Arfer orau mewn addysgu a dysgu yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnod allweddol 2 - Mai 2015 - Estyn

Arfer orau mewn addysgu a dysgu yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnod allweddol 2 – Mai 2015

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • Gynllunio dilyniant o gyfleoedd dysgu i ddisgyblion er mwyn iddynt gael profiad o ehangder y celfyddydau creadigol a datblygu’u medrau creadigol wrth iddynt symud drwy’r ysgol
  • Cefnogi athrawon i ddatblygu’r medrau, y wybodaeth a’r hyder i addysgu’r celfyddydau creadigol yn dda
  • Monitro cyflawniadau disgyblion yn y celfyddydau creadigol
  • Gweithio’n agosach ag ysgolion eraill i rannu arfer orau ac adnoddau yn y celfyddydau creadigol

Dylai awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol:

  • Gynnig cyfleoedd i athrawon ddatblygu’u medrau a’u hyder wrth addysgu un neu fwy o bynciau’r celfyddydau creadigol
  • Darparu hyfforddiant i ysgolion i’w helpu i nodi, datblygu a rhannu arfer orau mewn addysgu ac asesu yn y celfyddydau creadigol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • Barhau i gynorthwyo ysgolion i wneud defnydd o gyllid penodedig i alluogi disgyblion o deuluoedd tlotach i ddysgu chwarae offerynnau cerdd ac i gymryd rhan lawn yn y celfyddydau creadigol
  • Cyhoeddi deunyddiau sy’n dangos y safonau disgwyliedig yn y celfyddydau creadigol 

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn