Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn Colegau Addysg Bellach - Estyn

Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn Colegau Addysg Bellach

Adroddiad thematig


Yn ystod tymhorau’r gwanwyn a’r haf 2024, ymunodd arolygydd Estyn â phrofiad o gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ag ymweliadau arolygwyr cyswllt â phob coleg addysg bellach (AB) yng Nghymru. Yn ystod pob ymweliad, fe wnaethant gyfarfod â staff allweddol i drafod diwygio ADY1 a sut roedd ei roi ar waith yn dod yn ei flaen ym mhob coleg. Llywiodd canfyddiadau’r ymweliadau hyn yr adroddiad hwn.

Nod y Ddeddf ADY a’r Rhaglen Trawsnewid ADY ehangach yw trawsnewid y systemau ar wahân ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA) mewn ysgolion neu unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) ac anawsterau dysgu ac/neu anableddau mewn addysg bellach i greu system unedig i gefnogi dysgwyr o 0 i 25 oed sydd ag ADY.

At ei gilydd, crybwyllodd colegau eu bod ar gamau amrywiol o ran rhoi’r ddeddf ADY ar waith. Ar ben hynny, roedd pob coleg yn cefnogi carfanau gwahanol ag ystod amrywiol o anghenion dysgu ychwanegol. Er enghraifft, roedd y rhan fwyaf o golegau’n cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mwy cymhleth ar gyrsiau medrau byw’n annibynnol ac roedd gan leiafrif ohonynt berthynas gref sefydledig â choleg arbenigol annibynnol i wella darpariaeth mewn partneriaeth.

Nododd bron pob un o’r colegau yr ymwelom â nhw gynnydd yn nifer y dysgwyr ag ADY, yn ogystal ag anawsterau iechyd meddwl a gorbryder ers y pandemig. Yn ogystal, nododd ychydig o golegau gynnydd yn nifer y dysgwyr yn ymuno a oedd wedi cael eu haddysgu gartref yn flaenorol, felly mae gwybodaeth gyfyngedig ar gael am unrhyw anghenion dysgu ychwanegol.

Roedd llawer o’r colegau hyn yn cynnal nifer o wahanol fathau o ddarpariaeth yr oedd y diwygio ADY yn effeithio arnynt lle mae dysgwyr ar gofrestr y coleg. Roedd y rhain yn cynnwys rhaglenni cyflogadwyedd ieuenctid Twf Swyddi Cymru+ a phrentisiaethau iau2. Mewn ychydig o achosion, roedd darpariaeth ar gyfer dysgwyr mwy cymhleth, sydd wedi’u cofrestru fel colegau arbenigol annibynnol fel arfer, yn cael ei chyflwyno trwy goleg prif ffrwd i ddechrau, cyn i’r is-sefydliad gofrestru â Llywodraeth Cymru.

Cymhlethwyd y trefniadau hyn ymhellach gan ddaearyddiaeth Cymru. Roedd angen i bron pob un o’r colegau feithrin perthnasoedd a datblygu trefniadau rhannu gwybodaeth â mwy nag un awdurdod lleol. Datblygodd ychydig iawn ohonynt drefniadau rhannu gwybodaeth ag awdurdodau lleol yn Lloegr, hefyd. Crybwyllodd colegau amrywioldeb yn eu perthnasoedd ag ysgolion uwchradd lleol hefyd yn seiliedig ar b’un ai nhw oedd y prif ddarparwr addysg drydyddol yn yr ardal honno ai peidio.

Cwblhaom ein hadroddiad thematig cyntaf ar ddiwygio ADY ym mis Medi 2023, a oedd yn canolbwyntio ar roi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg ar waith mewn ysgolion ac awdurdodau lleol. Er nad oedd ffocws yr adolygiad yn cynnwys lleoliadau ôl-16, gwnaethom un argymhelliad i awdurdodau lleol yn ymwneud ag addysg ôl-16, sef: datblygu a chyhoeddi eu strategaeth ar gyfer dysgwyr ôl-16 ag ADY.

Yn adroddiad thematig ADY 2023, canfuom mai megis dechrau cael eu datblygu y mae strategaethau awdurdodau lleol ar gyfer darpariaeth ADY ôl-16. Crybwyllodd yr awdurdodau lleol hynny a oedd wedi penodi swyddogion ôl-16 dynodedig eu bod yn meithrin partneriaethau strategol cryfach â darparwyr addysg bellach. Roedd gwybodaeth awdurdodau lleol am golegau arbenigol annibynnol yn llai cadarn ac, o ganlyniad, roedd eu hymgysylltiad â nhw yn fwy cyfyngedig. O ganlyniad, nid oedd awdurdodau lleol yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am ystod lawn y ddarpariaeth dysgu ychwanegol ar draws y sectorau ôl-16.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn