Annog dysgwyr annibynnol ac ymholgar yn y Cyfnod Sylfaen

Arfer effeithiol

Blaengwawr Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Blaengwawr wedi’i lleoli ym mhentref Aberaman ger Aberdâr.  Ar hyn o bryd, mae 193 o ddisgyblion rhwng tair ac un ar ddeg oed yn yr ysgol.  Mae dau ddosbarth blwyddyn unigol, gan gynnwys dosbarth meithrin amser llawn, a phum dosbarth blynyddoedd cymysg yno. 

Dros y tair blynedd diwethaf, mae nifer cyfartalog y disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim wedi codi i oddeutu 31%, sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 19%.  Mae gan oddeutu 24% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sef tua’r cyfartaledd cenedlaethol.  Nid oes gan yr un disgybl ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Nifer bach iawn ohonynt sydd yng ngofal yr awdurdod lleol neu o gefndir ethnig lleiafrifol.  Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddisgyblion yn cael cymorth ar gyfer Saesneg fel iaith ychwanegol nac yn siarad Cymraeg mamiaith.  Ymgymerodd y pennaeth â’i swydd yn Ebrill 2011 ac roedd yr arolygiad diwethaf ym Mai 2010. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol yn seilio’i gweithdrefnau a’i threfniadau’n gadarn ar athroniaeth ac egwyddorion y Cyfnod Sylfaen.  Mae darpariaeth wedi’i chynllunio’n gyson ar draws y Cyfnod Sylfaen yn sicrhau amgylchedd dysgu sy’n canolbwyntio ar y plentyn a her i bob disgybl.  Mae’r holl ystafelloedd dosbarth ac ardaloedd awyr agored yn hybu gweithgareddau dysgu annibynnol, sy’n canolbwyntio ar y plentyn, yn eithriadol o dda trwy dasgau effeithiol â ffocws, a darpariaeth estynedig a pharhaus.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae athrawon a staff cymorth yn y Cyfnod Sylfaen yn cynnal cyfarfodydd cynllunio wythnosol.  Mae hyn yn sicrhau bod gan dasgau addysgu â ffocws nodau ac amcanion dysgu clir, a’u bod yn cwmpasu’r holl fedrau perthnasol mewn ffordd ddychmygus ac amrywiol.  Mae tasgau’n cynnwys defnyddio gwahanol “Wow Starters”.  Oherwydd bod Arweinydd y Cyfnod Sylfaen wedi mynychu hyfforddiant Arfer Addysgu Rhagorol, mae staff wedi ymestyn a gwreiddio’r syniadau hyn yn eu harfer yn effeithiol.  Mae’r ysgol wedi casglu a rhannu syniadau, a chreu cronfa o gychwynwyr addas a chreadigol i staff allu dewis o’u plith.  Mae staff yn defnyddio’r syniadau amrywiol hyn yn dda ar draws yr ysgol i roi gweithgareddau ysgogol a diddorol i ddisgyblion ym mhob grŵp dysgu.  Maent yn cyffroi ac yn ysbrydoli pob dysgwr i ddysgu ac yn cynnwys tasgau a chyfleoedd heriol ar gyfer strategaethau asesu wedi’u harwain gan y plentyn.

Mae tair enghraifft yn cynnwys:

Tasg â Ffocws 1 
I annog disgyblion i:
• fynegi eu barn, rhoi rhesymau a rhoi atebion priodol i gwestiynau
• ymateb i amrywiaeth eang o ysgogiadau
• defnyddio iaith ddarbwyllol, ymestyn eu dewisiadau o ran geirfa a defnyddio gwybodaeth flaenorol i gyfiawnhau eu barn

Tasg â Ffocws 2 – Ystafell ddosbarth awyr agored – ardal amgylcheddol fawr
I annog disgyblion i:
• amcangyfrif mesuriadau o ran hyd, uchder a chynhwysedd
• defnyddio unedau hyd safonol i gofnodi eu mesuriadau
• gweithio fel aelod o dîm
• gwerthfawrogi barn pobl eraill
• datblygu medrau datrys problemau

Mae disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn defnyddio’r ystafelloedd dosbarth awyr agored bob dydd, gyda gweithgareddau wedi’u cynllunio yn llunio rhan o’r tasgau wythnosol â ffocws, parhaus ac estynedig.  Mae staff yn cynllunio gweithgareddau ‘I Can Explore’ (ICE) ar eu cyfer yn yr ystafelloedd dosbarth awyr agored.  Y disgyblion eu hunain sy’n arwain y gweithgareddau ‘ICE’ heriol hyn.

Tasg â Ffocws 3 – Llythrennedd yn yr ystafell ddosbarth awyr agored
Defnyddio cychwynnwr stori fel ‘When we were going on a bear hunt’….
 
Mae staff yn ymestyn y ddarpariaeth ym mhob dosbarth i dair ystafell ddosbarth arall yn yr awyr agored, dwy ohonynt yn yr ardaloedd chwarae ac wedi’u llunio i gynnig darpariaeth barhaus o ansawdd uchel.  Mae’r drydedd ardal yn gae mawr gwyrdd wrth ymyl pwll, gyda choed, perthi, blodau gwyllt, strwythurau dringo pren, meinciau a gwelyau plannu uwch lle y mae disgyblion yn tyfu’u llysiau eu hunain.  Hefyd, mae twnnel polythen ben draw’r ardal hon sy’n cael ei ddefnyddio gan aelodau clwb garddio’r ysgol a disgyblion o bob dosbarth i ategu eu medrau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm.
 
Mae’r ysgol wedi mabwysiadu a datblygu system ‘Llais y Disgybl’, sydd bellach wedi’i gwreiddio ar draws yr ysgol.  Mae’n agwedd hollbwysig ar amgylchedd yr ystafell ddosbarth ac mae’n cynnwys yr ardaloedd dysgu awyr agored.  Mae wedi effeithio’n fawr ar lefelau annibyniaeth disgyblion a dysgu sy’n canolbwyntio ar y plentyn. 

Mae’r disgyblion yn ymwybodol o’r gwahanol feysydd dysgu ac, o ganlyniad, gallant herio’u hunain ac ymestyn eu syniadau ymhellach yn gydweithredol.  Mae staff yn sicrhau bod cydbwysedd yn bodoli rhwng Llais y Disgybl a’r ddarpariaeth estynedig.

Mae rolau staff cymorth wedi’u diffinio’n glir ac mae gwaith tîm effeithiol yn nodwedd amlwg o waith yr ysgol.  Mae gwaith tîm cydweithredol yn sicrhau bod staff yn annog disgyblion i ddefnyddio’u setiau medrau unigol a phenodol yn effeithiol.  Mae’r drefn hon, sydd wedi’i sefydlu’n dda, yn sicrhau profiad dysgu cadarnhaol a phwrpasol i bob disgybl. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae arweinwyr yn cydnabod:
• Bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da yn eu medrau yn y chwe maes dysgu
• Bod y rhan fwyaf o ddisgyblion wedi datblygu’n effeithiol iawn i fod yn ddysgwyr annibynnol
• Bod bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd da iawn o’u mannau cychwyn, trwy adalw dysgu blaenorol a chymhwyso’u medrau’n dda iawn mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd yn llwyddiannus
• Bod medrau llythrennedd disgyblion, yn enwedig eu medrau llafar, yn gadarn iawn ac yn treiddio i’r lefelau ysgrifennu ym mhob dosbarth

Mae ansawdd llefaredd ac ysgrifennu disgyblion wedi gwella, gan arwain at duedd sy’n gwella a nifer uwch o ddisgyblion yn cyflawni’r deilliant uwch 6 (D6) nag yn y blynyddoedd blaenorol (cyflawnodd tua 40% o ddisgyblion D6 yn 2016).
 
Mae gan bron pob un o’r disgyblion agweddau cadarnhaol at ddysgu, dangosant ddiddordeb yn eu tasgau a gweithiant yn ddiwyd am gyfnodau priodol. 

Mae medrau cymdeithasol disgyblion yn rhagorol.

Mae staff yn trefnu’r amgylchedd dysgu a’r adnoddau yn effeithiol i greu cydbwysedd rhagorol rhwng dysgu dan arweiniad oedolion a dysgu wedi’i ysgogi gan y disgyblion.  Mae hyn yn sicrhau bod disgyblion yn ymddiddori’n dda yn eu gweithgareddau ac yn dod yn ddysgwyr annibynnol a chwilfrydig. 

Mae’r holl ddosbarthiadau’n gwneud defnydd cynhyrchiol iawn o’r ardaloedd dysgu awyr agored.

Mae pwyslais enfawr ar ddeall a defnyddio meini prawf llwyddiant ym mhob grŵp oedran.  Mae hyn wedi sicrhau system hunanasesu ac asesu gan gymheiriaid sy’n llawer mwy cywir.  Mae’r heriau ychwanegol wedi dangos cynnydd yn annibyniaeth disgyblion.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae staff y Cyfnod Sylfaen wedi rhannu’u harfer gyda nifer o ysgolion lleol a grwpiau o athrawon.  Mae athrawon, uwch arweinwyr a staff cymorth wedi ymweld â’r ysgol i gysgodi staff ac arsylwi gweithgareddau a strategaethau ar waith, gan gynnwys sesiynau ‘Wow starter’.  Maent wedi arsylwi sut mae’r ysgol yn datblygu’i darpariaeth ar gyfer disgyblion yn yr ystafelloedd dosbarth dan do ac awyr agored.  Mae’r ysgol wedi cwblhau rhaglen cyd-anogaeth.  Mae hyn wedi caniatáu i’r holl athrawon addysgu grŵp blwyddyn penodol yn eu hysgol eu hunain a grŵp blwyddyn eu hathro partner yn eu hysgol hwythau.
 
Fe wnaeth staff rannu deilliannau hyfforddiant Arfer Addysgu Rhagorol gyda chydweithwyr a buont yn gweithio gyda’i gilydd i lunio rhestr o syniadau a fyddai’n estyn, yn ysgogi ac yn sicrhau dilyniant ac ansawdd gwaith ar gyfer disgyblion ym mhob dosbarth.