Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion – Mehefin 2015
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai arweinwyr ysgol:
- ddatblygu diwylliant cadarn o ddysgu proffesiynol ar gyfer pob aelod o staff ar bobl lefel yn eu hysgol
- gwella cynllunio olyniaeth a throsglwyddo gwybodaeth gorfforaethol
- nodi potensial arwain staff yn gynnar a chefnogi datblygu’u gyrfa
- sicrhau bod strwythurau rheoli perfformiad yn talu sylw priodol i ddatblygu arweinwyr posibl y dyfodol
- defnyddio’r safonau arweinyddiaeth fel y sail ar gyfer arfarnu’u medrau arwain eu hunain ac ar gyfer datblygu staff fel arweinwyr y dyfodol
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- ddarparu arweiniad i arweinwyr ysgol profiadol ar ddatblygu’u staff fel arweinwyr y dyfodol
- darparu cyfleoedd i uwch arweinwyr ddatblygu’u medrau mewn meysydd allweddol fel herio tanberfformiad, defnyddio strategaethau i wella addysgu, a rhoi mentrau newydd ar waith
- darparu neu gael hyfforddiant cyfrwng Cymraeg neu Saesneg effeithiol i arweinwyr ar bob lefel
- hyrwyddo’r defnydd o’r safonau arweinyddiaeth a’r adolygiad arweinyddiaeth unigol i’r holl arweinwyr ysgol
Dylai Llywodraeth Cymru:
- weithredu strategaeth ar gyfer datblygu medrau arwain i ddarpar uwch arweinwyr ac uwch arweinwyr profiadol
- cynnwys datblygu medrau arwain fel trywydd yn y safonau proffesiynol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, athrawon ac arweinwyr canol