Arfarniad o effaith cynlluniau a grant pontio ar bartneriaethau ysgol cynradd ac uwchradd yng nghyfnod - 2010 - Estyn

Arfarniad o effaith cynlluniau a grant pontio ar bartneriaethau ysgol cynradd ac uwchradd yng nghyfnod – 2010

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • adeiladu ar gynllunio gwaith partneriaeth a chlwstwr i helpu pob dysgwr i gyflawni safonau gwell mewn pynciau craidd ac mewn Cymraeg fel ail iaith;
  • codi safonau mewn llythrennedd a rhifedd trwy wneud defnydd gwell o wybodaeth am gyflawniadau disgyblion pan fyddant yn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd; ac
  • arfarnu’r trefniadau pontio yn well trwy holi barn rhieni neu ofalwyr a defnyddio’r canlyniadau i lywio cynlluniau hunanarfarnu a datblygu.

Dylai awdurdodau lleol:

  • sicrhau bod trefniadau pontio yn codi’r safonau a gyflawnir gan bob disgybl, yn cynnwys y disgyblion mwy abl; a
  • darparu hyfforddiant gwell ar gyfer athrawon ar wella parhad a dilyniant yn natblygiad disgyblion yn y Gymraeg.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • barhau i gefnogi clystyrau o ysgolion wrth adolygu eu cynlluniau pontio cychwynnol ac mewn cryfhau meysydd pontio allweddol.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn