Mae disgyblion 11-14 oed sy’n mynychu ysgolion arloesol yn dangos mwy o gymhelliant ac mae eu hathrawon yn fwy brwdfrydig. Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effaith y newidiadau i Gwricwlwm Cenedlaethol 2008 a roddodd fwy o reolaeth i ysgolion dros yr hyn y maent yn ei addysgu.Mae llwyddiant yn dibynnu ar arweinyddiaeth yr ysgol a brwdfrydedd y staff am ffyrdd newydd o weithio. Fodd bynnag, nid yw ysgolion yn darparu digon o gyfleoedd ar gyfer dysgu annibynnol, yn enwedig ar gyfer dysgwyr mwy abl a dawnus.
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- rannu eu cwricwlwm a’u harfer addysgu orau yn amlach gydag ysgolion eraill;
- ymgynghori mwy â dysgwyr ar beth y maent am ei ddysgu a sut; a
- monitro ac arfarnu effaith arloesiadau ar ddeilliannau dysgwyr.
Dylai awdurdodau lleol:
- gefnogi a herio ysgolion nad ydynt yn effeithiol neu’n arloesol wrth gynllunio a chyflwyno eu cwricwlwm;
- arwain datblygiad cymunedau dysgu proffesiynol ar gyfer rhannu arfer orau mewn arloesedd rhwng ysgolion.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ystyried cyflwyno mwy o hyblygrwydd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol i annog mwy o arloesedd;
- darparu mwy o arweiniad a chymorth ar gyfer arloesedd yng nghyfnod allweddol 3 ac yn ystod trosglwyddiadau o gyfnod allweddol 2 ac i gyfnod allweddol 4; a
- gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod adnoddau gwell ar gael i ysgolion, yn enwedig adnoddau cyfrwng Cymraeg.