Arsylwi addysgu a dysgu yn effeithiol mewn colegau addysgu bellach

Adroddiad thematig


Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi i ymateb i gais am gyngor ar ‘arsylwi addysg a dysgu’ yn effeithiol gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014. Hwn yw’r ail o ddau adroddiad. Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf ym mis Hydref 2014 ac mae’n canolbwyntio ar arsylwi ystafelloedd dosbarth yn effeithiol mewn ysgolion (Estyn, 2014a). Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar arsylwi addysgu a dysgu yn effeithiol mewn colegau addysg bellach (AB). Mae defnydd y term ‘arsylwi addysgu a dysgu’ yn adlewyrchu’r ystod eang o leoliadau a chyd-destunau y mae dysgu’n digwydd ynddynt mewn addysg bellach, er enghraifft ystafelloedd dosbarth, gweithdai, ceginau a salonau.


Argynhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A1 hyrwyddo cyfleoedd, fel prosiect y Gronfa Gwella Ansawdd, i gynorthwyo colegau wrth iddynt ddatblygu eu dulliau arsylwi addysgu a dysgu a’u hannog i rannu arfer arloesol ac effeithiol

Dylai ColegauCymru:

  • A2 gydweithio â cholegau a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cymunedau dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu addysgu a dysgu

Dylai Colegau:

  • A3 sefydlu diwylliant o wella, hunanarfarnu a dysgu proffesiynol er mwyn i’r holl staff ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau
  • A4 sefydlu arferion hunanarfarnu sy’n ystyried ystod eang o dystiolaeth, gan gynnwys arsylwi dosbarthiadau sy’n canolbwyntio ar safonau cyflawniad dysgwyr ac ar ansawdd addysgu a dysgu
  • A5 datblygu polisïau ac arferion clir a phenodol ar gyfer arsylwi addysgu a dysgu y mae’r holl staff yn eu deall a’u cymhwyso, a sicrhau bod yr holl staff sy’n gyfrifol am ddysgu, gan gynnwys cynorthwywyr cymorth dysgu, yn elwa ar arsylwadau rheolaidd
  • A6 trefnu cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol staff, ar sail tystiolaeth sy’n cynnwys arsylwi addysgu a dysgu, sy’n cyfateb i flaenoriaethau’r coleg ac aelodau staff unigol
  • A7 ystyried manteision achredu arsylwyr â ‘thrwydded arsylwi’ fewnol neu fframwaith achredu allanol er mwyn gwella ansawdd a chysondeb hyfforddiant i arsylwyr
  • A8 gweithio ar y cyd â cholegau eraill i wella cysondeb arsylwadau wedi’u graddio ar draws colegau a rhannu arfer dda
  • A9 datblygu’r defnydd o arsylwadau heb eu graddio i helpu athrawon i ddatblygu eu medrau addysgu
  • A10 annog athrawon i fod yn berchen ar eu harfer broffesiynol eu hunain trwy roi cyfleoedd iddynt fyfyrio ar arfer, gan ddefnyddio arsylwadau cymheiriaid heb eu graddio, aelodaeth o rwydweithiau proffesiynol, mentora a chymorth cymheiriaid

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn