Crynodeb gweithredol
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried pa mor dda y mae’r lleoliadau nas cynhelir a ariennir, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed a gynhelir a gymerodd ran yn yr adolygiad yn gweithredu ac yn ymgorffori agweddau ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ADYTA) a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cysylltiedig. Mae hefyd yn ystyried pa mor dda y mae awdurdodau lleol wedi cefnogi ysgolion. Mae’r adroddiad hwn yn adeiladu ar ein canfyddiadau o’r adolygiad thematig cyntaf Y system anghenion dysgu ychwanegol (Estyn, 2023) ac yn nodi arfer effeithiol i gefnogi addysg gynhwysol, datblygu strategaethau i gefnogi disgyblion ag ADY, ymestyn cymorth cyfrwng Cymraeg a chryfhau dysgu proffesiynol, sicrhau ansawdd a rolau’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY) a Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC).
Mae ein canfyddiadau wedi’u seilio ar ymgysylltu â sampl o wyth lleoliad nas cynhelir, 11 ysgol gynradd, saith ysgol uwchradd a dwy ysgol bob oed. Cynhaliwyd naw o’r rhain trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wyth o’r ysgolion, yn cynnwys un ysgol cyfrwng Cymraeg, yn lletya darpariaeth dosbarth arbenigol yr awdurdod lleol ar gyfer disgyblion ag ADY. Hefyd, defnyddiom dystiolaeth o’n gweithgarwch arolygu parhaus ac o drafodaethau rhwng ein harolygwyr cyswllt awdurdod lleol a swyddogion awdurdodau lleol. Ymhellach, mae’r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth o drafodaeth gyda grŵp ffocws Swyddogion Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC). Buom yn holi barn rhieni a gofalwyr ynglŷn â’u profiadau.
Mae gweithredu ac ymgorffori diwygio ADY wedi bod yn gamp sylweddol i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau. Yn ystod ein hymweliadau ac yn ein cyfarfodydd â rhanddeiliaid, nododd y tîm arolygu’n gyson yr ymrwymiad cryf a’r gwydnwch a ddangosir gan staff mewn awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau. Bu staff yn gweithio’n ddiwyd i gynorthwyo plant a phobl ifanc ag ADY yng nghyd-destun heriau parhaus. Roedd y rhain yn cynnwys effaith barhaus y pandemig ar les, heriau â phresenoldeb, y cynnydd a adroddwyd ond nas gwiriwyd yn nifer y plant a’r bobl ifanc ag anghenion cymhleth, yn ogystal â phwysau o ran y gyllideb a’r gweithlu. At ei gilydd, roedd gofynion diwygio ADY yn dechrau sicrhau gwelliannau yn y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY ledled y wlad. O ganlyniad, lle’r oedd diwygio ADY wedi cael ei weithredu’n llwyddiannus, roedd llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd addas o’u mannau cychwyn cychwynnol. Fodd bynnag, nid oedd gweithredu diwygio ADY yn gyson, ac o ganlyniad, nid oedd anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn cael eu cefnogi’n ddigon da bob amser. Ymhellach, roedd mwyafrif yr ysgolion a’r awdurdodau lleol yn y sampl wedi dechrau cryfhau sicrhau ansawdd prosesau a darpariaeth ADY. Mynegwyd pryderon gan lawer o arweinwyr am eu gallu i barhau i gyflwyno’r gwasanaethau ADY angenrheidiol, wedi i gyllid ychwanegol ddod i ben.
Mae ein canfyddiadau’n dangos bod arweinwyr a staff mewn llawer o ysgolion a lleoliadau wedi dechrau datblygu diwylliant ac arfer gynhwysol. Roedd yr ysgolion a’r lleoliadau hyn yn canolbwyntio’n dda ar ddysgu a lles pob un o’r disgyblion. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o achosion, nid oedd gweledigaeth gynhwysol ac addysgu a dysgu pwrpasol wedi’u hanelu at ddiwallu anghenion yr holl ddisgyblion yn ddigon effeithiol. Ar sail ein trafodaethau ag arweinwyr ysgolion, fel rhan o’r adolygiad hwn, roedd arweiniad awdurdodau lleol ar gyfer gwella ansawdd addysgu a dysgu cynhwysol yn amrywiol ledled Cymru. Hyd yn oed yn yr achosion mwyaf effeithiol, roedd ysgolion yn cydnabod mai megis dechrau datblygu oedd y cymorth ac arweiniad hwn.
At ei gilydd, roedd nifer y disgyblion y nodwyd bod ganddynt ADY neu anghenion addysgol arbennig (AAA) ar gofrestrau ysgolion wedi parhau i ostwng. Fodd bynnag, roedd nifer y disgyblion yr oedd eu darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) / darpariaeth addysgol arbennig (DAA) wedi’i nodi mewn cynllun statudol, naill ai trwy gynllun datblygu unigol (CDU) neu ddatganiad o AAA, wedi parhau i gynyddu. Yn ychwanegol, roedd cynnydd sylweddol yn nifer y cynlluniau datblygu unigol (CDUau) a oedd yn cael eu cynnal gan ysgolion. Ar draws awdurdodau lleol, roedd anghysondebau’n parhau o ran dehongli’r Cod ADY ac yn yr ymagweddau dilynol at CDUau a gynhelir gan ysgolion ac awdurdodau lleol.
At ei gilydd, roedd ysgolion a lleoliadau a gymerodd ran yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o’r ddarpariaeth y maent yn ei threfnu ar gyfer disgyblion ag ADY. Fodd bynnag, roedd y graddau y caiff y ddarpariaeth ei dosbarthu’n DDdY yn parhau i fod yn aneglur. Roedd y rhan fwyaf o ysgolion ac awdurdodau lleol yn cytuno y byddai’n fuddiol egluro DDdY ar lefel genedlaethol.
Roedd y rhan fwyaf o ysgolion a gymerodd ran yn yr adolygiad hwn yn cydnabod rôl estynedig ac arbenigol y CydADY o dan y Ddeddf ac yn croesawu atebolrwydd cynyddol a chyfrifoldeb strategol y rôl. Lle’r oedd rôl y CydADY yn fwyaf effeithiol, roedd yn rhan o’r uwch dîm arweinyddiaeth, ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY, a’u deilliannau. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd Cydlynwyr ADY yn cael eu cynnwys yn llawn mewn dylanwadu ar gyfeiriad strategol a phroses yr ysgol ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Dyma yw’r tro cyntaf i ni adolygu cynnydd lleoliadau nas cynhelir a ariennir a rôl Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC) mewn cysylltiad â diwygio ADY. Roedd llawer o’r lleoliadau nas cynhelir a ariennir yr ymwelom â nhw fel rhan o’r adolygiad hwn yn darparu profiadau dysgu effeithiol ar gyfer plant ag ADY. At ei gilydd, roeddent yn cynllunio’n ofalus i deilwra profiadau dysgu i fodloni gofynion unigol pob plentyn, yn cynnwys y rhai ag ADY. Hefyd, roedd rôl y SAADYBC wedi hen ennill ei phlwyf ledled Cymru. At ei gilydd, roedd y swyddogion hyn yn gweithio’n effeithiol i gynorthwyo rhieni a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar i sicrhau cymorth buddiol ac amserol ar gyfer plant iau ag ADY sy’n dod i’r amlwg neu ADY wedi’i nodi.
Nid oedd y graddau y mae awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau yn cynllunio ac yn darparu cymorth teg ar gyfer darpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg wedi’u datblygu’n ddigonol o hyd. Mae hyn wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ond roedd heriau sylweddol yn parhau o ran cyfraddau recriwtio a chadw mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ogystal â darparu asesiadau ac adnoddau safonedig cyfrwng Cymraeg.
Mae ein hadroddiad yn nodi ystod o arfer effeithiol, gan gynnwys mewn meysydd a oedd yn parhau i fod yn heriol, fel cyflwyno cyfrwng Cymraeg. Rydym hefyd yn gwneud argymhellion.