Annog medrau creadigol a chorfforol ymhlith plant - Estyn

Annog medrau creadigol a chorfforol ymhlith plant

Arfer effeithiol

Aberporth Bilingual Playgroup


 
 

Gwybodaeth am y lleoliad

Cylch chwarae sy’n cael ei redeg yn wirfoddol i blant rhwng dwy a phedair oed yw Cylch Chwarae Aber-porth, sydd wedi’i leoli ym mhentref arfordirol Aber-porth, Ceredigion, ac mae o fewn ardal Dechrau’n Deg.  Mae pedwar aelod o staff amser llawn a dau aelod o staff rhan-amser.  Mae dau aelod o staff yn rhannu’r rôl arwain.  Bu un arweinydd yn ei rôl er mis Medi 1985 a’r llall er mis Medi 2017.  Mae’r lleoliad wedi’i gofrestru ar gyfer 21 o blant, ac adeg yr arolygiad, roedd naw o blant yn derbyn addysg gynnar a ariennir.  Cynhelir sesiynau bob bore, yn ystod y tymor ysgol am bum niwrnod bob wythnos. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae ymarferwyr yng Nghylch Chwarae’r Blynyddoedd Cynnar Aber-porth yn cynllunio’n greadigol i ddarparu gweithgareddau hwyliog ac ysgogol sy’n deillio o ddiddordebau a chwestiynau plant, ac yn eu meithrin.  Mae ymarferwyr yn myfyrio a gwerthuso safonau a darpariaeth yn drylwyr yn barhaus i nodi cryfderau a gwneud newidiadau i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion pob un o’r plant.  Mae hyn yn amlwg iawn yn eu darpariaeth i ddatblygu medrau creadigol a chorfforol plant.

Sylwodd ymarferwyr fod plant yn mwynhau gweithgareddau oedd yn canolbwyntio ar ddatblygiad creadigol, ond nid oedd y trefniant o ran darpariaeth barhaus yn rhoi digon o gyfleoedd iddynt ymgymryd â gweithgareddau yn annibynnol a datblygu ystod ehangach o fedrau. 

Nid oes gan y lleoliad unrhyw ofod llif rhydd yn yr awyr agored, ac felly mae ymarferwyr yn cynllunio darpariaeth datblygiad corfforol yn ofalus ac yn fwriadol iawn i sicrhau datblygiad medrau amrywiol pob un o’r plant.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Yn ystod y sesiynau hyn, mae plant yn symud yn rhydd rhwng ardaloedd darpariaeth barhaus fanylach a thasgau â ffocws sy’n cael eu cefnogi a’u herio gan ymarferwyr trwy arsylwadau, holi medrus a rhyngweithio.  Bu ymarferwyr yn adolygu eu hardaloedd darpariaeth barhaus, a nodwyd bod angen ailgyflwyno ardal berfformio i ddatblygu iaith a hyder plant wrth siarad â phobl eraill, canu a pherfformio gan ddefnyddio offerynnau cerdd.  Y datblygiad mwyaf arwyddocaol oedd gwella ansawdd yr ardal darpariaeth barhaus greadigol i gynnig amrywiaeth ehangach i blant o weithgareddau annibynnol a mwy o gyfleoedd i wneud dewisiadau a phenderfyniadau.  Fe wnaethant flaenoriaethu cyllid ac aildrefnu dodrefn er mwyn cael mwy o ofod llawr a gweithgareddau pen bwrdd i’w gwneud wrth sefyll.  Buont yn didoli, archwilio, prynu ac aildrefnu adnoddau yn ôl lliw a math, fel deunyddiau uno – glud, tâp – a gwneud yn siŵr fod yna ystod ddigonol a hygyrch.  I ddechrau, fe wnaethant gynnwys deunyddiau a oedd yn gyfarwydd i’r plant, a buont yn arsylwi plant yn defnyddio’r ardal i benderfynu pa adnoddau y byddent yn cael gwared arnynt neu’n eu hychwanegu i wella dysgu a datblygiad medrau pellach.  Mae ymarferwyr yn sylwi ar bwy sy’n defnyddio’r ardal hefyd, ac yn gwneud addasiadau i annog plant eraill i ddefnyddio’r ardal.  Mae datblygiad medrau yn amlwg iawn o fewn yr arsylwadau hyn, ac mae ymarferwyr yn defnyddio’r rhain i gynllunio gwelliannau pellach, er enghraifft yn ychwanegu amrywiaeth well o drwch cerdyn neu fel tasgau dilynol â ffocws, er enghraifft gweithgaredd medrau siswrn. 

Darpariaeth ar gyfer datblygiad corfforol

Mae’r ardal greadigol yn rhoi mewnwelediad gwell i ymarferwyr ar ddatblygiad a chynnydd medrau echddygol manwl plant hefyd.  Caiff datblygiad medrau echddygol mawr ei gynllunio’n fwriadol trwy weithgaredd symud bob dydd a thrwy sefydlu ardal darpariaeth barhaus Jabadao ar gyfer symud.  Er gwaethaf heriau’r adeilad o ran dim mynediad at ardal awyr agored llif rhydd, mae ymarferwyr yn gwneud defnydd rheolaidd o ofodau awyr agored cyfagos yn rheolaidd, fel ardal chwarae pob tywydd yr ysgol leol, y traeth a pharc y pentref.  Cyn ymweld, mae ymarferwyr yn cynllunio gweithgareddau pwrpasol o ansawdd uchel trwy amrywiaeth o gemau hwyliog a chyffrous.  Mae’r rhain yn targedu datblygiad medrau corfforol penodol yn ogystal â medrau ar draws meysydd dysgu eraill, er enghraifft ymwybyddiaeth ofodol, gwahanol symudiadau teithio, addasu cyflymdra a chyfeiriad, cydsymud, gwrando, cyfrif, a mynegi a rheoli emosiynau. 

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae gallu plant i ddewis deunyddiau creadigol a gwneud penderfyniadau wedi gwella’n fawr.  Mae eu mwynhad a’u lefel uchel o annibyniaeth yn amlwg iawn, yn ogystal â’u medrau corfforol echddygol manwl sy’n datblygu.  Gallant ddyfalbarhau, dangos gwydnwch, canolbwyntio am gyfnodau hwy a chynhyrchu ystod ehangach o waith creadigol yn annibynnol.  Maent yn fwy hyderus yn arbrofi â’u syniadau eu hunain ac yn datrys problemau sy’n codi.  Maent yn cynorthwyo plant eraill yn hyderus wedi iddynt ddarganfod a dysgu pethau eu hunain, fel defnyddio mwy o lud wrth lynu deunyddiau.  Mae mwy o blant yn defnyddio’r ardal, ac maent yn datblygu amrywiaeth ehangach o fedrau ac yn cynhyrchu samplau creadigol o waith. 

Mae ymwybyddiaeth ofodol plant, eu rheolaeth o’u corff a’u cydsymud yn datblygu’n raddol dda, gan gynnwys plant ag anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn yn amlwg pan fyddant yn defnyddio gofodau awyr agored mwy, yn ogystal â’u gofod agored dan do ac ardal symud Jabadao.

Mae’r gweithgareddau hyn yn targedu datblygiad medrau corfforol penodol yn llwyddiannus, yn ogystal â medrau ar draws meysydd dysgu eraill.  Mae ymarferwyr yn mynychu hyfforddiant arbenigol penodol i ddiweddaru eu gwybodaeth a’u medrau a sicrhau bod y ddarpariaeth yn cefnogi a bodloni anghenion pob un o’r plant, yn enwedig plant ag anghenion dysgu ychwanegol.  Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ymarferwyr wedi gwneud defnydd gwell o’u gwybodaeth am ddatblygiad medrau plant a’u harsylwadau wrth gynllunio cyfleoedd gwell ar draws y ddarpariaeth barhaus, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer datblygu medrau.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhennir arfer â staff a lleoliadau eraill trwy gyfarfodydd rhwydwaith a chylchlythyrau, er enghraifft Dechrau’n Deg, y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy.  

Mae Athrawon Ymgynghorol yr ALl a Dechrau’n Deg yn rhannu ffotograffau a phytiau fideo yn ystod ymweliadau cymorth â lleoliadau eraill, ac yn ystod hyfforddiant.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn