Ansawdd adeiladau newydd mewn Addysg Bellach au heffaith ar ddysgwyr – Mehefin 2010
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ofyn i Estyn gynnal adolygiad pellach ar ansawdd yr adeiladau newydd mewn colegau a’i effaith ar ddysgwyr o fewn y tair blynedd nesaf.
Dylai colegau addysg bellach:
- wneud yn siŵr bod effaith unrhyw waith adeiladu a/neu ailwampio mawr yn cael ei adrodd yn flynyddol ym mhrosesau hunanasesu’r colegau;
- parhau i sicrhau bod y strategaethau ystadau yn gyfoes a’u bod yn cynnwys cynllun treigl ar gyfer gwelliant parhaus yr ystâd; ac
- ymestyn y cydweithio gyda rhwydweithiau ardal lleol i sicrhau bod ceisiadau am waith adeiladu a/neu ailwampio mawr yn adlewyrchu anghenion y coleg a’i randdeiliaid.