Arfer dda mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 4 – Hydref 2013
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai adrannau mathemateg:
- wneud yn siwr bod disgyblion yn datblygu medrau rhif, algebra a datrys
problemau cadarn yng nghyfnod allweddol 3; - gwella ansawdd yr addysgu a’r dysgu mewn gwersi mathemateg trwy wneud yn siwr bod:
- gwersi wedi’u strwythuro’n dda, yn ddifyr a heriol ac yn cysylltu’n dda â
thestunau a phynciau eraill; a - bod medrau rhif ac algebra yn cael eu datblygu a’u cymhwyso mewn
cyd-destunau newydd;;
- gwersi wedi’u strwythuro’n dda, yn ddifyr a heriol ac yn cysylltu’n dda â
- defnyddio asesiadau i roi gwybod i ddisgyblion sut maent yn gwneud a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella;
- lleihau i’r eithaf nifer y disgyblion sy’n cael eu cofrestru’n gynnar ar gyfer TGAU mewn mathemateg a sicrhau bod disgyblion yn dilyn cyrsiau astudio sy’n galluogi iddynt gyflawni’r graddau uchaf;
- seilio hunanarfarnu a chynllunio gwelliant ar dystiolaeth o arsylwi safonau disgyblion mewn gwersi mathemateg a chraffu ar eu gwaith; a
- rhannu arfer orau mewn ysgolion a rhyngddynt a’i defnyddio i gefnogi datblygiad proffesiynol athrawon.
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- ddarparu cymorth, cyngor a chyfleoedd datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon mathemateg, gan gynnwys hyrwyddo rhwydweithiau proffesiynol i rannu arfer orau.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- gynorthwyo ysgolion a chonsortia rhanbarthol i godi safonau mewn mathemateg ar gyfer pob disgybl; ac
- adolygu disgrifwyr lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyfnod allweddol 3 gyda’r bwriad o godi lefelau disgwyliadau ar lefel 5 mewn medrau rhif ac algebra.