Arwain dysgu proffesiynol ar draws ysgolion y clwstwr i ddatblygu dwyieithrwydd disgyblion.

Arfer effeithiol

St David’s R.C. Jnr. & Inf. School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant yn ysgol 3-11 cyfrwng Saesneg yng Nghwmbrân yn awdurdod lleol Torfaen. Mae gan yr ysgol ddalgylch eang ac mae’n gwasanaethu teuluoedd o’r ystod economaidd-gymdeithasol lawn. Mae 217 o ddisgyblion ar y gofrestr, ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys 22 o blant meithrin rhan-amser. Mae’r ysgol wedi’i threfnu’n 7 dosbarth amser llawn, 6 dosbarth un oedran ac un dosbarth oedran cymysg.

Daw bron pob un o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir Saesneg fel yr iaith gyntaf. Mae tua 25% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae tua 5% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae gan ryw 17% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig. Cyfradd gyfartalog presenoldeb dros gyfnod o 3 blynedd yw 95.5%.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol wedi datblygu ymagwedd at ddysgu proffesiynol gyda ffocws cryf ar addysgu a dysgu medrau Cymraeg. Yn 2019, ymgymerodd yr arweinydd Cymraeg â rhaglen sabothol yn llwyddiannus i wella’i gwybodaeth a’i hyder i siarad Cymraeg trwy raglen Cymraeg Mewn Blwyddyn. Ar ôl cwblhau’r rhaglen, ymunodd yr ymarferwr â rhaglen ysgol nos dros gyfnod o ddwy flynedd, a atgyfnerthodd ei medrau presennol ac ehangu ei gallu fel siaradwr Cymraeg ymhellach. Darparodd hyn blatfform cadarn i’w galluogi i uwchsgilio staff a disgyblion o fewn yr ysgol ac ar draws y clwstwr yn ei rôl fel Arweinydd Strategol y Gymraeg.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Datblygu dwyieithrwydd yn Ysgol Dewi Sant

  • Nododd archwiliad o fedrau staff fod angen hyfforddiant i feithrin gallu’r tîm. Neilltuwyd amser bob wythnos mewn cyfarfodydd dysgu proffesiynol i gyflwyno a diwygio patrymau iaith mewn sesiynau â ffocws. Yn ychwanegol, cyflwynwyd ‘Brawddeg y Pythefnos’ ar gyfer y staff, i ymestyn eu patrymau iaith. Roedd yr ymadrodd hwn yn amrywio o orchmynion i batrymau brawddeg y gellir eu cymhwyso ar draws y cwricwlwm ac ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd yr ysgol. Roedd codau QR sy’n cael eu harddangos mewn ystafelloedd dosbarth ac o gwmpas yr ysgol yn gyfeiriad gweladwy i gynorthwyo staff, hefyd. 

  • Yn 2022, manteisiodd yr arweinydd Cymraeg ar y cyfle ar gyfer dysgu proffesiynol pellach trwy raglen sabothol Llywodraeth Cymru. Am ddeuddydd yr wythnos, mae’r ymarferwr yn gweithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg leol i ddatblygu ei medrau llafaredd ymhellach ac arsylwi’r amrywiaeth o addysgegau a ddefnyddir i ymgorffori patrymau iaith. 

  • Wedyn, caiff y medrau a’r addysgegau hyn eu rhoi ar waith yn Ysgol Dewi Sant. Mae’r arweinydd Cymraeg yn cyflwyno patrymau brawddeg ac ymadroddion dwyieithog sy’n gysylltiedig â thestunau’r ysgol, ac yn cael eu cymhwyso ym mhob maes dysgu. Mae’r ymagwedd hon wedi bod yn allweddol i ymestyn y dysgu dwyieithog ymhellach, gyda phatrymau iaith yn cael eu cymhwyso’n ddi-dor ar draws yr holl feysydd dysgu gan staff a dysgwyr.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

  • Mae gallu staff i ddefnyddio a chymhwyso eu gwybodaeth am batrymau a gorchmynion Cymraeg yn hyderus ar draws y cwricwlwm, ac mewn tasgau dilys a phwrpasol, wedi gwella’n sylweddol. Mae natur ddwyieithog gwersi yn gryfder ar draws yr ysgol.  

  • Yn aml, mae dysgwyr yn defnyddio cyfuniad o ymadroddion Cymraeg a Saesneg yn eu gwaith ar draws y cwricwlwm. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu medrau Cymraeg cryf ac yn hyderus a balch i fod yn Gymry.

  • Mae’r ‘Criw Cymraeg’ yn ymgymryd â’u rolau arwain yn frwd ac maent yn ganolog i amlygu a dathlu’r defnydd o Gymraeg llafar ar draws yr ysgol. Mae disgyblion yn cynllunio a chyflwyno digwyddiadau ar gyfer cymuned yr ysgol, fel y ‘Caffi Cymraeg’, gan eu galluogi i ddefnyddio ac arddangos eu medrau Cymraeg mewn cyd-destunau dilys. Yn ychwanegol, caiff y Gymraeg ei hyrwyddo’n gadarnhaol ar yr iard trwy ddefnyddio gorsaf gerddoriaeth symudol i staff a disgyblion fwynhau amrywiaeth eang o ganeuon Cymraeg. Dyfarnwyd y ‘Wobr Arian’ yn llwyddiannus i’r ‘Criw Cymraeg’ ym mis Mehefin 2022.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Yn 2020, ymgymerodd yr arweinydd â rôl Hyrwyddwr Sabothol Cymraeg, gan rannu arfer orau gyda chydweithwyr o bob cwr o’r rhanbarth. Yn 2021, lledaenwyd arfer dda yn benodol i’n hysgolion clwstwr trwy rôl Arweinydd Clwstwr. 

  • Cyfarfu’r Arweinydd Cymraeg â chydweithwyr yn eu hysgolion i ennill dealltwriaeth fanwl o’u darpariaeth bresennol, eu cryfderau a’r meysydd a nodwyd ganddynt sydd angen eu datblygu.

  • Llywiodd hyn gynllun gweithredu ar gyfer cymorth pwrpasol i gynorthwywyr addysgu, wedi’i deilwra yn unol â’r anghenion a’r ceisiadau ar gyfer pob ysgol. Roedd cynnwys y sesiynau hyfforddi yn amrywio o ddefnyddio Cymraeg sylfaenol a Chymraeg achlysurol i Gymraeg yn yr awyr agored ac ar draws y cwricwlwm.

  • Cyflwynwyd yr hyfforddiant gan ddefnyddio ystod o addysgegau i uwchsgilio ymarferwyr. Roedd amrywiaeth o ganeuon, rhigymau ac ‘ymateb corfforol cyflawn’ (TPR) yn cefnogi datblygiad ymadroddion a phatrymau brawddeg newydd yn effeithiol. Cafodd pob ymarferwr gronfa o ddeunyddiau ac offer gweledol i gyfeirio atynt yn eu lleoliadau eu hunain.   

  • Mae adborth gan gydweithwyr yn dangos bod yr hyfforddiant teilwredig wedi gwella’u dealltwriaeth o’r Gymraeg, a’u hyder i’w defnyddio. Mae hefyd wedi cael effaith gadarnhaol yn eu lleoliadau trwy gymell aelodau eraill o’u tîm i ddefnyddio’r gronfa adnoddau.

  • Mae’r Arweinydd Cymraeg yn parhau i weithio gydag Arweinwyr Cymraeg y clwstwr i ddarparu deunyddiau hyfforddiant i gefnogi dysgu proffesiynol o fewn eu hysgolion.