Arsylwi athrawon ac adolygiad o feysydd dysgu a phrofiadau yn ysgogi cwricwlwm cyfoethog
Quick links:
Cyd-destun
Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth wedi’i lleoli ar gyrion Aberystwyth yng Ngheredigion. Mae 400 o ddisgyblion, gan gynnwys 54 o blant oedran meithrin rhan-amser.
Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae llawer o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref, ac ychydig iawn ohonynt sydd o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Mae’r ysgol wedi nodi bod gan leiafrif o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ond bod gan ychydig iawn ohonynt ddatganiad o anghenion dysgu ychwanegol.
Cam 1: Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach
Mae’r pennaeth a’r llywodraethwyr yn rhoi rhyddid dirwystr i arweinwyr fod yn greadigol er mwyn datblygu cwricwlwm arloesol. Maent yn frwdfrydig ynglŷn â darparu cyfleoedd rheolaidd i staff arbrofi ag ymagweddau addysgu amrywiol sy’n cryfhau eu gallu i ddatblygu medrau disgyblion. Cefnogir hyn gan weledigaeth yr ysgol i sicrhau bod gan staff ddealltwriaeth drylwyr a llwyddiannus o’i chryfderau a’i gwendidau mewn addysgeg. Mae arweinwyr yn gweithio’n galed i gyflwyno cymorth a hyfforddiant effeithiol pan fydd angen fel bod pob aelod o staff yn ymwybodol o’u galluoedd addysgu. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, mae’r pennaeth yn defnyddio’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon i arfarnu effeithiolrwydd yr addysgu a’r ddarpariaeth.
Ym mis Medi 2015, penderfynodd yr ysgol ystyried un maes dysgu a phrofiad ar y tro er mwyn arfarnu’r cwricwlwm presennol. Dechreuodd yr ysgol â’r celfyddydau mynegiannol.
Y cam cyntaf oedd craffu ar lyfrau disgyblion a gofyn “Beth allem ni ei hepgor – beth sy’n ddiangen?” Sylwodd arweinwyr fod cerddoriaeth yn aml yn cael ei chynnwys mewn gwaith thematig, ond nad oedd athrawon yn cynllunio ar y cyd er mwyn datblygu medrau disgyblion yn effeithiol. Felly, penderfynodd staff arbrofi â ‘diwrnodau cerddoriaeth greadigol’, a oedd yn canolbwyntio ar gyfansoddi gan ddefnyddio TGCh, a chanolbwyntiwyd yn glir ar ddatblygu medrau llythrennedd.
Er mwyn arfarnu effeithiolrwydd y ddarpariaeth hon, bu athrawon yn arsylwi ei gilydd dros dymor. Trwy weithio’n agos mewn timau o bedwar, roedd un o’r pedwar athro yn addysgu gwers. Bu’r athrawon eraill yn arsylwi’r wers ac yn rhoi adborth. Yr wythnos ganlynol, tro athro arall oedd cael ei arsylwi’n addysgu. Ar ôl darparu adborth, bu athrawon yn golygu’r cynllunio, a dylanwadodd canlyniadau’r arsylwadau ar wersi yn y dyfodol. Bu’r athrawon yn cynllunio gweithgareddau a fyddai’n meithrin datblygiad medrau llythrennedd a TGCh disgyblion trwy’r gwersi cerddoriaeth greadigol. Wedi i bob un o’r athrawon gael eu harsylwi, bu staff yn trafod y canlyniadau mewn cyfarfod staff ac fe wnaethant gytuno ar argymhellion sydd bellach yn flaenoriaethau yng Nghynllun Datblygu’r Ysgol. Y tymor canlynol, TGCh ac iechyd a lles oedd ffocws yr arsylwadau.
Ym mis Medi 2016, wedi blwyddyn o fonitro agweddau penodol ar y chwe maes dysgu, roedd yr ysgol yn barod i arbrofi trwy gynllunio themâu yn seiliedig ar y dyniaethau, y celfyddydau mynegiannol, iechyd a lles a gwyddoniaeth a thechnoleg.
