Adroddiad Thematig: Datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed
Crynodeb gweithredol
Yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar fedrau darllen Saesneg disgyblion 10-14 oed gan Estyn yn Mai 2023, fe aethom ati i lunio adroddiad ar sut mae ysgolion Cymraeg a dwyieithog yn datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion ar draws y cwricwlwm. Yn Hydref 2023, fe wnaethom ymweld ag ugain o ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, yn ogystal ag unedau trochi i werthuso medrau darllen Cymraeg disgyblion ar draws y cwricwlwm ym Mlwyddyn 6 a Blynyddoedd 7-9, gan edrych ar yr hyn y mae ysgolion yn ei wneud i ddatblygu’r medrau hyn. Dewiswyd ysgolion yn seiliedig ar eu maint, math, lleoliad daearyddol a’u cyd-destun economaidd-gymdeithasol i ddarparu trawstoriad o ysgolion yng Nghymru. Ym mhob ysgol yr ymwelwyd â hi, cynhaliwyd cyfarfodydd gydag uwch arweinwyr, cydlynwyr llythrennedd, athrawon a disgyblion. Arsylwom sesiynau lle roedd medrau darllen yn cael eu datblygu neu’u hatgyfnerthu. Edrychom ar waith disgyblion ac unrhyw ddogfennau oedd gan yr ysgol ar ddatblygu medrau darllen ac ar drefniadau pontio. Yn ogystal, cynhaliwyd arolwg disgyblion yn Eisteddfod yr Urdd ym mis Mehefin 2023 a dosbarthwyd holiadur i’r ysgolion hynny o fewn y sampl ac fe ymatebodd dros ddwy fil o ddisgyblion. Gwnaethom hefyd dynnu ar dystiolaeth o arolygiadau cynradd, uwchradd a phob oed o ysgolion y tu allan i’r sampl yn ystod 2023-24.
Mae ein hadroddiad ar fedrau darllen Cymraeg yn amlinellu nifer o gryfderau a’r meysydd sydd angen mynd i’r afael â nhw i sicrhau gwelliannau. Yn ychwanegol i’r enghreifftiau o arfer dda yn yr ysgolion, rydym wedi cynnwys canllawiau penodol er mwyn helpu ysgolion i gryfhau eu harferion wrth ddatblygu medrau darllen disgyblion. Mae’r bennod gyntaf, ‘Safonau ac agweddau disgyblion’ yn canolbwyntio ar ddatblygiad medrau darllen disgyblion ar draws y cwricwlwm ac agweddau disgyblion tuag at ddarllen. Mae gan yr ail bennod ddwy ran. Mae’r rhan gyntaf, ‘Profiadau addysgu a dysgu’ yn ystyried yr arlwy sy’n cael ei gynnig gan ysgolion i gryfhau medrau darllen disgyblion tra bod ‘Arweinyddiaeth a chynllunio ar gyfer gwella’ yn nodi sut mae arweinwyr yn blaenoriaethu darllen yn eu hysgolion. Yn ogystal, mae’r adroddiad yn edrych ar ddarpariaeth o fewn yr unedau trochi. Mae’r drydedd bennod, ‘Hybu diwylliant o ddarllen’ yn disgrifio’r modd y mae ysgolion effeithiol yn creu diwylliant darllen yn llwyddiannus ac yn ennyn diddordeb disgyblion yn llawn. Mae Atodiad 1 yn rhestru’r ymatebion i’r holiadur disgyblion a ddosbarthwyd i’r ysgolion hynny o fewn y sampl ac ymatebodd dros ddwy fil o ddisgyblion.
Nid yw’n syndod bod effaith negyddol y pandemig yn parhau yn glir ar safonau darllen Cymraeg disgyblion yn gyffredinol, gyda’r lleiafrif wedi colli’r hyder i gyfathrebu a darllen yn y Gymraeg. Mae bron pob disgybl yn y sampl ac a wnaeth ymateb i’n holiaduron yn deall pwysigrwydd darllen i gefnogi eu dysgu a’u cyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol. Fodd bynnag, i fwyafrif y disgyblion, mae eu mwynhad o ddarllen yn gostwng o 10 i 14 oed.
Mae llawer o bobl ifanc 10 i 14 oed yn defnyddio medrau darllen sylfaenol, fel anodi, lleoli a llithr ddarllen gwybodaeth yn llwyddiannus i ganfod prif negeseuon a gwybodaeth allweddol. At ei gilydd, mae cyfran uwch o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn gwneud cynnydd da o ran datblygu eu medrau darllen uwch nag ym Mlynyddoedd 7-9. Mae hyn yn rhannol oherwydd yr heriau o gydlynu datblygiadau medrau darllen yn gyson ar draws yr ystod o bynciau ac athrawon yn y cyfnod uwchradd. Dengys ein canfyddiadau bod y cyfleoedd mwyaf buddiol i ddatblygu medrau darllen i’w gweld mewn gwersi Cymraeg neu sesiynau iaith ac o fewn pynciau’r dyniaethau. Fodd bynnag, nid yw uwch-fedrau darllen mwyafrif y disgyblion ym Mlynyddoedd 7-9 yn datblygu cystal oherwydd diffyg cyfleoedd pwrpasol i ddatblygu’u medrau darllen ar draws y cwricwlwm.
Roedd llawer o’r cryfderau a’r diffygion a ganfuom yn y thematig darllen Saesneg hefyd yn amlwg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Er bod arweinwyr ym mron pob ysgol yr ymwelwyd â nhw yn cydnabod pwysigrwydd blaenoriaethu datblygiad medrau darllen disgyblion, yn aml nid oedd hyn yn arwain at ddarpariaeth effeithiol ar draws y cwricwlwm, yn enwedig yn y sector uwchradd. Megis dechrau mae’r gwaith o gydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau darllen disgyblion yn y mwyafrif o ysgolion uwchradd. Nid oedd arweinwyr yn y lleiafrif o ysgolion cynradd a’r mwyafrif o ysgolion uwchradd a phob oed yn defnyddio ystod digon eang o dystiolaeth i adnabod yr union agweddau sydd angen eu gwella a chynllunio camau gweithredu perthnasol. Roeddent yn or-ddibynnol ar ddata yn unig, yn hytrach na’i gyfuno â thystiolaeth uniongyrchol o gynnydd disgyblion o wersi a llyfrau. Lleiafrif yn unig o arweinwyr oedd yn monitro ac yn gwerthuso effaith strategaethau darllen ar draws yr ysgol yn ddigon cadarn. Prin yw’r cynlluniau neu lwyfannau darllen sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg o gymharu â’r Saesneg i helpu ysgolion i fonitro cynnydd darllen disgyblion.
Mae ein canfyddiadau’n dangos mai ychydig iawn o glystyrau o ysgolion cynradd ac uwchradd sy’n cyd-gynllunio’n effeithiol ar gyfer datblygu medrau darllen disgyblion o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7. Mae hyn hefyd yn wir mewn llawer o ysgolion pob oed, sy’n dysgu disgyblion o’r cyfnodau cynradd ac uwchradd. Rhwystr i’r cynllunio hwn yw maint y clwstwr a’r ffaith bod nifer o ysgolion cynradd o fewn dalgylch mwy nag un ysgol uwchradd neu, ar adegau, yn draws-sirol.
Mae’r unedau trochi a’r canolfannau iaith wnaethom ymweld â nhw yn gwneud gwaith effeithiol yn datblygu medrau Cymraeg disgyblion sy’n trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg yn hwyr. Defnyddiodd athrawon derminoleg a geirfa pwnc yn gywir ac yn gyson a oedd yn caniatáu i ddisgyblion ddatblygu fel siaradwyr rhugl. Gwna’r disgyblion yma gynnydd cyflym a llwyddiannus yn eu medrau darllen Cymraeg.
Mae llawer o ysgolion cynradd ac ychydig o ysgolion uwchradd yn hyrwyddo darllen er pleser yn llwyddiannus. Fodd bynnag, yn gyffredinol, gwelwyd bod y profiadau i hybu darllen sy’n digwydd tu hwnt i’r stafell ddosbarth wedi lleihau yn sylweddol ers cyfnod y pandemig, yn enwedig yn y sector uwchradd.