Ail-feithrin ymddiriedaeth broffesiynol i wella ansawdd yr addysgu - Estyn

Ail-feithrin ymddiriedaeth broffesiynol i wella ansawdd yr addysgu

Arfer effeithiol

Rogerstone Primary School


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Tŷ-du yng Nghasnewydd.  Mae 609 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 76 o ddisgyblion meithrin rhan-amser.  Mae gan yr ysgol ddwy ganolfan adnoddau dysgu gyda lleoedd ar gyfer tua 20 o ddisgyblion o bob rhan o’r awdurdod lleol.

Mae tua 7% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac yn dod o gartrefi lle siaredir Saesneg fel prif iaith yr aelwyd.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i ychydig iawn ohonynt ac 1% yn unig sy’n siarad Cymraeg gartref.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 25% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Secondiwyd y pennaeth o ysgol arall adeg yr arolygiad.  Daeth yn bennaeth parhaol ym mis Medi 2014.

Strategaeth a chamau gweithredu

Mae ffocws yr ysgol bob amser yn gadarn ar wella cynnydd disgyblion a chodi safonau a gwella lles.  Y nod yw rhoi diben i’r holl ddysgu proffesiynol, sy’n cysylltu ag un o flaenoriaethau’r ysgol ac sy’n glir i bob un o’r staff.  Mae uwch arweinwyr yn annog pob un o’r staff i fyfyrio ar eu harfer a chymryd cyfrifoldeb am wella addysgu a dysgu yn eu hystafelloedd dosbarth.

Wrth i’r ysgol symud allan o welliant sylweddol, bu’n rhaid i uwch arweinwyr weithio’n galed i wella ymddiriedaeth broffesiynol ar draws yr ysgol.  Erbyn hyn, mae’r parch ar y ddwy ochr a’r ddealltwriaeth gytûn o addysgu o ansawdd uchel sy’n bodoli yn yr ysgol yn ganolog i ddiwylliant yr ysgol.  Mae’r ethos hwn yn annog athrawon a staff cymorth i ddatblygu agweddau cadarnhaol iawn at eu dysgu proffesiynol eu hunain.  Mae arweinwyr, sydd i gyd yn athrawon effeithiol, yn dangos a rhannu eu harfer eu hunain.  Mae athrawon yn croesawu’r cyfleoedd hyn ac yn elwa arnynt.  Mae’r pennaeth yn honni na allwch ddiystyru pa mor bwysig yw adnabod eich staff a’u cynnwys, yn enwedig mewn cyfnodau heriol.  Enghraifft o hyn yw sicrhau eich bod yn dyrannu tasgau i’r bobl fwyaf priodol, gan ystyried eu cryfderau a’u medrau penodol, yn ogystal â’u dyheadau.

Erbyn hyn, mae’r ysgol yn defnyddio fframwaith cyhoeddedig i gefnogi holl arsylwadau athrawon.  Mae tair lefel o arsylwadau ystafell ddosbarth, sef: arsylwadau gwersi ffurfiol, sesiynau ‘galw i mewn’ anffurfiol, ac arsylwadau cydweithredol a myfyriol rhwng grwpiau o dri athro.  Mae pob un o’r athrawon yn cymryd rhan mewn arsylwadau ar un lefel nwy fwy, yn dibynnu ar eu rôl a ffocws yr ysgol ar y pryd.  Mae’r holl uwch arweinwyr yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau ansawdd deilliannau arsylwadau ystafell ddosbarth.  Maent yn personoli unrhyw arsylwadau gwersi dilynol fel y gallant fynd i’r afael ag anghenion datblygiadol unigol athrawon yn effeithiol.

Pan fydd arweinwyr yn cynnal arsylwadau ystafell ddosbarth ffurfiol, er enghraifft at ddibenion rheoli perfformiad, maent yn ystyried pob agwedd ar y fframwaith cyhoeddedig, gan gadw cynnydd a safonau disgyblion fel y prif ysgogwr bob amser.  Pan fydd uwch arweinwyr neu gydlynwyr pwnc yn cynnal ‘sesiynau galw i mewn’ byr, maent yn canolbwyntio ar feysydd penodol y fframwaith, sy’n berthnasol i flaenoriaethau’r ysgol neu anghenion staff unigol.  Mewn enghraifft ddiweddar, edrychodd y cydlynydd mathemateg ar gyflymdra gweithgareddau cynhesu mathemategol, ac ystyried pa mor llwyddiannus yr oedd athrawon yn anelu’r sesiwn i fodloni anghenion gwahanol grwpiau o ddisgyblion. 

I gynorthwyo athrawon i weithio mewn triawdau, buddsoddodd yr ysgol adnoddau mewn offer fideo a rhoddodd amser i athrawon ffilmio eu hunain yn gweithio.  I ddechrau, gwnaeth athrawon hyn yn unigol.  Pan welodd athrawon eu hunain yn addysgu eu dosbarthiadau eu hunain, teimlai llawer ohonynt fod hyn yn drobwynt pwysig iddyn nhw.  Gallent nodi eu cryfderau a’u meysydd i’w datblygu eu hunain, heb ofni beirniadaeth gan bobl eraill.  Cawsant yr amser a’r lle i fyfyrio ar eu haddysgu eu hunain a dysgu’r disgyblion yn eu dosbarthiadau.  Wedi i athrawon deimlo’n gyfforddus â’r arfer hon, trefnodd uwch arweinwyr yr athrawon yn grwpiau hyfforddi sector.  Cynlluniodd y grwpiau gyfres o wersi gyda’i gilydd ac wedyn arsylwi a ffilmio’i gilydd yn addysgu.  Ar ôl yr arsylwadau hyn, fe wnaethant fyfyrio ar ffocws penodol neu ar bwynt addysgu cyffredinol, gan ddefnyddio detholiadau bach o’r ffilmiau fel enghreifftiau o arfer dda neu i ddangos maes i’w wella.  Roedd y dull systematig hwn yn golygu bod athrawon yn dod i arfer â gweithio fel hyn yn raddol.  Galluogodd iddynt drafod addysgu’n fwy hyderus ac yn agored gyda chydweithwyr cefnogol a datblygu diwylliant o gydweithio a hunanarfarnu diffuant.

Datblygiad cymharol newydd yw’r defnydd o gyfraniadau disgyblion i wella agweddau ar addysgu.  Mae grŵp dynodedig o ddisgyblion cyfnod allweddol 2 yn arsylwi addysgu a dysgu ochr yn ochr ag aelod o staff.  Maent yn cytuno ar ffocws ac yn paratoi rhestr o gwestiynau i’w gofyn i ddisgyblion wrth iddynt fynd ar daith ddysgu neu arsylwi gwers.  Y prif ffocws ar gyfer y grŵp yw ystyried profiad disgyblion, er enghraifft defnyddioldeb adnoddau ac arddangosfeydd a pha mor dda y mae disgyblion yn ymgymryd â’u dysgu.  Fodd bynnag, mae hyn yn golygu eu bod yn nodi agweddau ar yr addysgu hefyd, fel perthnasoedd athrawon gyda’u disgyblion, ac yn edrych ar ba mor dda y mae athrawon yn annog eu disgyblion i ymarfer y medrau y maent wedi eu dysgu o’r blaen.  Yn ddiweddar, er enghraifft, aeth y grŵp disgyblion ar daith ddysgu trwy’r ysgol yn ystod gweithgareddau yn gynnar yn y bore i weld pa mor dda roedd disgyblion yn ymarfer eu sillafu.

Mae arweinwyr yn annog athrawon i fod yn arloesol yn eu dull addysgu a rhoi’r holl ddysgu mewn cyd-destunau bywyd go iawn.  Nid yw’r ysgol yn defnyddio cynllun ar gyfer llythrennedd a rhifedd, ond yn defnyddio’r fframwaith llythrennedd a rhifedd   fel asgwrn cefn ar gyfer cynllunio athrawon.  Mae hyn yn golygu bod rhaid i athrawon ddefnyddio dull creadigol a hyblyg.  Maent yn cynllunio tasgau cyfoethog i wneud hyn, gan ganolbwyntio bob tymor ar ysgogwr pwnc ar draws yr ysgol, fel daearyddiaeth, hanes, y celfyddydau creadigol neu wyddoniaeth.  Mae athrawon a disgyblion yn adeiladu eu prosiectau o amgylch hyn – maent yn cyfeirio ato fel ‘caffael testun’.  Nod pob testun yw cwmpasu set o fedrau, ond y dosbarthiadau sydd i benderfynu sut maent yn gwneud hyn.

Deilliannau

Mae’r ysgol wedi symud ymlaen yn sylweddol, ac erbyn hyn, mae ganddi enw da yn ei chymuned ac ar draws yr awdurdod lleol a’r consortiwm.  O ganlyniad i ddysgu proffesiynol llwyddiannus a datblygu arweinwyr medrus yn yr ysgol, mae sawl athro wedi symud ymlaen i swyddi uwch mewn ysgolion eraill.  Mae arweinwyr eraill wedi cael eu penodi i’r uwch dîm arweinyddiaeth yn yr ysgol, er enghraifft i fod yn bennaeth y cyfnod sylfaen ac yn bennaeth cyfnod allweddol 2.

Mae ansawdd yr addysgu yn nodwedd gref yn yr ysgol.  Ychydig iawn o athrawon yn unig sy’n derbyn cymorth i wella ar hyn o bryd, ac oherwydd y fframwaith a’r strategaethau clir a chefnogol iawn a ddefnyddia’r ysgol, maent yn cymryd rhan yn llawn yn y broses hon.  Un o’r nodweddion llwyddiant allweddol a nodwyd gan staff addysgu yn yr ysgol yw’r ymddiriedaeth broffesiynol sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf rhwng y pennaeth, yr uwch arweinwyr a’r staff eraill.  Dywed canlyniadau holiaduron staff fod hinsawdd o ymddiriedaeth a gonestrwydd yn bodoli yn yr ysgol.  Mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.  Maent yn gwybod beth yw eu rolau a’u cyfrifoldebau, maent yn teimlo’n rhydd i roi adborth gonest, ac maent yn hapus yn eu gwaith.

Dywed athrawon mai’r newidiadau cynnil sy’n digwydd oherwydd gwaith yr ysgol i wella addysgu yw’r rhai mwyaf effeithiol, weithiau.  Er enghraifft, ar ôl arsylwi eu hunain yn gweithio, dechreuodd athrawon feddwl yn fwy gofalus am y modd yr oeddent yn defnyddio eu staff cymorth yn ystod gwersi.  Wrth drafod elfennau o wersi penodol, mae athrawon yn atgoffa’i gilydd o elfennau hyfforddiant y gallent fod wedi’u hanghofio, neu strategaethau cytûn a allai fod ar goll.  Efallai mai’r hyn sydd bwysicaf yw bod timau o athrawon yn magu hyder ymhlith ei gilydd trwy fyfyrio ar yr hyn y maent yn ei wneud yn dda, wedyn maent yn siarad yn onest, ac mewn modd sensitif ond agored, am yr hyn a allai fod yn well.

Mae safon y ddeialog broffesiynol rhwng staff yn uchel iawn.  Ceir diwylliant o archwilio wrth iddynt gofleidio dibenion Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) yn eu cwricwlwm presennol a pharatoi ar gyfer heriau cwricwlwm newydd.  Mae athrawon a staff cymorth yn croesawu syniadau newydd, maent yn fodlon rhoi cynnig ar ddulliau newydd, ac yn hyderus y cânt gymorth gan uwch arweinwyr i wneud hynny.  Er enghraifft, teimlai athrawon nad oeddent yn gwneud digon i adeiladu ar fedrau llafaredd disgyblion i ennyn diddordeb yn eu dysgu.  I fynd i’r afael â hyn, gosododd un athro dasg i grŵp o fechgyn Blwyddyn 3 abl ond a oedd wedi ymddieithrio, fynd ati i gynllunio, ysgrifennu, creu a ffilmio rhaglen gylchgrawn deledu.  Cefnogodd uwch arweinwyr y dull hwn trwy ymgysylltu â darparwyr allanol arbenigol i helpu disgyblion i wneud y gwaith ffilmio a recordio a gweithio ochr yn ochr ag athrawon i ddatblygu eu medrau i wneud gweithgareddau fel hyn yn nodwedd gynaliadwy o waith yr ysgol.  Yn yr un modd, mae staff cymorth yn gwybod bod uwch arweinwyr yn gwerthfawrogi eu barn ac yn gwrando ar geisiadau am gymorth penodol.  Er enghraifft, dangosodd arolwg diweddar o staff cymorth fod bylchau yn eu cymhwysedd digidol, felly fe wnaeth y cydlynwyr TGCh deilwra sesiynau ar gyfer staff cymorth a oedd yn bodloni eu hanghenion yn fanwl gywir.

Mae disgyblion yn cydnabod bod eu llais yn cyfrif ym mywyd a gwaith yr ysgol.  Maent yn cyfrannu’n effeithiol at hunanarfarnu yn yr ysgol, yn cydweithio ag athrawon i osod eu targedau eu hunain ac yn cael cyfleoedd i wneud awgrymiadau ynglŷn â sut a beth maent yn ei ddysgu.

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

Mae’r pennaeth a’r dirprwy bennaeth yn teimlo bod yr ysgol bellach wedi cyrraedd sefyllfa gref yn ei thaith i wella.  Nid oes cynlluniau i gyflwyno strategaethau newydd ar hyn o bryd, ond mae cynllunio gwelliant yn canolbwyntio ar atgyfnerthu a rhannu’r arfer dda sy’n bodoli ar draws yr ysgol i sicrhau cysondeb.