Annog dysgwyr annibynnol - Estyn

Annog dysgwyr annibynnol

Arfer effeithiol

Pembroke Dock CP School


 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Dechreuodd Ysgol Gymunedol Doc Penfro ddefnyddio’r dull hwn yng ngoleuni dogfen Dyfodol Llwyddiannus yr Athro Graham Donaldson a datblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru.  Mae’r dull hwn yn cefnogi datblygu nifer o agweddau ar un o bedwar diben y cwricwlwm – sef y bydd pob un o’r plant a’r bobl ifanc yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r ysgol yn seilio’i strategaeth addysgu a dysgu ar ymchwil a wnaed gan yr Athro John Hattie ar ddull dysgu gweladwy.  Er mwyn annog disgyblion i fod yn gyfrifol am eu dysgu eu hunain a dod yn fwy medrus i asesu eu gwaith eu hunain, cyflwynodd yr ysgol y strategaethau canlynol:

  • Proses o gasglu, dadansoddi, dehongli a defnyddio gwybodaeth am gynnydd a chyflawniad dysgwyr i wella addysgu a dysgu.

  • Caniatáu i ddisgyblion gymryd perchnogaeth o’u dysgu a’u datblygiad medrau eu hunain.Maent yn gwybod ble maent ar y continwwm medrau a beth yw eu camau nesaf.Trwy ddefnyddio eu llyfrynnau ‘Ysgolion Dysgu’, gall llawer ohonynt olrhain ac asesu eu cynnydd eu hunain yn effeithiol.

  • Galluogi disgyblion i gydnabod beth mae angen iddynt ei wneud pan fyddant yn dod ar draws rhywbeth nad ydynt yn ei wybod a chael strategaethau priodol i wneud cynnydd â’u dysgu.

  • Annog disgyblion i ofyn am adborth gan eu hathrawon ac ymateb iddo yn effeithiol, ac yn bwysicach, annog y disgyblion i roi adborth i staff am eu haddysgu.

  • Galluogi disgyblion i fod yn fwy gweithredol yn eu dysgu.Gallant ofyn y cwestiynau canlynol, a dod o hyd i’r ateb iddynt: Ble ydw i’n mynd?Sut ydw i’n mynd yno?I ble nesaf?Mae’r cwestiynau hyn yn cyfateb i syniadau o adrodd, adborth ac adrodd ymlaen.

  • Galluogi disgyblion i ddefnyddio ystod o strategaethau metawybyddol a ddatblygwyd trwy iaith ddysgu a rennir.

  • Annog disgyblion i weld dysgu fel gwaith caled, gyda meddylfryd i dyfu ac awydd i lwyddo.

  • Annog disgyblion i ddeall beth yw’r bwriadau dysgu a phwysigrwydd cael eu herio gan y meini prawf llwyddo.

  • Galluogi disgyblion i ddefnyddio offer effeithiol ar gyfer hunanasesu a’u herio eu hunain yn dda i wella.

  • Defnyddio asesu effeithiol ar gyfer dysgu, ac o ddysgu.Mae gan yr ysgol bolisi marcio hynod lwyddiannus fel bod athrawon yn rhoi adborth cyson ac effeithiol i ddisgyblion.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Trwy’r dull hwn, gall disgyblion ddysgu’n fwy annibynnol a gallant fynegi beth maent yn ei ddysgu a pham.  Gallant siarad am eu dysgu a’r strategaethau y maent yn eu defnyddio i ddysgu.  Gall disgyblion ddisgrifio eu camau dysgu nesaf a gallant ddefnyddio strategaethau hunanreoleiddio yn effeithiol.  Gall disgyblion osod eu nodau eu hunain ac maent yn dyheu am her.  Maent hefyd yn gweld camgymeriadau fel cyfleoedd i ddysgu.  Mae athrawon yn defnyddio adborth disgyblion i addasu eu cynllunio a’u haddysgu i fynd â dysgu disgyblion ymhellach.  Mae disgyblion eisiau llwyddo yn eu dysgu ac maent yn adnabod ffyrdd effeithiol o symud hyn ymlaen.  Mae disgyblion yn gwybod yn dda iawn beth yw eu hanghenion dysgu. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae Ysgol Gymunedol Doc Penfro wedi rhannu ei harfer dda ledled Cymru trwy gynnal diwrnodau agored i gydweithwyr ymweld a chymryd rhan mewn teithiau dysgu i weld y strategaethau ar waith.