Arfarnaid o ddysgu troseddwyr ôl – 18 yng Nghymru – Chwefror 2009
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- egluro’r trefniadau ariannu ar gyfer darpariaeth medrau sylfaenol i droseddwyr sy’n bwrw eu tymor yn y gymuned ar ôl Ebrill 2009; a
- gwella ansawdd y dysgu a’r medrau ar gyfer troseddwyr mewn carchardai a mannau prawf ymhellach.
Dylai darparwyr:
- sicrhau bod gweithdrefnau asesu effeithiol ar waith ar gyfer anghenion llythrennedd, iaith a rhifedd, wedi’u cysylltu â’r broses gynllunio, ac sy’n cynnwys gwneud diagnosis o ddysgwyr ag anawsterau dysgu a/neu anableddau; a
- sicrhau bod gan bob troseddwr gynllun dysgu unigol o ansawdd da, sydd wedi’i gysylltu â’u cynllun dedfryd, sy’n cydlynu’r holl waith a wnaed gan wahanol asiantaethau.