Arloesi drwy waith tîm

Arfer effeithiol

Bryn Deva C.P. School


 

Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Sirol Bryn Deva yng Nghei Connah yn Sir y Fflint.  Mae gan yr ysgol 290 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 35 sy’n mynychu’r dosbarth meithrin yn rhan-amser. 

Mae llawer o ddisgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig.  Mae rhai disgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol.  Mae rhai disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n dod o deuluoedd Cymraeg.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan leiafrif o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion dysgu ychwanegol.  Mae lleiafrif o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. 

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Datblygu gweledigaeth ar gyfer newid cwricwlwm

Ym mis Medi 2015, ailedrychodd yr ysgol ar ei gweledigaeth a’i gwerthoedd craidd i sicrhau bod gwella safonau ac arfer yn ganolog i’w gwaith.  Roedd hyn yn dilyn cyfnod o ymweld ag ysgolion yn lleol a thu hwnt yng Nghymru i weld arfer orau.  Trwy gydol y cyfnod hwn, manteisiodd yr ysgol ar bob cyfle i ystyried goblygiadau Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), i lywio’i gweledigaeth ar gyfer plant a datblygiadau dilynol y cwricwlwm, er enghraifft digwyddiadau hyfforddi ar gyfer pob un o’r staff a diweddariadau ar gyfer llywodraethwyr.  Sicrhaodd hyn eu bod yn deall y modd yr oedd y weledigaeth a’r datblygiadau newydd yn cyd-fynd â’r cyfeiriad a amlinellir yn adroddiad yr Athro Donaldson. 

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Mae’r ysgol yn canolbwyntio ar ddatblygu arfer dda trwy sefydlu prosiectau arfer fyfyriol mewnol.  Mae pob un o’r staff, y llywodraethwyr a’r disgyblion yn cyfrannu at y broses i ddatblygu gwerthoedd craidd.  Er mwyn casglu barn rhieni, defnyddiodd arweinwyr ‘ap’ digidol, a arweiniodd at lefelau ymateb da gan rieni.  O ganlyniad i’r gwaith hwn, sefydlwyd datganiad gweledigaeth newydd, sef ‘Bod y gorau y gallwn fod’. 

Y man cychwyn ar gyfer cyflawni’r weledigaeth hon oedd mireinio darpariaeth yr ysgol i sicrhau mai lles disgyblion yw’r brif flaenoriaeth.  Rhesymeg yr ysgol yw na fydd disgyblion yn datblygu eu medrau a’u cymwyseddau mewn meysydd dysgu eraill, heb ddarpariaeth effeithiol ar gyfer lles.  Wrth gynllunio a pharatoi ar gyfer newid, nododd arweinwyr yr egwyddorion allweddol canlynol:

  • Mae newidiadau i’r cwricwlwm yn deillio o anghenion a nodwyd trwy weithgareddau hunanarfarnu, sydd wedi’u hanelu at wella deilliannau disgyblion
  • Mae iechyd a lles yn ganolog i’r cwricwlwm ac addysgeg
  • Rhaid i gynllunio’r cwricwlwm fod yn hyblyg i ymateb i anghenion newidiol unigolion a grwpiau o ddisgyblion
  • Mae gan ddisgyblion rôl weithredol mewn cynllunio beth maent yn ei ddysgu, a sut
  • Mae profiadau dysgu yn greadigol ac eang, ac yn cwmpasu ystod y cwricwlwm cenedlaethol presennol
  • Mae profiadau dysgu’n canolbwyntio ar ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh disgyblion mewn cyd-destunau difyr a pherthnasol
  • Mae cwricwlwm yr ysgol yn galluogi’r ysgol i gysylltu â’r gymuned leol a gwella’i henw da a’i safle yn y gymuned leol
  • Mae pob un o’r staff yn cyfrannu at arwain mentrau a cheir trefniadau effeithiol i ddatblygu arweinwyr a staff ar bob lefel
  • Ceir systemau cryf i adolygu datblygiadau a diwylliant o arfer fyfyriol
  • Mae staff yn mentro mewn ffordd gymesur wrth gynllunio; er enghraifft, nid ydynt bob amser yn gwybod i ble yn union y gallai gweithgareddau arwain

Cam 3: Cyflawni newid

Fel arfer, mae’r ysgol yn cyflawni newid trwy gyfuniad o fentrau ysgol gyfan a phrosiectau grŵp sy’n canolbwyntio’n benodol ar anghenion y tri cham oedran yn yr ysgol.  Mae’r holl fentrau a phrosiectau yn cysylltu â gwerthoedd craidd yr ysgol, a chânt effaith uniongyrchol ar flaenoriaethau o gynllun gwella’r ysgol.  Yr hyn sy’n bwysig, p’un a yw’n fenter ysgol gyfan neu’n strategaeth gwella sector, yw bod cynllunio, paratoi, gweithredu ac arfarnu yn dilyn fformat cyffredin. 

Cam 1:  Nodi’r mater a’r targedau penodol ar gyfer gwella

  • Mae hyn yn deillio o weithgarwch hunanarfarnu.

Cam 2:  Nodi arweinwyr a chamau gweithredu penodol

  • Mae’r ysgol yn defnyddio arweinwyr sector neu unigolion â medrau penodol i arwain prosiectau a nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i lwyddo.

Cam 3:  Gweithredu

  • Mae staff yn rhoi’r strategaeth ar waith mewn hinsawdd gefnogol.

Cam 4:  Arfarnu’r effaith

  • Ar ddiwedd cyfnod a nodwyd ymlaen llaw, mae arweinwyr, gan gynnwys llywodraethwyr, yn myfyrio ar yr effaith y mae prosiect wedi’i chael ar sicrhau gwelliannau i ddisgyblion.

