Annog athrawon i siarad â’i gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd - Estyn

Annog athrawon i siarad â’i gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd

Arfer effeithiol

Deighton Primary School


Mae Ysgol Gynradd Deighton yn Nhredegar ym Mlaenau Gwent.  Mae 182 o ddisgyblion ar y gofrestr, sy’n cael eu haddysgu mewn tri dosbarth un oedran a thri dosbarth oedran cymysg.  Mae dosbarth meithrin rhan-amser hefyd.

Mae tua 32% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac nid oes unrhyw un ohonynt yn siarad Cymraeg gartref.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 34% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er mis Ebrill 2012, a phenodwyd y dirprwy bennaeth ym mis Ebrill 2013.

Strategaeth a chamau gweithredu

Mae gan uwch arweinwyr ddisgwyliadau uchel ohonyn nhw eu hunain, eu staff a’u disgyblion.  Mae staff yn cytuno bod rhaid i’r ysgol ddarparu’r cyfleoedd gorau mewn bywyd y gall eu cynnig i’w disgyblion, a chodi eu dyheadau.  Hwn yw’r grym sy’n gyrru popeth a wna’r ysgol.

Pan benodwyd y pennaeth yn 2012, nid oedd gan yr ysgol ddiwylliant o rannu arfer rhwng athrawon.  Ar ôl dechrau anodd, newidiodd y diwylliant yn raddol a chafodd ei  symbylu ar ôl arolygiad 2015, i ymateb i’r argymhelliad am rannu arfer dda.  Erbyn hyn, mae’r ysgol yn defnyddio cyfuniad o arsylwadau gwersi ffurfiol gan uwch arweinwyr ac arsylwadau mwy anffurfiol mewn triawdau athrawon i barhau i wella ansawdd yr addysgu ar draws yr ysgol.

Mae cynllun datblygu presennol yr ysgol yn adlewyrchu ymdrech barhaus yr ysgol i wella ochr yn ochr â’i nod i baratoi ar gyfer newidiadau i’r cwricwlwm.  Er enghraifft, mae athrawon yn datblygu ymagwedd at y cwricwlwm sy’n defnyddio ‘cyfryngau’, neu gyd-destunau ar gyfer dysgu, sy’n darparu profiadau ystyrlon, go iawn ar gyfer disgyblion.  Trwy wneud hynny, nod athrawon yw ymgorffori’r pedwar diben o Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) yn y cwricwlwm a symud tuag at ddull maes dysgu a phrofiad.

Ar y cychwyn, canolbwyntiodd y pennaeth a’r dirprwy bennaeth ar wella cydweithio rhwng athrawon yn yr ysgol.  Yn y blynyddoedd diwethaf, maent wedi ymestyn y dull hwn i ddatblygu diwylliant o gydweithio ag ysgolion eraill yn y consortiwm rhanbarthol a thu hwnt i helpu gwella addysgu.  Mae arweinwyr yr ysgol yn annog athrawon i ymweld ag ysgolion eraill yng Nghymru a thu hwnt i gaffael syniadau newydd i ddylanwadu ar eu harfer, a’i gwella.  Mae gan yr ysgol gysylltiadau defnyddiol dramor, yn ogystal ag elwa ar weithio gydag asiantaethau celfyddydau allanol, fel rhan o’r rhaglen ‘ysgolion creadigol arweiniol’.

Yn 2012, ceisiodd y pennaeth gyflwyno arsylwadau gwersi bob tymor.  Er gwaethaf ychydig o wrthwynebiad cychwynnol, erbyn 2014, daeth arsylwadau gwersi rheolaidd a rhannu arfer dda ar draws yr ysgol yn rhywbeth arferol.  Yn 2016, llwyddodd gwaith yr ysgol i wella addysgu i gyrraedd lefel arall, wrth i arweinwyr gyflwyno fframwaith masnachol, strwythuredig i ganolbwyntio’n fwy manwl gywir ar elfennau penodol o addysgu i helpu athrawon ar bob lefel i wella eu harfer ac anelu at fod yn rhagorol.  Mae arsylwadau’n canolbwyntio ar wahanol elfennau o’r fframwaith ar draws y flwyddyn, tra’n cynnal ffocws ar gynnydd a safonau disgyblion bob amser.

Pan fydd uwch arweinwyr yn cynnal eu harsylwadau gwersi ffurfiol bob tymor, maent yn rhoi dadansoddiad manwl iawn i athrawon o’u gwersi, gan gynnwys pa mor hir y mae’r athro wedi’i dreulio yn cyflwyno pob adran o’r wers.  Mae’r pennaeth yn credu bod y lefel hon o graffu wedi bod yn allweddol wrth helpu codi disgwyliadau athrawon ohonyn nhw eu hunain a’u disgyblion.  Mae’n cynorthwyo uwch arweinwyr wrth roi adborth datblygiadol clir i athrawon ac yn eu galluogi i nodi materion penodol y gall unigolion weithio i’w gwella. 

Yn ogystal ag arsylwadau gwersi ffurfiol, mae athrawon yn gweithio gyda’u cydweithwyr mewn triawdau ac yn defnyddio technoleg fideo i ffilmio eu gwersi eu hunain o leiaf unwaith y tymor.  Mae’r sesiynau hyn yn annog athrawon i ddefnyddio eu medrau beirniadol i adolygu eu haddysgu eu hunain ac addysgu eu cydweithwyr a datblygu eu medrau arfarnol.  Mae datblygu ymddiriedaeth rhwng cydweithwyr wedi bod yn allweddol i lwyddiant y system hon.  Mae wedi gwella hunanhyder athrawon i glywed eu cydweithwyr yn nodi cryfderau mewn elfennau o’u haddysgu.  Mae hefyd wedi eu hannog i addasu eu haddysgu, yn aml mewn ffyrdd eithaf cynnil sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i ansawdd dysgu disgyblion, er enghraifft rhoi mwy o amser i ddisgyblion feddwl cyn iddynt ateb neu fod yn fwy ymwybodol o sut maent yn holi disgyblion.

Gan fod yr ysgol wedi datblygu ei dull o gydweithio rhwng cydweithwyr yn yr ysgol, mae llawer o athrawon hefyd wedi ymweld ag ysgolion y nodwyd bod ganddynt arfer dda mewn mannau eraill yn y consortiwm rhanbarthol.  Maent wedi teithio i Loegr hefyd i ymweld ag ysgolion sydd ag arfer hynod ddiddorol.  Mae’r profiadau cydweithredol hyn yn helpu athrawon i ehangu eu meddwl a rhoi cynnig ar syniadau newydd y maent yn dysgu amdanynt.  Er enghraifft, mae cyfnewid dosbarthiadau ag athrawon eraill yn yr ysgol ar ‘Ddyddiau Gwener Rhyfedd’ (‘Freaky Fridays’) yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddeall yr heriau sy’n gysylltiedig ag addysgu gwahanol grwpiau blwyddyn.  Hefyd, mae mynychu cyfarfodydd gydag athrawon yn yr ardal sy’n defnyddio’r un fframwaith dysgu proffesiynol yn darparu cyfleoedd da i rannu syniadau a thrafod llwyddiannau a methiannau mewn amgylchedd nad yw’n feirniadol. 

Mae uwch arweinwyr yn sicrhau bod athrawon a staff cymorth yn cael digonedd o gyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth broffesiynol ac yn cyfrannu at wneud penderfyniadau.  O ganlyniad i hyn, datblygwyd cyfleoedd rhwng dosbarthiadau i gydweithio ar weithgareddau datrys problemau ac ymchwilio ar ddydd Gwener.  Yn ei dro, mae hyn wedi cynnwys disgyblion mewn cyfrannu’n fwy at gynllunio athrawon.  Er enghraifft, yn y cyfnod sylfaen, mae disgyblion yn awgrymu syniadau ar gyfer meysydd darpariaeth wedi ei chyfoethogi, yn seiliedig ar y medrau y maent wedi bod yn eu dysgu mewn gweithgareddau â ffocws, fel defnyddio map stori yn y gornel ysgrifennu, neu adeiladu pont i’r dyn bach sinsir groesi’r afon yn yr hambwrdd dŵr.

Deilliannau

Mae safonau disgyblion ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 yn uchel gyda thua 90% o ddisgyblion yn cyflawni’r lefel ddisgwyliedig mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth (Llywodraeth Cymru, 2017d).  Mae’r pennaeth yn credu bod hyn o ganlyniad uniongyrchol i’r adborth manwl a roddir ar ôl arsylwadau gwersi.  Mae uwch arweinwyr o’r farn fod y rhan fwyaf o’r addysgu yn yr ysgol yn dda neu’n rhagorol erbyn hyn. 

Mae athrawon yn hyderus ac yn barod i gymryd risgiau addysgegol yn bwyllog a rhoi cynnig ar ddulliau a strategaethau newydd.  Maent yn gwybod bod uwch arweinwyr a llywodraethwyr yn gefnogol i hyn, ac nid ydynt yn ofni gofyn cwestiynau anodd, neu fod rhywun yn gofyn cwestiynau anodd iddyn nhw.  Yr hyn sy’n ddiddorol yw bod athrawon yn dweud nad yw rhai o’r gwelliannau mwyaf buddiol mewn addysgu yn drawsffurfiannol ynddynt eu hunain o reidrwydd, ond maent yn eithaf bach.  Mae’r ysgol yn eu galw yn ‘dalpiau aur’ (‘golden nuggets’), sef pethau bach sydd, gyda’i gilydd, yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’w gwaith.  Mae athrawon yn rhannu’r ‘talpiau aur’ hyn â’i gilydd yn ystod trafodaethau a myfyrio ar ôl arsylwadau triawdau.  

O ganlyniad i ddatblygu dealltwriaeth athrawon o safonau trwy gymedroli gwaith disgyblion yn rheolaidd gyda’i gilydd a sicrhau ansawdd cymedroliadau, mae’r gydberthynas rhwng barnau athrawon a safon gwaith disgyblion mewn llyfrau yn agosach o lawer nag ydoedd yn y gorffennol.

Mae sgyrsiau dysgu mewn cyfarfodydd staff wedi’u seilio ar ddysgu ac addysgu.  Yr hyn sy’n bwysig yw bod athrawon a staff cymorth yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u hannog yn eu dysgu proffesiynol.  Maent yn cydnabod bod gan uwch arweinwyr ddisgwyliadau uchel iawn ohonynt, ond yn deall bod angen iddynt fod yr athrawon gorau y gallant fod i roi’r cyfle gorau posibl o lwyddo i ddisgyblion.

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

  • Parhau i roi adborth datblygiadol clir i athrawon sy’n eu galluogi i wella eu harfer
  • Ymgorffori ac ymestyn gweithio mewn triawdau
  • Parhau i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd