Adroddiad Thematig: Pontio a chynnydd disgyblion

Adroddiad thematig


Crynodeb gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried pa mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi cyfnod pontio disgyblion o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mae’n canolbwyntio ar ba mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod eu cwricwla a’u haddysgu yn datblygu gwybodaeth, medrau, dealltwriaeth ac ymddygiadau dysgu disgyblion yn effeithiol ar draws y cyfnod pontio. Mae’n ystyried sut mae ysgolion yn cefnogi lles dysgwyr yn y cyfnod pontio pwysig hwn. 

Mae wedi’i seilio ar ymgysylltu â sampl o 23 ysgol gynradd, 13 ysgol uwchradd a 3 ysgol bob oed, a thystiolaeth o’n gwaith arolygu a’n gwaith dilynol er mis Medi 2022. Cymerom dystiolaeth o dri gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol a thri awdurdod lleol, hefyd. 

Mae ein canfyddiadau’n dangos bod penaethiaid neu uwch arweinwyr o’r rhan fwyaf o glystyrau o ysgolion yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod Cwricwlwm i Gymru a sut i gefnogi cyfnod pontio disgyblion o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Bron ym mhob achos, canolbwyntiodd arweinwyr yn dda ar sicrhau bod trefniadau ymsefydlu buddiol i gefnogi lles disgyblion, a rhoi strategaethau ar waith i gynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, ac am amrywiaeth o resymau, nid yw gwaith pontio yn ddigon effeithiol i gefnogi datblygiad continwwm dysgu ar gyfer pob disgybl sy’n sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd systematig a pharhaus yn eu gwybodaeth, eu medrau, eu dealltwriaeth a’u hymddygiadau dysgu o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.  

Mewn lleiafrif o achosion, mae clystyrau wedi sefydlu grwpiau o athrawon i ystyried enghreifftiau o ddysgu disgyblion, i’w helpu i ddechrau datblygu dealltwriaeth ar y cyd o gynnydd ar draws eu hysgolion. Fodd bynnag, megis dechrau y mae’r arferion hyn, ac yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes dealltwriaeth gref o hyd o sut beth yw cynnydd yn y rhan fwyaf o glystyrau o ysgolion. O ganlyniad, nid yw’r arferion hyn wedi gwella pa mor dda y mae dysgu’n datblygu o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd yn ddigon cryf.  

Yn ystod ein hymweliadau, soniodd arweinwyr am ystod o faterion a oedd yn gwneud gwaith clwstwr ar ddatblygu cynnydd y cwricwlwm yn anodd, yn cynnwys cydlynu gwaith amryfal ysgolion cynradd gydag un ysgol uwchradd, gwahanol ddehongliadau o’r cwricwlwm o fewn yr un clwstwr o ysgolion, neu gael yr amser a’r adnoddau i ryddhau staff i weithio gyda’i gilydd. Fe wnaethant nodi bod natur eang y disgrifiadau o ddysgu yn rhywbeth roedd y staff yn eu hysgolion yn ymgodymu â nhw o hyd. Yn aml, roedd arweinwyr ysgolion uwchradd yn nodi bod newidiadau i gymwysterau TGAU yn ychwanegu at anhawster gwneud penderfyniadau am eu cwricwlwm, ond mewn ysgolion mwy effeithiol, roeddent hefyd yn cydnabod bod gwella addysgu yn hanfodol i sicrhau bod disgyblion yn ennill cymwysterau da.     

Mewn ychydig o achosion, mae clystyrau o ysgolion cynradd ac uwchradd wedi gweithio gyda’i gilydd yn gadarnhaol i amlinellu gwybodaeth, medrau a phrofiadau ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad (MDPh)1 ac wedi defnyddio hyn i ddechrau datblygu dealltwriaeth ar y cyd o gynnydd. Fodd bynnag, hyd yn oed pan mae hyn ar waith, nid yw ysgolion uwchradd bob amser yn ei ddefnyddio i ystyried dysgu blaenorol disgyblion yn ddigon da. O ganlyniad, nid oedd dysgu ym Mlwyddyn 7 a thu hwnt bob amser yn cefnogi datblygiad parhaus a graddol disgyblion. 

Mewn ysgolion pob oed, er gwaethaf potensial yr ymagwedd bob oed at ddysgu, nid oedd cydlynu’r cwricwlwm a chynllunio ar gyfer cynnydd yn gryf bob amser. Yn yr achosion gorau, roedd ysgolion yn gweithio’n bwrpasol i ddatblygu un continwwm dysgu graddol rhwng 3 ac 16 oed, ac roeddent yn dechrau defnyddio hyn i sicrhau eu bod yn cefnogi cynnydd disgyblion. Fodd bynnag, roedd lleiafrif o leoliadau pob oed wedi gwneud cynnydd cyfyngedig ar ddatblygu ymagwedd gydlynus at y cwricwlwm ac yn ystyried dysgu mewn sectorau cynradd ac uwchradd ar wahân o hyd. 

Mae llawer o ysgolion wedi darparu ystod o ddysgu proffesiynol ar gyfer athrawon i gefnogi cyflwyno Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion yn unig yr oedd clystyrau o ysgolion wedi rhannu ymagweddau at addysgu neu wedi ystyried sut gallent sicrhau bod strategaethau addysgu yn cynorthwyo disgyblion i wneud cynnydd effeithiol a pharhaus o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Roedd llawer ohonynt yn ymgorffori strategaethau i gynorthwyo disgyblion i fod yn ddysgwyr mwy effeithiol ac yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod disgyblion yn datblygu medrau i fonitro, rheoli ac asesu dysgu. Fodd bynnag, dim ond mewn ychydig o achosion yr oedd ysgolion wedi ystyried sut gallent sicrhau bod disgyblion yn parhau i ddatblygu’r medrau a’r tueddiadau hyn yn effeithiol pan fyddant yn symud i’r ysgol uwchradd.  

Bron ym mhob achos, roedd ysgolion cynradd yn trosglwyddo ystod eang ac amrywiol o wybodaeth am ddysgu a chynnydd disgyblion i ysgolion uwchradd cyn eu cyfnod pontio. Roedd lleiafrif o glystyrau yn dechrau ystyried sut i rannu gwybodaeth am gynnydd disgyblion, yn unol â Chwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, bron ym mhob achos, prin oedd yr eglurder ynglŷn â beth oedd disgwyliadau o ran dysgu a chynnydd, hyd yn oed o fewn yr un clwstwr. O ganlyniad, ni wnaeth y prosesau hyn rhyw lawer i gefnogi parhad yn nysgu’r disgyblion. Bron ym mhob achos, roedd ysgolion cynradd yn rhannu deilliannau asesiadau personol Llywodraeth Cymru gydag ysgolion uwchradd. Fodd bynnag, roedd bron pob ysgol yn canolbwyntio ar rannu’r sgôr safonedig yn unig. Nid oeddent yn rhoi ystyriaeth ddigon da i’r ystod eang o wybodaeth am ddysgu disgyblion sydd ar gael o’r asesiad na sut y gellir defnyddio hyn i gefnogi addysgu a dysgu ymhellach.  

Bron ym mhob achos, roedd ysgolion yn cefnogi cyfnod ymsefydlu2 disgyblion i’r ysgol uwchradd yn dda. Yn aml, roeddent yn trefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb rhwng arweinwyr neu athrawon o ysgolion cynradd a staff o ysgolion uwchradd a oedd yn galluogi rhannu gwybodaeth yn fuddiol. Roedd ysgolion cynradd ac uwchradd yn gweithio gyda’i gilydd yn gydwybodol i gefnogi cyfnod pontio disgyblion ag ADY. Yn aml, roedd staff sydd â chyfrifoldeb am ddisgyblion ag ADY yn dechrau gweithio gyda’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo pan roedd disgyblion ym Mlwyddyn 6 neu ym Mlwyddyn 5. Helpodd y prosesau hyn ysgolion uwchradd i ddeall a darparu ar gyfer anghenion y disgyblion hyn yn gefnogol.  

Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd clystyrau o ysgolion yn cefnogi llawer o agweddau ar les disgyblion yn effeithiol wrth iddynt symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mewn llawer o achosion, ymwelodd staff o ysgolion uwchradd â’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo i siarad â disgyblion ar ddechrau Blwyddyn 6, ac mewn ychydig iawn o achosion pan maent ym Mlwyddyn 5. Bron ym mhob achos, roedd clystyrau o ysgolion yn nodi disgyblion y gallai’r cyfnod pontio fod yn anos iddynt na’u cyfoedion, ac yn rhoi ystod ddefnyddiol o weithgareddau ac ymweliadau cefnogol ar waith a oedd yn helpu’r disgyblion hyn i bontio i’r ysgol uwchradd. Yn yr achosion gorau, roedd ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio a rhoi strategaethau ar waith yn seiliedig ar anghenion disgyblion unigol.  

Roedd llawer o arweinwyr yn ymwybodol o’r arweiniad diweddaraf ar gynllunio pontio a’i ofynion, ac yn defnyddio hyn i gynllunio cyfnod ymsefydlu disgyblion i’r ysgol uwchradd yn briodol. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, roedd diffyg eglurder mewn cynlluniau pontio ar sut byddai ysgolion yn cefnogi parhad yn nysgu disgyblion, a sut byddent yn cyflawni hyn trwy ddylunio a chynllunio’r cwricwlwm ar gyfer dysgu ac addysgu.  


Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn