Arfer dda mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 3 – Chwefror 2015
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai adrannau mathemateg:
- fonitro perfformiad disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chynnig ymyriadau targedig yn ôl yr angen
- bodloni anghenion disgyblion sy’n cael anawsterau neu ddisgyblion mwy abl
- cynyddu lefel yr her ar gyfer pob un o’r disgyblion trwy wneud yn siŵr bod:
- gwersi’n cael eu strwythuro i ennyn diddordeb pob un o’r disgyblion, eu cymell a’u hymestyn
- medrau datrys problemau mathemategol yn cael eu datblygu a’u cymhwyso mewn ystod eang o gyd-destunau bywyd go iawn
- sicrhau bod gweithdrefnau asesu ac olrhain yn gadarn
- gwella hunanarfarnu a chynllunio gwelliant adrannol
- rhannu arfer orau ar draws yr ysgol ac arfarnu ffyrdd newydd o weithio
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- hwyluso rhwydweithiau ar gyfer rhannu arfer orau rhwng adrannau mathemateg
- darparu cymorth, her a chyfleoedd datblygiad proffesiynol ar gyfer adrannau mathemateg ac athrawon unigol
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ymchwilio i’r gwahaniaeth mewn deilliannau rhwng bechgyn a merched mewn mathemateg
- mynd i’r afael â diffygion o ran cyflenwad athrawon mathemateg cymwys
Astudiaethau achos o arfer orau
- Cardiff High School, Cardiff
- Cwmtawe Community School, Neath Port Talbot
- Caerleon Comprehensive School, Newport
- Cardinal Newman R.C. Comprehensive School, Rhondda Cynon Taf