Ansawdd a pherthnasedd hyfforddiant staff i gyflwyno ASO a SSIE – Mawrth 2010

Adroddiad thematig


Nid oes fframwaith cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer ymarferwyr sy’n cyflwyno darpariaeth ar gyfer addysg sylfaenol i oedolion a Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i ymarferwyr gael y cymwysterau priodol.


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • sefydlu safonau cymhwyster cenedlaethol ar gyfer addysgu, cyflwyno a chefnogi ASO a SSIE yng Nghymru sy’n diffinio’r rolau amrywiol a’r cymwysterau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer pob un;
  • sicrhau bod y llwybrau i gymwysterau yn glir a diamwys ar gyfer yr holl staff sy’n addysgu, yn cyflwyno, yn cefnogi neu’n asesu ASO a SSIE; a
  • sefydlu system drylwyr ar gyfer achredu dysgu blaenorol (ADB) sy’n cydnabod cymwysterau a phrofiad presennol.

Dylai darparwyr:

  • nodi a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cyflwyno hyfforddiant ar y cyd mewn partneriaeth â darparwyr eraill i sicrhau bod ystod ehangach i bob ymarferwr ddatblygu ei fedrau; a
  • pharhau i gynnig cyfleoedd perthnasol a phenodol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i ymarferwyr ASO a SSIE.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn