Ardal awyr agored symbylol a chyfoethog sy’n ysgogi chwilfrydedd plant yn ogystal â phrofiadau corfforol a chreadigol rhagorol.

Arfer effeithiol

Cylch Meithrin Coed Duon


Gwybodaeth am y lleoliad

Lleoliad cyfrwng Cymraeg yw Cylch Meithrin Coed Duon sydd wedi’i leoli ar safle Ysgol Gyfun y Coed Duon. Mae wedi’i gofrestru i dderbyn hyd at 19 o blant rhwng dwy a phedair oed. Daw mwyafrif y plant o gartref Saesneg a chânt eu trochi yn yr iaith Gymraeg wrth fynychu’r lleoliad. Ar hyn o bryd, mae gan y lleoliad saith aelod staff ac mae ar agor yn ystod tymor yr ysgol yn unig, o 9.15 i 11.45 o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Er bod yr ardal awyr agored o faint rhesymol, roedd yn teimlo’n orlawn ag ardaloedd amhenodol ac offer chwarae mawr, plastig. Roedd chwarae y tu allan yn ddi-strwythur ac nid oedd ymarferwyr yn teimlo bod y plant yn cael cyfleoedd dysgu a datblygu o ansawdd uchel yn yr awyr agored. Er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, roeddent am gynnwys garddio i gynnig darpariaeth symbylol o ansawdd uchel y tu allan, lle gallai’r plant ddysgu a datblygu i’w llawn botensial.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Arsylwodd ymarferwyr y plant yn yr ardal i weld sut roeddent yn defnyddio’r gofod. Nid oedd rhai plant i’w gweld yn cymryd rhan mewn chwarae pwrpasol o ansawdd uchel, felly roedd ymarferwyr eisiau gwella’r ardal i ennyn diddordeb pob un o’r plant. Llenwon nhw ffurflen fonitro yn amlygu beth oedd yn gweithio’n dda a beth roeddent am ei newid. Cyfrannon nhw’r wybodaeth hon i hunanwerthusiad a chynllun gwella’r lleoliad er mwyn sicrhau y cafodd unrhyw gamau gweithredu a amlygwyd eu cwblhau.

Meddyliodd ymarferwyr yn ofalus am ba eitemau roeddent am eu cynnwys yn yr ardal a defnyddio arian o grant datblygu’r blynyddoedd cynnar i brynu eitemau garddio, offer chwarae mawr ac adnoddau go iawn. Aethon nhw ati i greu ardaloedd clir hefyd, gan gynnwys siop a chegin fwd, sied lle gallai’r plant gael offer adeiladu cuddfan ac offer gwaith coed. Crëwyd ardal ar gyfer chwarae corfforol hefyd, lle gallai’r plant fynd ar gefn beiciau a defnyddio offer dringo a chydbwyso. Gwellodd ymarferwyr yr ardal â’r cylch boncyffion drwy dorri rhai o’r coed a oedd wedi gordyfu a darparu meinciau a silff lyfrau newydd, gan wneud yr ardal yn fwy deniadol i’r plant a chynnig ardal dawelach lle gallai’r plant ymarfer adrodd storïau. Ychwanegodd ymarferwyr guddfan hefyd â darpariaeth i ddau blentyn ar y tro, sy’n cynnig ardal dawel lle gall plant ymlacio a chwarae’n dawel. Ychwanegwyd ardal garddio benodedig hefyd â gwelyau blodau uchel, potiau planhigion, bwrdd potio, tŷ gwydr bach a thaclau garddio i blannu blodau a phlanhigion. Ychwanegwyd bwrdd a mainc lle gallai’r plant eistedd i orffwys. Mae’r ardaloedd awyr agored a grëwyd yn cynnig ystod o gyfleoedd symbylol i blant archwilio, ymchwilio a chymryd rhan mewn chwarae o ansawdd uchel, sy’n helpu i greu ymdeimlad o ryfeddod a pharchedig ofn.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau plant?

Mae’r newidiadau wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgu a datblygiad plant. Gall y plant ddewis ym mha ardaloedd yr hoffent chwarae ac maent yn ymroi’n fwy i’w chwarae. Mae chwarae’n fwy pwrpasol; mae’r ardal awyr agored yn fwy digynnwrf o lawer ac mae’r plant yn cael mwy o gyfleoedd i ddatblygu ac ymgorffori eu medrau. Mae’r ardal awyr agored yn cynnig dull dysgu cyfannol lle mae plant yn cael cyfle i ddatblygu eu holl fedrau drwy ystod o weithgareddau ac offer.