Arolwg o hyfforddiant cymwysterau proffesiynol ar gyfer gweithwyr ieuenctid yng Nghymru - Chwefror 2010 - Estyn

Arolwg o hyfforddiant cymwysterau proffesiynol ar gyfer gweithwyr ieuenctid yng Nghymru – Chwefror 2010

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai sefydliadau addysg uwch:

  • wneud trefniadau i drafod a rhannu arfer dda;
  • trefnu cyfarfodydd rheolaidd gyda phawb sy’n cyflogi gweithwyr ieuenctid cymwys, i ymgynghori ar ddyluniad, cynnwys a chyflwyno cyrsiau ieuenctid a chymunedol;
  • gwneud yn siŵr bod cynllunio’r cwricwlwm yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau mewn cyd-destunau sy’n integreiddio arfer â theori;
  • gwella eglurder yr arweiniad i wella goruchwylwyr lleoliadau am eu rôl addysgol mewn cyrsiau, fel eu bod yn gwybod yn glir beth yw eu cyfrifoldebau am ddatblygu medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol hyfforddeion; a
  • gwella argaeledd hyfforddiant i oruchwylwyr lleoliadau gwaith, i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau a’u rolau asesu yn effeithiol.

Dylai gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol:

  • wella sicrhau ansawdd lleoliadau gwaith a ddarperir gan eu staff, i sicrhau bod gan bob goruchwyliwr gymwysterau cymwys, a’u bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn