Annog dysgu fel teulu

Arfer effeithiol

Merthyr Tydfil ACLPartnership


Gwybodaeth am y bartneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned

Mae data Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar gyfer 2019 yn dangos bod Merthyr Tudful yn ardal amddifadedd uchel ac mae bron pob un o’i wardiau yn y 10-30% o’r rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Ar draws y bartneriaeth, mae 62% o ddysgwyr yn byw mewn 40% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae proffil cymwysterau oedolion ar draws Merthyr Tudful yn dangos nad oes gan lefelau uchel o oedolion unrhyw gymwysterau, sef 14.8%, o gymharu â chyfartaledd Cymru, sef 8.4%. Yn 2018, roedd tua un o bob pum oedolyn yn gymwys islaw lefel 2, o gymharu â chyfartaledd Cymru, sef tua un ym mhob wyth. Mae’r gwahaniaeth hwn yn amlwg mewn cymwysterau lefel uwch hefyd.

Mae darpariaeth Rhaglenni Teuluoedd Addysg i Oedolion Merthyr Tudful yn rhan o gynnig cwricwlwm dysgu oedolion yn y gymuned Merthyr Tudful, ac yn creu amgylchedd lle gall rhieni, gofalwyr a phlant fanteisio ar ystod o gyfleoedd dysgu mewn lleoliadau ysgol, sy’n berthnasol i’w hanghenion.

Trwy asesu dysgwyr yn ffurfiol, mae darparwyr yn cyflwyno cyfleoedd dysgu i ddiwallu anghenion ac arddulliau dysgu unigol, gan felly uchafu potensial unigolyn i gyflawni a chael mwy o annibyniaeth ac ansawdd bywyd gwell, gan eu grymuso i fanteisio ar ddysgu a hyfforddiant pellach, yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth. 

Mae’r rhaglen, trwy gynnwys teuluoedd, yn gweithio i dorri’r cylch o dangyflawni rhwng y cenedlaethau a thanbrisio addysg a gwella cyfleoedd mewn bywyd i’r genhedlaeth nesaf.

Mae’r tîm Cymorth i Rieni ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a ariennir gan raglenni gwrthdlodi Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru, wedi’i leoli o fewn y Gwasanaeth Lles y Gymuned. Rheolwr llinell y tîm yw Rheolwr y Parth Cymunedol a Dysgu sydd hefyd yn rheoli’r gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned.

Nod y rhaglen yw ymestyn hyder, cymhelliant a gwybodaeth mewn ffordd hwyliog ac arloesol ar gyfer teuluoedd, a chreu awyrgylch lle caiff dysgu ei annog, ei werthfawrogi, a’i fod yn rhan o fywyd bob dydd. Mae rhaglenni yn gynhwysol ond gyda chymorth y gymuned, yn ymgysylltu â rhieni sy’n anodd eu cyrraedd nad oes ganddynt yr hyder i ymgysylltu, efallai, oherwydd eu profiadau negyddol a’u rhwystrau eu hunain.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Caiff Rhaglenni Teuluoedd eu cyflwyno o fewn dull partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol, ysgolion lleol ac Y Coleg Merthyr Tudful. Mae data perfformiad yn dangos bod y ddarpariaeth yn cael effaith sylweddol ar wella medrau dysgwyr.  

Mae tiwtoriaid sy’n addysgu dosbarthiadau Rhaglenni Teuluoedd yn dangos y gallu i gefnogi a meithrin dysgwyr yn briodol i’w helpu i feithrin gwydnwch. Maent yn creu amgylcheddau dysgu cyfforddus y mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ynddynt.

Mewn dosbarthiadau Rhaglenni Teuluoedd, mae rhieni a gofalwyr yn datblygu medrau llythrennedd a rhifedd ochr yn ochr â’u plant. Er enghraifft, mae dysgwyr yn gweithio’n dda ar weithgareddau wedi eu cynllunio i addysgu eu plant am arian trwy brofiadau bob dydd. Trwy’r gweithgareddau hyn, mae oedolion yn ennill dealltwriaeth ddefnyddiol o ddulliau cyfrifo presennol. Gwnânt gynnydd cyson o ran gwella eu medrau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol eu hunain, ac maent yn magu hyder mewn tasgau fel ysgrifennu curriculum vitae, gwneud ceisiadau swydd neu ddefnyddio meddalwedd gyfrifiadurol i ddysgu gyda’u plant.

Cyflwynir y Rhaglenni Rhianta gyda grwpiau o rieni sydd â phlant / pobl ifanc yn yr un ystodau oedran neu sy’n wynebu’r un heriau fel ADHD neu Anhwylder y Sbectrwm Awtistig. Mae tiwtoriaid yn cyflwyno cyrsiau mewn lleoliadau cymunedol lleol, a chynigir cyfleusterau meithrinfa a lluniaeth. Os nad yw grwpiau mewn lleoliad lleol sy’n hawdd ei gyrraedd, gellir darparu rhywfaint o gymorth cyfyngedig ar gyfer anghenion cludiant.

Cyn mynychu’r rhaglenni, bydd pob rhiant yn cael o leiaf un ymweliad gan weithiwr ymgysylltu. Mae hyn yn golygu y gellir meithrin ymddiriedaeth o fewn y berthynas, ac yn cefnogi casglu gwybodaeth ar gyfer asesiad llawn o anghenion y rhiant, ac yn nodi’r ffactorau a allai, yn eu barn nhw, eu rhwystro rhag mynychu’r cwrs / cyrsiau. Hefyd, mae’r ymweliadau ymgysylltu yn rhoi trosolwg llawn i rieni o’r cymorth sydd ar gael, gan eu galluogi i baratoi a magu eu hyder i fynychu’r cwrs. Os oes angen cymorth ehangach ar deulu, gellir gwneud atgyfeiriadau i bartneriaid a gwasanaethau eraill, gyda chaniatâd.

Cynhaliwyd Rhaglenni Teuluoedd mewn ysgolion cynradd ar draws Bwrdeistref Sirol Merthyr er 1997, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth gydag Y Coleg, Merthyr Tudful.  Parhaodd y fenter hon yn 2015 pan ddaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru i ben, wrth i’r awdurdod lleol gydnabod ei phwysigrwydd.  

Nod y rhaglenni yw ymestyn cyfleoedd dysgu mewn ffordd hwyliog ac arloesol ar gyfer yr holl blant a theuluoedd a chreu awyrgylch lle caiff dysgu ei annog, ei werthfawrogi, a’i fod yn rhan o fywyd bob dydd.  Mae Rhaglenni Teuluoedd yn cynyddu ymglymiad rhieni / gofalwyr ag ysgol ac addysg eu plentyn, ac yn gwella eu lefelau medrau eu hunain.  Mae rhaglenni yn gynhwysol, a gyda chymorth yr ysgol, yn ymgysylltu â ‘rhieni sy’n anodd eu cyrraedd’, nad oes ganddynt yr hyder, efallai, i ddysgu o ganlyniad i’w profiadau negyddol eu hunain o addysg, gan felly gefnogi strategaethau ysgolion i ymgysylltu â rhieni. 

I rai rhieni / gofalwyr, gall datblygu hyder i gefnogi dysgu eu plant fod yn anodd, yn enwedig os oes angen cymorth arnynt â’u medrau llythrennedd, iaith a rhifedd eu hunain.  Nod y dull hwn yw gwella medrau rhieni i gefnogi datblygiad medrau plant, ac mae’n cynorthwyo i gymell rhieni a mynd i’r afael â’u hofnau – datblygu ‘dull dysgu teuluol ar y cyd’ sy’n gallu cael effaith barhaus. 

Mae Cymorth Rhianta wedi bod ar waith ym Merthyr ers dechrau rhaglen Dechrau’n Deg yn 2007.  Amlygwyd bod y cymorth yn un o’r pedair elfen a hawl allweddol ar gyfer rhaglen gwrthdlodi Llywodraeth Cymru.  Datblygwyd y cymorth ymhellach gyda chyllid Cymorth, a ddaeth wedyn yn rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf.  Cyflwynir y cymorth ar draws Bwrdeistref Merthyr Tudful, gan gynnig cyfle i’r holl rieni a gofalwyr ymgysylltu. 

Mae rhaglenni rhianta strwythuredig yn seiliedig ar dystiolaeth yn rhoi’r wybodaeth a’r medrau angenrheidiol i rieni feithrin eu gallu rhianta.  O ganlyniad, maent yn cynyddu hyder rhieni a gallant fod o fudd i blant ifanc â phroblemau emosiynol ac ymddygiadol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Rhaglenni Teuluoedd:

  • helpu rhieni i gefnogi dysgu eu plant, gan eu galluogi i fod yn ddysgwyr annibynnol ac wedi eu cymell
  • cynorthwyo rhieni / gofalwyr ac ysgolion i annog plant i ennill medrau llythrennedd a rhifedd cynnar
  • annog rhieni / gofalwyr i feithrin cysylltiadau agosach ag ysgolion, yn ogystal â chymryd rhan fwy weithredol yn addysg eu plant
  • galluogi rhieni / gofalwyr i wella eu medrau eu hunain, i gael achrediad a manteisio ar gyfleoedd dysgu pellach

Rhaglenni Rhianta:

  • ymestyn medrau rhianta cadarnhaol i reoli ymddygiad yn fwy effeithiol a hyrwyddo medrau cymdeithasol, hunan-barch a hunanddisgyblaeth plant
  • gwella perthnasoedd rhwng rhieni a phlant a rhwng rhieni
  • datblygu agweddau a dyheadau cadarnhaol
  • cryfhau dealltwriaeth rhieni o ddatblygiad plant a meithrin eu gallu i fod yn fwy ymatebol i anghenion eu plant i hyrwyddo eu datblygiad cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol, a’u lles
  • cynyddu hyder rhieni yn eu rôl a’u medrau rhianta mewn darparu amgylchedd dysgu cadarnhaol yn y cartref

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Rhaglenni Teuluoedd

Mae plant yn elwa trwy

  • fedrau llythrennedd a rhifedd gwell
  • agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu
  • amser un i un gwerthfawr gyda’r rhiant / gofalwr
  • mwynhau dysgu trwy weithgareddau hwyliog
  • dysgu carlam trwy gymhelliant a brwdfrydedd gwell

Dangoswyd y canlynol gan ffurflenni gwerthuso Rhaglenni Teuluoedd a lenwyd gan rieni / gofalwyr yn ystod blwyddyn academaidd 2018-2019:

  • gwybodaeth well am fedrau llythrennedd a ddefnyddir mewn ysgolion – 35%
  • gwybodaeth well am fedrau rhifedd a ddefnyddir mewn ysgolion – 37%
  • ystyried gwneud cyrsiau eraill – 95%
  • ystyried gwirfoddoli mewn lleoliad ysgol – 68%
  • ystyried cyfleoedd eraill i wirfoddoli – 67%
  • ystyried cyrsiau eraill i gynorthwyo dysgu plant – 97%
  • dysgwyr yn cyflawni achrediad Agored Cymru – 86%

Rhaglenni Rhianta

Yn ystod 2019-2020, ymgysylltodd 280 o rieni â’r rhaglen. Cwblhaodd 207 o rieni’r ymyriadau hyn ac adroddwyd am welliant yn eu gwydnwch a’u galluogrwydd rhianta eu hunain. Roedd sylwadau gan rieni yn cynnwys

Diolch yn fawr am adael i mi gymryd rhan ar y cwrs hwn! Mae wedi bod mor fuddiol a defnyddiol, ac mae’n rhywbeth rydw i’n ei ddefnyddio bob dydd yn fy mywyd gyda’m plentyn. Rydw i mor ddiolchgar am y wybodaeth a ddysgais ar y cwrs, ac am y cymorth rydw i wedi’i gael hefyd… Bydda’ i’n ddiolchgar am byth.

Dysgais lawer trwy’r cwrs hwn, ac rydw i wedi defnyddio’r hyn rydw i wedi’i ddysgu ar fy aelwyd a’r tu allan.