Arfarnu canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol - Chwefror 2007 - Estyn

Arfarnu canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol – Chwefror 2007

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddatblygu cofnod unedig o bob dysgwr sydd ag anghenion addysgol arbennig sy’n cynnwys manylion am eu hanghenion arbennig a’r math o ddarpariaeth i fodloni’r anghenion hynny; a
  • chynyddu cwmpas y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion (CYBLD) fel ei fod yn cael gwybodaeth am ddisgyblion mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar, y rhai sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) a’r rhai y mae awdurdodau’n ariannu darpariaeth yn y sector annibynnol ar eu cyfer.

Dylai Awdurdodau Addysg Lleol:

  • weithio’n agos gydag ysgolion i wella ansawdd a chysondeb y wybodaeth am ddisgyblion unigol ag anghenion addysgol arbennig.

Dylai ysgolion:

  • wella cywirdeb y wybodaeth am ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig a roddir i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru; a
  • chymryd Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn a’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn fel man cychwyn ar gyfer dadansoddi deilliannau dysgu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig fel rhan o hunanarfarnu.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn