Adroddiad Thematig: Effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, cymorth, darpariaeth a phontio ar gyfer addysg gynnar - Estyn

Adroddiad Thematig: Effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, cymorth, darpariaeth a phontio ar gyfer addysg gynnar

Adroddiad thematig


Crynodeb gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried pa mor effeithiol yw’r cymorth a’r ddarpariaeth a gynigir gan ddarparwyr addysg y blynyddoedd cynnar o ran mynd i’r afael ag effeithiau andwyol tlodi ac anfantais ar blant yn y blynyddoedd cynnar.

Mae’n canolbwyntio ar ba mor dda y mae awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion yn cefnogi’r darparwyr hyn â dulliau addysgegol y blynyddoedd cynnar, a sut orau i gynorthwyo plant y mae tlodi ac anfantais yn cael effaith andwyol arnynt. Mae hefyd yn ystyried pa mor dda y mae lleoliadau ac ysgolion na chynhelir a ariennir yn defnyddio’u cyllid o’r Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar (GDDBC)1 ar ymyriadau cynaliadwy i wella cyrhaeddiad plant y caiff tlodi ac anfantais effaith andwyol arnynt. Yn olaf, mae’r adroddiad yn ystyried pa mor dda y mae’r ddarpariaeth ar gyfer chwarae a dysgu mewn lleoliadau ac ysgolion yn cynorthwyo plant yn eu datblygiad a’r cyfnod pontio rhwng lleoliadau ac ysgolion. Mae wedi’i seilio ar ymgysylltu â sampl o 31 o leoliadau nas cynhelir, ysgolion meithrin, cynradd a phob oed. Ystyriom dystiolaeth o 15 awdurdod lleol, hefyd.

Canfuom fod amrywiad o ran sut y ceir mynediad at addysg gynnar ledled Cymru, yn dibynnu ar sut mae awdurdodau lleol yn darparu addysg feithrin. Mae’r amrywiad hwn yn arwain at ddarpariaeth annheg ledled Cymru. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod rhieni yn aml yn cael ychydig iawn o ddewis, neu ddim dewis o gwbl, ynglŷn â ble y gallant gael addysg feithrin ar gyfer eu plentyn.

Roedd amrywiad mewn hygyrchedd dysgu proffesiynol yn y blynyddoedd cynnar ar gyfer y sector, gydag arweinwyr yn y sector nas cynhelir yn fwy tebygol o fod wedi cael mynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel yn y blynyddoedd cynnar gan eu hawdurdodau lleol a sefydliadau ymbarél2 nag ymarferwyr mewn ysgolion. Fodd bynnag, dywedodd llawer o arweinwyr ysgolion fod dysgu proffesiynol cyfyngedig i gefnogi addysgeg effeithiol y blynyddoedd cynnar yn cael ei gynnig gan awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion.

Yn ystod ein hymweliadau, dywedodd arweinwyr o leoliadau ac ysgolion nas cynhelir fod llawer o deuluoedd yn profi effaith negyddol tlodi ac anfantais ar lefel waeth o lawer na’r hyn a welwyd yn y gorffennol. O ganlyniad, roedd cyfran fawr o’u hamser a’u hadnoddau yn cael eu defnyddio i fynd i’r afael â’r anghenion hyn. Bron ym mhob achos, roedd lleoliadau ac ysgolion yn treulio amser yn dod i adnabod y plant a’u teuluoedd yn dda. Roeddent yn treulio amser yn meithrin perthnasoedd cefnogol ac ymddiriedus. Er nad oedd arweinwyr wedi cael hyfforddiant na gwybodaeth benodol gan awdurdodau lleol am sut orau i ddiwallu anghenion cymdeithasol, emosiynol a datblygiadol plant yn y blynyddoedd cynnar y mae tlodi ac anfantais yn cael effaith andwyol arnynt, roeddent yn gwybod ac yn deall pwysigrwydd cynorthwyo teuluoedd a’r gwahaniaeth yr oedd hyn yn ei wneud i’w bywydau. Roedd hyn yn aml ar ffurf cymorth ymarferol fel cydweithio â’r trydydd sector i ddarparu bwydydd, teganau, gwisg ysgol, a chymorth ymarferol â materion fel tai.

Mae’r GDDBC yn darparu cyllid i ysgolion a lleoliadau i gynorthwyo plant 3-4 oed â’u hanghenion cyfathrebu, lles a chorfforol. Canfu ein hadolygiad fod annhegwch o ran cyllid ar draws y sectorau nas cynhelir yng Nghymru, oherwydd cymhlethdodau fformiwlâu cyllido ac anhawster casglu data ar y grŵp oedran hwn. O ganlyniad i hyn, mae awdurdodau lleol nad ydynt yn ariannu addysg gynnar yn y sector nas cynhelir yn derbyn cyllid, ac awdurdodau lleol â lefelau uchel o amddifadedd yn derbyn cyllid cyfyngedig.

Roedd y rhan fwyaf o leoliadau nas cynhelir sy’n derbyn cyllid GDDBC dirprwyedig yn gwneud defnydd da o’r arian hwn i brynu adnoddau a oedd yn helpu datblygu anghenion cyfathrebu a lles plant, fel offer awyr agored ac adnoddau lleferydd ac iaith. Roeddent yn mynychu hyfforddiant buddiol a oedd yn eu cynorthwyo â’u rolau, yn enwedig wrth gefnogi medrau cyfathrebu plant. Yn ychwanegol, roeddent yn cyfoethogi profiadau plant trwy amrywiaeth o ymweliadau, yn ogystal â gwahodd ymwelwyr i’r lleoliad. Fodd bynnag, yn yr awdurdodau lleol hynny lle roedd yr arian grant yn cael ei gadw’n ganolog, nid oeddent bob amser yn targedu hyfforddiant yn ddigon da at fynd i’r afael ag anfantais neu’n targedu’r lleoliadau mwyaf difreintiedig yn ddigon da.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, roedd arweinwyr yn aml yn defnyddio’r cyllid hwn i gynnal y ddarpariaeth bresennol. Er enghraifft, roeddent yn cyflogi oedolion ychwanegol i ddarparu cymhareb oedolyn / disgybl addas yn nosbarthiadau’r blynyddoedd cynnar.Mewn ychydig o enghreifftiau, roedd yr ymarferwyr hyn yn cyflawni ymyriadau lleferydd ac iaith ac iechyd a lles emosiynol. Mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd arweinwyr yn gallu gwahanu eu cyllid GDDBC oddi wrth eu cyllid ehangach o’r GDD, ac felly, nid oeddent yn gallu dyrannu eu cyllid mewn ffordd dargedig yn ddigon da.

Mae llawer o arweinwyr yn darparu cyfleoedd buddiol i blant a’u teuluoedd ddod i adnabod ymarferwyr a’r lleoliad neu’r ysgol cyn dechrau yno. Mae hyn yn cynnwys pan fydd plant yn pontio o’r cartref i leoliad neu ysgol, neu rhwng lleoliad ac ysgol.


Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn