Arfer orau mewn mathemateg ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 7 oed – Mehefin 2009

Adroddiad thematig


Mae safonau addysgu mathemateg mewn ysgolion cynradd wedi gwella ar y cyfan, ond nid yw llawer o ysgolion yn rhoi digon o her i ddisgyblion weithio yn ôl eu llawn botensial. Yn yr ysgolion gorau, mae staff yn trafod gyda disgyblion sut y gallant ddefnyddio eu medrau mewn mathemateg i ddatrys problemau a chofnodi eu canfyddiadau mewn gwahanol gyd-destunau a sefyllfaoedd.Yn ychwanegol, mae cyrhaeddiad merched yn gyson uwch na chyrhaeddiad bechgyn. Fodd bynnag, mae cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen wedi helpu codi safonau cyrhaeddiad ar gyfer bechgyn oherwydd ei bwyslais ar ddysgu ymarferol.


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • ddyfnhau dealltwriaeth staff o fathemateg er mwyn iddynt allu nodi’r hyn y mae angen i ddisgyblion ei ddysgu nesaf yn well;
  • cynnig cyfleoedd gwell a mwy rheolaidd i ddisgyblion ‘ddefnyddio a chymhwyso’ mathemateg yn eu gwaith bob dydd, yn cynnwys gwella lefel yr her i’r disgyblion mwy abl ddatblygu eu medrau meddwl a datrys problemau; a
  • chynnwys pob un o’r staff, yn cynnwys y staff cymorth, wrth lunio cynlluniau datblygu mathemategol a chynlluniau tymor byr ar gyfer addysgu mathemateg a rhifedd.

Dylai awdurdodau lleol:

  • wneud defnydd gwell o ddadansoddi data i dargedu cymorth ar gyfer ysgolion y mae angen i’w perfformiad mewn mathemateg wella; a
  • darparu mwy o addysgu ar gyfer athrawon mewn mathemateg ac mewn sicrhau asesiadau athrawon mwy cywir a chyson ar ddiwedd Blwyddyn 2.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn