Arolwg o’r trefniadau ar gyfer rheoli lles ac ymddygiad disgyblion mewn unedau cyfeirio disgyblion – Ionawr 2012
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai awdurdodau lleol:
- osod safonau clir ar gyfer defnyddio ymyriad ac ataliad corfforol cyfyngol gan UCDau ac ar gyfer cadw cofnodion a sicrhau bod rheolwyr llinell, pwyllgorau rheoli ac aelodau etholedig yn gallu monitro’r rhain yn effeithiol;
- gwneud yn siŵr bod adroddiadau am ddigwyddiadau yn cael eu defnyddio i lywio’r adolygiad o bolisïau’r awdurdod lleol ar gyfer lles a diogelu disgyblion;a
- dwyn athrawon sydd â gofal i gyfrif yn effeithiol, trwy ddefnyddio trefniadau adrodd sy’n canolbwyntio ar les disgyblion, ac arfarnu’r strategaethau ar gyfer cefnogi disgyblion ag ymddygiad heriol.
Dylai unedau cyfeirio disgyblion (UCDau):
- adolygu eu polisïau yn rheolaidd, a’u halinio ag arweiniad Llywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol;
- cyflwyno gwybodaeth yn glir i staff yn eu polisïau a’u harweiniad ysgrifenedig; a
- cyflwyno hyfforddiant i bob un o’r staff mewn rheoli ymddygiad, ymyriad ac ataliad corfforol cyfyngol sy’n adlewyrchu arfer orau.