu prosesau syml, effeithlon ac effeithiol sy’n cynnal eu ffocws ar weithdrefnau pwysig yn gyson ac yn llwyddiannus.  Mae’r rhain yn cynnwys rhestrau gwirio syml i sicrhau eu bod yn adolygu polisïau ac yn adnewyddu tystysgrifau mewn modd amserol.  Ceir amserlen sefydledig ar gyfer cyfarfodydd goruchwylio ac arfarnu.  Mae arweinwyr yn defnyddio’r cyfarfodydd hyn yn llwyddiannus i nodi cryfderau ymarferwyr, a’u cynorthwyo yn eu datblygiad proffesiynol yn effeithiol.  Maent yn gosod targedau datblygu defnyddiol sy’n helpu cymell ymarferwyr, yn cefnogi eu lles ac yn arwain at welliannau yng ngwaith y lleoliad.  Mae arweinwyr yn cadw trosolwg defnyddiol o hyfforddiant mewn fformat syml sy’n cynnwys gwerthuso’r effaith ar safonau yn y lleoliad.  Maent yn trosglwyddo’r prif negeseuon o hyfforddiant i’r holl ymarferwyr, fel bod hyn yn cael yr effaith fwyaf posibl ar waith y lleoliad.  Mae gan ymddiriedolwyr rôl hanfodol a gweithredol yn y lleoliad.  Er enghraifft, maent yn sicrhau bod ffocws effeithiol ar gynnal safonau diogelu uchel yn y lleoliad.  Caiff cyfathrebu da ei werthfawrogi’n fawr.  Cynhelir cyfarfodydd tîm misol sy’n cynnwys yr holl ymarferwyr mewn ysgogi gwelliannau yn llwyddiannus.  Mae arweinwyr yn defnyddio fformat syml ond hynod effeithiol i gofnodi camau gweithredu o’r cyfarfodydd, sy’n galluogi iddynt fonitro cynnydd yn rheolaidd.  

Mae arweinwyr yn defnyddio adnoddau yn hynod effeithiol i ddiwallu anghenion plant a hyrwyddo safonau uchel o ran dysgu a lles.  Defnyddiant eu dealltwriaeth broffesiynol a’r medrau y maent yn eu datblygu mewn hyfforddiant yn hynod effeithiol i ddewis adnoddau newydd yn ddoeth.  Er enghraifft, yn ddiweddar, fe wnaethant fuddsoddi mewn gwrthrychau ‘go iawn’ ar gyfer y gornel gartref i ddarparu cyd-destun ystyrlon ar gyfer chwarae’r plant.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau plant?

Trwy sefydlu prosesau a gweithdrefnau syml a hynod effeithiol, a dilyn y rhain yn gyson, sicrheir bod y lleoliad yn ddiogel a saff, bod ymarferwyr yn datblygu’n dda yn broffesiynol ac yn mwynhau bod yn rhan o dîm cryf, a bod plant yn elwa ar ddarpariaeth o ansawdd uchel sy’n cael ei gwerthuso a’i mireinio’n rheolaidd.  Mae hyn yn arwain at safonau uchel o ddysgu a lles yn y lleoliad.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae Canolfan Deuluol Drws Agored yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu ei harfer dda, ac mae’r awdurdod lleol yn rhannu gwybodaeth am arfer dda â lleoliadau eraill, er enghraifft trwy ddigwyddiadau rhwydweithio.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn