Ansawdd addysg a hyfforddiant ym maes iechyd a gofal cymdeithasol oedolion

Adroddiad thematig


Diben yr arolwg thematig hwn yw rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar safonau ac ansawdd presennol addysg a hyfforddiant ym maes gofal cymdeithasol oedolion a gyflwynir gan sefydliadau addysg bellach (SABau) a darparwyr dysgu yn y gwaith (DYYG) ledled Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried ansawdd yr addysgu, y ddarpariaeth a’r arweinyddiaeth a rheolaeth mewn rhaglenni hyfforddi gofal cymdeithasol oedolion. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio’n bennaf ar hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal mewn cartrefi gofal preswyl a lleoliadau gofal cymdeithasol oedolion eraill.


Argymhellion

Dylai darparwyr:

  • A1 Gwella dealltwriaeth dysgwyr o ddulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac addysgu ac asesu’r dulliau hyn
  • A2 Gwella llythrennedd a rhifedd dysgwyr a’r cymorth, yr asesu a’r cynlluniau gweithredu ar gyfer y medrau hyn
  • A3 Sicrhau bod gan aseswyr feichiau gwaith hylaw fel bod eu hymweliadau â hyfforddeion yn digwydd yn ddigon aml a’u bod yn ddigon hir
  • A4 Gwneud yn siŵr bod aseswyr yn meddu ar wybodaeth a medrau ar lefelau addas i gynorthwyo dysgwyr yn llawn
  • A5 Gwella cytundebau lefel gwasanaeth gyda chyflogwyr, a chynnwys cyflogwyr yn fwy mewn hyfforddi ac asesu dysgwyr

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A6 Cynorthwyo darparwyr i wella arferion asesu a hyfforddiant a chymhwysedd aseswyr trwy weithio gyda chyflogwyr, Cyngor y Gweithlu Addysg, ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru i ddarparu digwyddiadau datblygiad proffesiynol
  • A7 Gwella’r drefn ar gyfer casglu data ar gyrchfan dysgwyr

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn