Argymhellion
Dylai ysgolion:
- A1 Sicrhau cydbwysedd rhwng datblygu medrau disgyblion a’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gynnwys pwnc
- A2 Sicrhau bod profiadau dysgu disgyblion yn y dyniaethau yn amrywiol, diddorol, dilyniadol a heriol, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 4
- A3 Monitro’r cynnydd a wna disgyblion yn y dyniaethau yn agosach
- A4 Arfarnu’r cwricwlwm ar gyfer y dyniaethau i baratoi ar gyfer datblygu a gweithredu’r maes newydd dysgu a phrofiad
- A5 Sefydlu rhwydweithiau lleol arfer dda i rannu adnoddau ac arbenigedd, gan gynnwys gwneud defnydd gwell o ardal yr ysgol
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- A6 Ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol gwell ar gyfer athrawon y dyniaethau
- A7 Darparu mwy o gymorth i ysgolion arfarnu eu cwricwlwm a chynllunio ar gyfer datblygu maes dysgu a phrofiad y dyniaethau
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A8 Sicrhau bod cyrsiau addysg gychwynnol i athrawon yn galluogi athrawon newydd, gan gynnwys athrawon cynradd, i feithrin y medrau angenrheidiol i addysgu’r dyniaethau yn llwyddiannus ac ymateb i’r Cwricwlwm newydd i Gymru