Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru

Adroddiad thematig


Lluniwyd yr adroddiad i ymateb i gais gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn y llythyr cylch gwaith blynyddol ym mis Mawrth 2022. Mae hefyd yn adlewyrchu cais tebyg gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae’r adolygiad hwn yn berthnasol i ddysgwyr, rhieni a cholegau, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, gwasanaethau statudol a sefydliadau’r trydydd sector sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phobl ifanc. Mae’n dilyn yr adolygiad tebyg o’r diwylliant a phrosesau mewn ysgolion uwchradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd annibynnol i ddiogelu a chefnogi pobl ifanc (Estyn, 2021).


Argymhellion

Dylai colegau addysg bellach:

  • A1 Sicrhau bod pob dysgwr yn elwa ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a thrafodaethau yn ymwneud â ffurfio a chynnal
  • perthnasoedd iach
  • A2 Datblygu strategaethau i atal a mynd i’r afael ag agweddau a diwylliannau misogynistaidd sy’n datblygu ymhlith grwpiau o ddysgwyr
  • A3 Sicrhau bod yr holl aelodau staff perthnasol yn ymgymryd â dysgu proffesiynol sy’n eu galluogi i nodi ac ymateb yn hyderus i aflonyddu rhywiol, yn ogystal â helpu dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o berthnasoedd iach
  • A4 Sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus ym mhob ardal o adeiladau, tir, mannau rhithiol a thrafnidiaeth y coleg A5 Cofnodi, categoreiddio a dadansoddi achosion o aflonyddu, ymosodiadau a cham-drin rhywiol mewn ffordd gyson sy’n galluogi arweinwyr i nodi tueddiadau a chymryd camau priodol i ymateb iddynt

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A6 Ei gwneud yn glir pa agweddau ar arweiniad addysg Llywodraeth Cymru yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol sy’n berthnasol i golegau addysg bellach a chadarnhau unrhyw wahaniaethau rhwng y gofynion mewn ysgolion a cholegau addysg bellach
  • A7 Darparu arweiniad priodol i golegau i’w helpu i fabwysiadu ymagwedd gydlynus a chyson tuag at gofnodi a chategoreiddio achosion o aflonyddu rhywiol

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn