Ansawdd addysg a hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc sy’n gysylltiedig â thimau troseddau ieuenctid
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai awdurdodau lleol a thimau troseddau ieuenctid:
- A1 Asesu’r cynnydd y mae pobl ifanc yn ei wneud wrth ddatblygu medrau meddal, fel hyder, medrau cymdeithasol, a hunanbarch, ac wrth wella eu medrau llythrennedd a rhifedd
- A2 Sicrhau bod cydlynydd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth (addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant) penodedig gan yr holl wasanaethau
- A3 Sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hawl i addysg mewn modd amserol, ac adrodd i fyrddau rheoli ynglŷn â’r cyfnod amser y mae pobl ifanc yn ei dreulio heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
- A4 Datblygu strategaethau effeithiol sy’n cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd
- A5 Arfarnu ansawdd, effeithiolrwydd ac effaith eu gwasanaeth yn well er mwyn gwella ansawdd, a llywio cynllunio strategol er mwyn gwella cyfleoedd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc
- A6 Ehangu ystod aelodau anstatudol y bwrdd rheoli i gynnwys darparwyr addysg a hyfforddiant lleol allweddol