Mae arweinwyr yn sicrhau bod themâu’n datblygu dealltwriaeth disgyblion o’r medrau allweddol trwy brofiadau uniongyrchol. Enghraifft o hyn oedd defnyddio gwaith ‘T Llew Jones’ fel thema ganolog ar gyfer gweithgareddau drama, dawns a cherddoriaeth. Bu’r ysgol hefyd yn datblygu medrau TGCh trwy dasgau barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol cyfoethog. Mae gweithgareddau rheolaidd o’r fath yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh i lefel gyson uchel.
Mae arfarnu effeithiolrwydd y cwricwlwm, ei addasrwydd, ei berthnasedd a’i effaith ar godi safonau, wedi bod yn rhan annatod o brosesau hunanarfarnu’r ysgol ers dwy flynedd. Mae athrawon o’r ddau gyfnod allweddol wedi arfarnu ehangder a chynnwys y gweithgareddau sydd ar gael i ddisgyblion. Mae prosesau hunanarfarnu’r ysgol yn edrych yn benodol ar lyfrau thema’r disgyblion ac yn ystyried yr agweddau sy’n berthnasol i’r pedwar diben. Maent hefyd yn arfarnu pa gynnwys cwricwlwm y mae angen ei leihau neu’i hepgor o bob blwyddyn academaidd.
Mae arweinwyr yn canolbwyntio’n barhaus ar sicrhau bod pob aelod o staff yn deall pwysigrwydd dilyniant medrau fel bod pob gweithgaredd yn datblygu medrau fel man cychwyn. O ganlyniad, mae pob gwers ar draws yr ysgol bellach yn wers rifedd, lythrennedd neu TGCh.
Er mwyn cefnogi’r gwaith hwn, mae aelod o staff ac aelod o’r uwch dîm rheoli yn mynychu pob cyfarfod ysgol arloesi. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn clywed yr un negeseuon gan Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, datblygodd pob aelod o staff ddealltwriaeth gadarn o ofynion Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), yn ogystal â’r wybodaeth angenrheidiol i arfarnu effeithiolrwydd, addasrwydd a dichonoldeb eu darpariaeth bresennol o ran y cwricwlwm.
Cam 2: Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid
Mae’r llywodraethwyr wedi ymateb yn synhwyrol i Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), ac maent yn awyddus i osgoi brysio i ddechrau newid hyd nes bydd y cwricwlwm wedi cael ei gyflwyno ar ffurf ddrafft. Maent yn annog staff i archwilio ymagwedd bresennol yr ysgol at addysgeg trwy rymuso staff â medrau pellach.
Mae pob un o’r rhanddeiliaid yn gweithio gyda’i gilydd trwy brosesau ‘Rhannu Dysgu’ er mwyn nodi arfer dda ac agweddau y mae angen eu gwella neu’u newid. Mae pob aelod o’r uwch dîm rheoli wedi cyfrannu’n llawn at ymglymiad yr ysgol â’r cynllun arloesi, ac wedi sicrhau bod cynllun datblygu’r ysgol yn cynnwys blaenoriaethau addas i ddechrau newid. Er enghraifft, mae adeiladu ar strategaethau a phartneriaethau Ysgolion Arloesi gan ddefnyddio’r Fframwaith Digidol fel offeryn trawsgwricwlaidd yn un o bedair prif flaenoriaeth yr ysgol. Mae cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi’r ysgol i fynd i’r afael â’r flaenoriaeth hon yn effeithiol ac mae arweinwyr yn arfarnu cynnydd a’i effaith ar addysgu a dysgu yn rheolaidd. Mae’r ysgol yn defnyddio’r cyllid hwn yn effeithiol i roi amser digyswllt i bob aelod o staff fonitro addysgu yn yr ysgol ac ymestyn eu datblygiad proffesiynol eu hunain trwy hyfforddiant ac ymchwil. Mae hyn wedi datblygu dealltwriaeth fanwl ymhlith y staff o elfennau sylfaenol addysgeg effeithiol sydd wedi eu galluogi i ddatblygu syniadau cynllunio newydd gyda staff ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, a Chwmni Theatr Arad Goch. Mae staff wedi elwa ar weithio’n agos gydag arbenigwyr ym maes dawns a TGCh, sydd wedi cyfoethogi’r profiadau sydd ar gael i’r disgyblion. Roedd prosiect arloesol, ‘Meintoli Medrau Trwy’r Celfyddydau Mynegiannol’ yn cynnwys 15 o fyfyrwyr prifysgol yn gweithio’n agos ag athrawon o’r ysgol er mwyn cynllunio gweithgareddau’r celfyddydau yn seiliedig ar waith awduron o Gymru. Roeddent yn canolbwyntio ar weithdai ysgrifennu creadigol a drama gan ddefnyddio arbenigedd cyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Arad Goch. Mae athrawon yn gweithio gyda’r myfyrwyr o’r brifysgol i ddarparu cyfleoedd gwerthfawr iddynt arsylwi gwersi am bedair wythnos cyn cynllunio eu medrau llythrennedd a rhifedd eu hunain trwy’r celfyddydau mynegiannol.
Er mwyn cynllunio’n effeithiol ar gyfer datblygu’r cwricwlwm, mae’r pennaeth wedi datblygu pecyn arsylwi at ddefnydd pob un o’r athrawon. Mae’n nodi’n glir pa agweddau y mae angen eu cofnodi a’u harfarnu. Mae hyn yn rhoi ffocws cadarn iawn ar ddatblygu medrau arwain athrawon o ran y safonau proffesiynol newydd, ac yn eu cymell i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain. Yn ystod y tymor cyntaf yn adolygu’r cwricwlwm, bu athrawon yn craffu ar lyfrau mewn timau o bedwar, yn yr un ffordd ag y maent yn arsylwi addysgu ei gilydd. Yn ystod yr ail dymor, gwahoddwyd athro o ysgol arall i ymuno â’r broses a rhannwyd canlyniadau’r arfarniadau ar lwyfan dysgu digidol Llywodraeth Cymru, sef HWB360.
Cam 3: Cyflawni newid
Mae’r ysgol wedi diwygio’r ffordd y mae athrawon yn cynllunio gweithgareddau er mwyn gweithio o fewn prosiectau byr a grymus, gan greu is-themâu o amgylch agweddau ar gerddoriaeth greadigol, ysgrifennu creadigol, dawns, celf, TGCh, barddoniaeth a drama. Mae’r ysgol yn rhannu’r gwaith cynllunio ar gyfer TGCh ac ysgrifennu creadigol yn genedlaethol gydag ysgolion eraill trwy Hwb360. Mae staff yn rhannu’r holl newidiadau i gynllunio mewn cyfarfodydd staff, sy’n deillio o graffu ar lyfrau ac arsylwadau tîm o wersi ei gilydd. Mae’r newidiadau hyn yn sicrhau bod newid yn digwydd yn raddol. Caiff pob un o’r staff eu cynnwys mewn gwneud penderfyniadau, ac nid ydynt dan bwysau i newid eu cynllunio’n rhy gyflym.
Mae aelodau o’r uwch dîm rheoli yn cyflwyno adroddiadau manwl i’r corff llywodraethol, sy’n wybodus iawn am y gwaith a wneir yn yr ysgol. Mae hyn yn eu galluogi i gynorthwyo cyrff llywodraethol eraill trwy gyflwyniadau ymarferol ar ddatblygu’r cwricwlwm yn eu cyfarfodydd.
Cam 4: Arfarnu newid
Mae’r ysgol yn arfarnu’r cwricwlwm a ddarperir yn barhaus ac mae’n symud tuag at ‘ddiwrnodau o ddysgu’ sy’n seiliedig ar agenda Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015). Mae hyn yn galluogi athrawon i fod yn fwy hyblyg yn eu hymagwedd at gynllunio a chyflwyno profiadau cwricwlaidd cyfoethog.