Datblygiadau cwricwlwm ysgol gyfan sy’n cefnogi’r pedwar diben

Mae’r ysgol yn rhoi llawer o strategaethau ar waith ar gyfer gwella lles disgyblion yn effeithiol.  Mae’r rhain yn cynnwys dosbarth anogaeth pwrpasol a dosbarth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, a threfniadau gweithio mewn partneriaeth hynod effeithiol gyda theuluoedd, asiantaethau arbenigol a darparwyr gofal cofleidiol.  Mae’r ysgol yn gweithio gyda chlwstwr o ysgolion lleol hefyd i rannu arfer dda o ran cynorthwyo plant a rhieni.  Mae arweinwyr yn olrhain cynnydd disgyblion a rhieni sy’n cymryd rhan yn y rhaglenni a’r strategaethau hyn.  Defnyddiant y wybodaeth hon yn ofalus i deilwra darpariaeth i fodloni anghenion unigol a nodi pa raglenni yw’r rhai mwyaf effeithiol.  Mae’r rhain yn hanfodol o ran cynorthwyo pob disgybl i elwa ar brofiadau dysgu’n llwyddiannus.  O’u cyfuno â chwricwlwm arloesol, maent yn hynod effeithiol o ran ennyn a chynnal diddordebau disgyblion mewn dysgu, datblygu medrau disgyblion a galluogi disgyblion i wneud cynnydd cryf iawn o’u mannau cychwyn unigol.  Mae’r agwedd hon ar ddarpariaeth yr ysgol yn cyfrannu’n dda iawn at lefelau uchel o hunan-barch a hyder ymhlith llawer o ddisgyblion.

Trefniadaeth a darpariaeth cwricwlwm ysgol gyfan ar gyfer medrau

Mae arweinydd pob sector yn gweithio gyda thimau o staff i ddatblygu’r cwricwlwm.  Nid ydynt yn defnyddio modelau cwricwlwm cyhoeddedig.  Yn hytrach, maent yn dewis themâu yn unol ag anghenion a diddordebau disgyblion yn yr ysgol.  Mae staff yn cynllunio cylch testunau dwy flynedd.  Mae pob testun yn dechrau â digwyddiadau ‘trochi’ fel ymweliad addysgol, pobl sy’n ymweld â’r ysgol neu ddigwyddiadau eraill wedi’u cynllunio’n arbennig.  Mae’r diwrnodau hyn yn sicrhau diddordebau disgyblion ac yn rhoi cyfle iddynt gyfarwyddo eu dysgu eu hunain trwy nodi’r hyn yr hoffent ei ddysgu trwy fapiau meddwl.  Mae’r broses hon yn effeithiol o ran sicrhau lefelau uchel o frwdfrydedd ac ymgysylltiad.  Mae hefyd yn sicrhau bod cwricwlwm datblygol yr ysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i ymgorffori’r tair elfen trawsgwricwlaidd yn Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015).

Arloesedd trwy waith tîm – Adeiladu cwch ar yr Afon Ddyfrdwy

Mae arweinwyr yn nodi agweddau penodol ar ddarpariaeth y mae angen eu gwella.  Yn sgil hyn, maent yn rhoi prosiectau ar waith sy’n rhan amlwg o gynllun gwella’r ysgol.  Maent hefyd yn cynorthwyo’r ysgol i gryfhau ei gallu i arwain.  Mae amrywiaeth o staff o bob lefel yn arwain y prosiectau.  Trwy gyfarfodydd staff, mae arweinwyr prosiect yn rhoi adborth i gydweithwyr sy’n cymryd rhan yn y prosiectau, ac yn nodi rhwystrau ac atebion posibl i’r materion hyn.  Mewn un enghraifft, aeth y disgyblion allan ar yr Afon Ddyfrdwy.

Nod y prosiect adeiladu cwch oedd gwella llythrennedd bechgyn ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 trwy greadigrwydd.  Fel rhan o’r fenter ysgolion arweiniol creadigol, bu disgyblion yn gweithio gyda’r gymdeithas cychwyr leol i adeiladu llong ar ffurf draig a’i hwylio ar yr Afon Ddyfrdwy.  Fel rhan o’r prosiect hwn, cafodd athrawon eu hyfforddi i’w cynorthwyo i asesu medrau creadigol disgyblion a chymhwyso ymagweddau creadigol at addysgu.  Defnyddion nhw’r hyfforddiant hwn yn dda i gynllunio ystod gyfoethog o weithgareddau.  Rhoddodd hyn gyd-destun go iawn i ddysgu’r disgyblion a oedd yn golygu llawer iddynt, ac arweiniodd hyn at lefelau uchel iawn o ymgysylltu a brwdfrydedd.  Rhoddodd y prosiect ysbrydoliaeth wirioneddol ar gyfer darllen ac ysgrifennu creadigol y disgyblion, a llwyddodd i wella’u dealltwriaeth o dreftadaeth Cei Connah a Chymru.  Mae wedi arwain at welliannau nodedig yng ngallu disgyblion i weithio’n barchus gyda phobl eraill, ac yn benodol, ym moeseg waith bechgyn. 

Ar ddiwedd y prosiect, lansiwyd y cwch ar y cei lleol, a dathlwyd hyn gan ddisgyblion, rhieni ac aelodau o’r gymuned.  Roedd hyn yn hynod fuddiol i’r disgyblion a’r ysgol.  Codwyd proffil ac enw da’r ysgol, ac roedd hyn yn ysgogiad cryf ar gyfer gwella.  Roedd y prosiect yn weladwy iawn yn y gymuned leol.  Fe wnaeth wella enw Bryn Deva yn y gymuned a galluogi disgyblion i fod yn falch o’u cyflawniadau yn eu hysgol. 

 

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn