Arfer awdurdodau addysg lleol wrth fonitro lleoliad disgyblion sy'n cael eu haddysgu y tu allan i leoliad yr ysgol - Mai 2007 - Estyn

Arfer awdurdodau addysg lleol wrth fonitro lleoliad disgyblion sy’n cael eu haddysgu y tu allan i leoliad yr ysgol – Mai 2007

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • roi arweiniad clir i awdurdodau lleol am y mathau o ddarpariaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu cofrestru; a
  • rhoi gwybodaeth flynyddol i Estyn am yr holl safleoedd y mae awdurdodau lleol yn eu cofrestru.

Dylai awdurdodau lleol:

  • gofrestru gyda Llywodraeth Cymru yr holl safleoedd lle maent yn cynnal darpariaeth ar gyfer disgyblion o oedran ysgol heblaw’r rhai sydd mewn ysgolion prif ffrwd, arbennig neu feithrin;
  • hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau i’r ddarpariaeth gofrestredig yn flynyddol; a
  • gofyn am gydweithio agosach rhwng gweithwyr addysg, gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu a gweithwyr ieuenctid i nodi plant nad ydynt yn mynychu ysgolion neu ddarpariaeth addysgol gymeradwy arall.

Dylai ysgolion:

  • sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn