Annog dysgwyr i gyflawni mwy na’r hyn y maent yn ei ddisgwyl ohonyn nhw’u hunain
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Sefydlwyd Ysgol Oakleigh House ym 1919 ac mae’r grŵp ysgolion rhyngwladol, Cognita, wedi bod yn berchen arni er 2007. Mae Ysgol Oakleigh House wedi ei lleoli yn ardal Uplands yn Abertawe, ac mae’n cynnig addysg annibynnol i fechgyn a merched rhwng 2½ ac 11 oed.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector
Fel ysgol annetholus, mae Oakleigh House yn cydnabod bod ganddynt blant o ystod gallu eang ond mae’r ysgol yn disgwyl i bob disgybl anelu’n uchel a chyflawni ei orau. Mae’r ysgol yn credu y dylai pob plentyn anelu at gyflawni pethau nad oeddent yn disgwyl eu cyflawni erioed. Beth bynnag yw eu man cychwyn, caiff plant eu hannog i gyrraedd eu targedau ac ‘ychydig bach mwy’. Mae’r ysgol wedi mabwysiadu, ac addasu, meddylfryd o dwf, ar sail y gred y gall gwybodaeth dyfu a datblygu dros gyfnod.
Nod yr ysgol yw sicrhau bod y strategaethau y maent yn eu defnyddio i gefnogi dysgu eu disgyblion yn briodol ar gyfer pob plentyn, beth bynnag fo’i allu. Mae’r strategaethau hyn wedi eu cynllunio i ddatblygu medrau dysgu plant, gan gynnwys rhesymu, mentro, gwydnwch a dyfalbarhad, yn ogystal ag ehangu eu defnydd a’u dealltwriaeth o eirfa a gwybodaeth gyffredinol am y byd o’u cwmpas. Mae’r ysgol yn cynnig yr un cymorth ac anogaeth i bob disgybl, ac mae’n gweithio i sicrhau bod ‘ein harfer a’n darpariaeth yn addas i anghenion pawb’.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Fel rhan o waith yr ysgol tuag at ennill ‘Gwobr Her NACE Cymru’, cyflwynwyd y staff i waith Carol Dweck (2012) a chysyniad meddylfryd twf. Fe wnaethant archwilio’r gwahaniaeth rhwng meddylfryd sefydlog a meddylfryd twf ac fe gawsant eu hannog i ystyried sut y gallent ddylanwadu ar y ffordd yr oedd disgyblion yn meddwl amdanyn nhw eu hunain; yn benodol, i feddwl am sut i agor meddyliau disgyblion i gredu ynddyn nhw eu hunain a bod yn barod i ‘fentro’ bob amser. Y nod oedd helpu staff i adnabod ffyrdd y gallent annog y disgyblion i fod yn fwy gwydn wrth wynebu her, i ddeall ein bod yn dysgu oddi wrth ein camgymeriadau, a bod yn fwy annibynnol ym mhob agwedd ar eu dysgu.
Roedd yr ysgol am i ddisgyblion sylweddoli bod pob cam yn eu dysgu yn rhan o nod mwy ac nid y nod ei hun. Yn hytrach na chanolbwyntio ar weithgareddau her tuag at y disgyblion mwy abl yn unig, newidiodd ethos yr ysgol i hyrwyddo ‘her i bawb’ – y gred y gall pob disgybl gyflawni mwy nag y mae’n ei ddisgwyl ohono ef ei hun, gyda meddylfryd twf.
Roedd y disgyblion yn cael eu haddysgu i fod yn hyblyg wrth ymdrin â thasg neu agwedd a oedd yn heriol, yn eu barn nhw, gyda staff yn eu hannog i ddod o hyd i ateb yn annibynnol cyn gofyn i’r athro am gymorth. Yn aml, mae staff yn defnyddio’r dull ‘6B’a grëwyd mewn ffurfiau gwahanol, sy’n seiliedig ar waith Dweck, fel:
• Byddwch yn Ddewr: peidiwch â gadael i ddiffyg hyder eich dal yn ôl
• Byddwch yn Llonydd: arhoswch a meddwl; weithiau, byddwch yn meddwl am yr ateb
• Gofynnwch i Gyfaill: a yw cyfaill yn gallu ei esbonio i chi yn gliriach?
• Bwrw golwg yn ôl: edrychwch ar y bwriad dysgu neu’r meini prawf, neu edrychwch yn ôl ar waith blaenorol
• Amryw Bethau: cofiwch ddefnyddio’r adnoddau neu’r offer yn yr ystafell ddosbarth i’ch helpu
• Gofynnwch i’r Bos: os ydych chi wedi archwilio’r holl opsiynau eraill ac yn cael trafferth o hyd, yna mae’n bryd gofyn i oedolyn am gymorth’
Cafodd disgyblion eu hannog i ddefnyddio iaith gadarnhaol meddylfryd twf ym mhob gweithgaredd yn y dosbarth, o gwmpas yr ysgol ac mewn bywyd bob dydd, ac fe gafodd y disgyblion iau eu hannog i ddweud ‘Rydw i’n gallu ei wneud’ cyn gweithgaredd. Roedd staff yn atgyfnerthu’r athroniaeth hon trwy’r iaith ddatblygiadol a oedd yn cael ei defnyddio ganddynt wrth farcio a rhoi adborth, gan ganmol disgyblion am ddangos blaengaredd, cwblhau tasg anodd a gweithredu yn unol â chyngor ac awgrymiadau ar sut y gallent wella.
Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Fel rhan o adborth rheolaidd gan ddisgyblion ar ansawdd yr addysgu, mae disgyblion wedi dweud bod eu hagweddau at yr ysgol ac atyn nhw eu hunain wedi newid. Mae disgyblion wedi dweud eu bod wedi gallu cymryd rheolaeth o’u dysgu eu hunain a’u bod yn llai pryderus ynghylch gwneud camgymeriadau. Maent yn mwynhau archwilio tasgau penagored ac wrth eu bodd pan fyddant yn dangos i’w cyfoedion a’r athro beth y maent yn gallu ei wneud, beth y maent yn ei wybod, a sut maent yn gwybod. Yn ystod gwersi, mae disgyblion yn atgoffa ei gilydd am y 6B a strategaethau eraill y gallant eu defnyddio i helpu eu hunain i lwyddo. Maent yn credu eu bod yn ymgymryd â heriau yn fwy, a’u bod yn fwy agored i ymgymryd â chyfrifoldebau a rolau arwain mewn gweithgareddau grŵp, nad ydynt o bosibl wedi eu hystyried o’r blaen.
Dywed staff eu bod wedi dod yn fwy ‘hyblyg a chraff’ yn eu haddysgu ac yn eu disgwyliadau o ddeilliannau disgyblion: ‘does dim terfyn ar yr hyn y gall unrhyw ddisgybl ei gyflawni’. Mae staff wedi datblygu eu harfer eu hunain i roi cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion gymhwyso a datblygu eu medrau dysgu annibynnol. Er enghraifft, yn ogystal â gweithgareddau her yn y cwricwlwm, mae staff wedi mynd ati i chwilio am gyfleoedd eraill i ddisgyblion sy’n agor eu meddyliau i her, fel diwrnodau posau a gweithdy her torch Olympaidd. Yn aml, yn y gweithgareddau hyn, mae disgyblion a oedd fel arfer yn dawedog neu’n amharod i gymryd rhan, bellach yn dangos yr hyder i gymryd rhan ac ymgymryd â rolau arwain. Mae staff wedi gallu annog y disgyblion hyn i ddefnyddio’r un hyder wrth iddynt ddysgu yn yr ystafell ddosbarth.
Enillodd yr ysgol ei ‘Gwobr Her NACE Cymru’ ym Medi 2016. Cydnabu adroddiad y Wobr fod yr ysgol yn darparu “profiadau dysgu sydd â ffocws cryf ar feddwl a datrys problemau”. Cydnabu’r adroddiad fod yr athrawon yn defnyddio “technegau holi datblygedig a phenagored sy’n herio ac ysgogi meddwl a chwilfrydedd” a bod “dysgwyr yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn teimlo’n ddiogel i fentro heb ofni methu”.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer ag ysgolion eraill yng ngrŵp Cognita yn genedlaethol ac yn Ewrop.
Dweck Carol (2012) Mindset: how you can fulfil your potential. London, Robinson