Adroddiad Thematig: Cynyddu defnydd o'r Gymraeg yn y sectorau ôl-16 - Estyn

Adroddiad Thematig: Cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y sectorau ôl-16

Adroddiad thematig


Crynodeb gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau hyfforddiant, dan ofal y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, i ddatblygu medrau iaith Gymraeg ac addysgeg ddwyieithog ymarferwyr yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau. Mae’r cynlluniau yn rhan o Gynllun Gwreiddio’r Coleg ac yn cyd-fynd â’i weledigaeth o alluogi pob aelod o staff i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ac addysgeg ddwyieithog, gyda’r nod o gynyddu nifer y myfyrwyr a phrentisiaid sy’n dewis astudio yn rhannol neu yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Cynllun Gwreiddio yn cefnogi amcanion strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr yn y sector addysg ôl-orfodol.

Rydym, yn yr adroddiad, wedi canolbwyntio ar dri math o ddarpariaeth

  • Sesiynau e-ddysgu
  • Darpariaeth Sgiliaith
  • Cynllun Cymraeg Gwaith Addysg Bellach

At ei gilydd, mae’r cynlluniau yn cael effaith cadarnhaol ar yr ymarferwyr sydd yn manteisio arnynt. Mae nifer yr ymarferwyr sy’n siarad ac sydd wedi’u cofrestru yn ôl eu gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu yn y sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith ers 2020. Fodd bynnag, nid oes data penodol sy’n cysylltu hyn yn uniongyrchol âr hyfforddiant.

Mae nifer y gweithgareddau dysgu sy’n cynnwys ‘ychydig o ddysgu cyfrwng Cymraeg’ wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, nid oes cynnydd yn y gweithgareddau dysgu mewn categorïau fel ‘cyfran helaeth o ddysgu cyfrwng Cymraeg, dwyieithog’ a ‘Cymraeg yn unig’ yn ystod yr un cyfnod. Mae hyn yn adlewyrchu patrwm y cynlluniau hyfforddi sydd yn fwy effeithiol o ran targedu staff sydd a medrau iaith lefel isel ac ar gychwyn eu taith ar hyd y continwwm iaith. Yn gyffredinol, mae’r ffigurau yn cyd-fynd â chanfyddiadau’r adroddiad hwn sef ychydig iawn o effaith sydd ar ddatblygu medrau iaith ymarferwyr tu hwnt i’r lefelau cychwynnol. Mae hyn yn cyfyngu cyfleoedd myfyrwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyson yn eu dysgu.

Gwelom enghreifftiau o arfer dda ar draws y tri math o ddarpariaeth. Roedd traweffaith y gwaith ar ei orau pan:

  • Mae arweinwyr ar bob lefel yn glir am bwysigrwydd strategol cynyddu defnydd o’r iaith Gymraeg.
  • Mae hyfforddiant yn targedu staff sydd eisoes â medrau iaith cryf.
  • Mae colegau yn cynnig amser priodol i staff gyflawni hyfforddiant fel rhan o’u 24 o oriau dysgu.
  • Mae arweinwyr yn cydnabod y Gymraeg fel sgìl, ac o ganlyniad yn cynnig cydnabyddiaeth ariannol i ymarferwyr sydd yn meddu ar uwch fedrau addysgeg ddwyieithog.
  • Mae ymdrechion staff i ddatblygu eu harferion addysgu wrth symud i fyny’r pyramid neu gontinwwm iaith yn cael eu cydnabod yn broffesiynol.
  • Mae canllawiau clir i staff yn bodoli ar sut i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.
  • Mae gweithdrefnau arsylwi a sicrhau ansawdd mewnol darparwyr yn gadarn ac yn ffocysu ar y Gymraeg ac addysgeg ddwyieithog.
  • Mae darpariaeth a hyfforddiant yn cael eu haddasu yn unol â gofynion staff.

Mae perthnasoedd gwaith cryf a chefnogol rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a cholegau a darparwyr unigol. Fodd bynnag, nid yw gweithdrefnau’r Coleg yn ddigon cadarn i sicrhau bod trefniadau blaengynllunio, sicrhau ansawdd a monitro effaith hyfforddiant yn gyson ar draws darparwyr unigol ac yn genedlaethol.

O ganlyniad, rydym wedi cynnwys pedwar argymhelliad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

  • Cynnig rhagor o her ac arweiniad i golegau a darparwyr prentisiaethau wrth werthuso effaith hyfforddiant ar y gweithlu gan flaengynllunio’n fwriadus i symud arferion addysgu a’r cynnig i fyfyrwyr a phrentisiaeth i fyny’r pyramid iaith (o B3 i B2 ac i fyny). Yn gyffredinol, er bod llawer o sefydliadau yn teimlo eu bod yn cydweithio’n dda gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, dim ond mwyafrif sy’n teimlo eu bod yn atebol i’r Coleg o ran allbynnau. Byddai llawer ohonynt yn croesawu rhagor o graffu ar eu gwaith wrth iddynt gynllunio a mesur effaith hyfforddi ar allu ieithyddol ac addysgeg ddwyieithog eu staff. Ar y cyfan, nid yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn craffu’n ddigon manwl ar dargedau a thystiolaeth ac nid oes diwylliant priodol o herio a chwestiynu penderfyniadau’r colegau a darparwyr.
  • Gweithio gyda phartneriaid perthnasol i ymestyn cynnig Sgiliaith i siaradwyr Cymraeg trwy greu hyfforddiant addysgeg ddwyieithog ddwys sy’n arwain at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig. Mae darpariaeth Sgiliaith yn effeithiol o ran uwchsgilio staff i addysgu’n gynyddol ddwyieithog. Mae angen ymestyn y math o ddarpariaeth sydd ar gael i ymarferwyr Cymraeg eu hiaith, fel y cwrs addysgeg ddwyieithog presennol, i greu cwrs dwys sy’n arwain at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig. Trwy wneud hyn, byddai mwy o ymarferwyr ieithyddol hyderus ar gael fyddai’n gallu cynnig darpariaeth gynyddol ddwyieithog neu Gymraeg.
  • Cydweithio yn strategol â Cholegau, darparwyr prentisiaethau a phartneriaid perthnasol eraill i brif ffrydio mentrau arloesol i gydnabod gwerth y Gymraeg fel sgìl ychwanegol sy’n cael ei gydnabod yn ymarferol ac yn ariannol. Yn yr adroddiad rydym yn tynnu sylw at fentrau arloesol fel y cynllun ‘Methodoleg Addysgwyr Dwyieithog’ yng Ngholeg Cambria. Mae Coleg Cambria yn pwysleisio pwysigrwydd strategol y Gymraeg yn nerthol gan gynnig cymhelliannau ariannol i ymarferwyr, yn ogystal ag amser digyswllt o’u hamserlenni addysgu yn ystod yr hyfforddiant, am gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn eu sesiynau. Mae hyn yn enghraifft nodedig o gynllunio ieithyddol trwy gynllunio gweithlu.
  • Cydweithio â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i sicrhau bod y cynnig i ddysgwyr, safonau dysgu ac addysgu, gweithdrefnau sicrhau ansawdd a datblygiad proffesiynol i diwtoriaid yn gyson â’r sector Dysgu Cymraeg. Mae nifer y staff sy’n dilyn cyrsiau Cymraeg wedi cynyddu dros y blynyddoedd ac mewn llawer o wersi maent yn gwneud cynnydd cadarn. Fodd bynnag, nid yw addysgeg mewn ychydig o achosion yn arddel dulliau llwyddiannus y sector Dysgu Cymraeg sydd yn ei dro’n cael effaith ar safonau’r dysgwyr. Mae anghysonderau hefyd ar draws y colegau o ran oriau cyswllt i ddysgwyr ar gyrsiau, gweithdrefnau sicrhau ansawdd a chyfleoedd dysgu proffesiynol i diwtoriaid.

Rydym wedi cynnwys dau argymhelliad i golegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau:

  • Cydweithio â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gysoni’r ffordd mae ymarferwyr yn cael mynychu hyfforddiant a gwersi iaith gan anelu at sicrhau eu bod yn cael amser digyswllt o’u hamserlenni addysgu i’w gyflawni heb ychwanegu at eu llwyth gwaith. Y prif rwystr i staff sydd am fynychu hyfforddiant yw diffyg neu bwysau amser. Mae hyn yn arbennig o wir am gyrsiau yn y rhaglen Cymraeg Gwaith. Nid yw rheolwyr llinell yn fodlon rhyddhau staff bob tro. Yn ogystal, yn y rhan fwyaf o achosion, mae staff yn gorfod mynychu cyrsiau ar ben eu horiau addysgu neu ddyletswyddau arferol eraill sydd yn effeithio ar allu staff i ymuno â chyrsiau a’u cwblhau.
  • Parhau i fireinio eu cynnig datblygiad proffesiynol i ymarferwyr i gynyddu eu medrau iaith Cymraeg ac addysgeg ddwyieithog gyda’r nod strategol o symud staff a myfyrwyr/prentisiaid ar hyd y continwwm iaith yn fwriadus. Ac eithrio i ychydig iawn o sefydliadau, mae angen i golegau a darparwyr prentisiaethau ymestyn y gwaith da maent wedi’i gyflawni o ran cynyddu defnydd o ‘ychydig o ddysgu cyfrwng Cymraeg’ mewn gweithgareddau dysgu i anelu at lefelau uwch y pyramid neu gontinwwm iaith er mwyn gwireddu nodau polisïau fel Cymraeg 2050.

Rydym wedi cynnwys un argymhelliad i Lywodraeth Cymru a Medr sef:

  • Cydweithio â r sectorau addysg bellach a phrentisiaethau i gysoni’r defnydd o gategorïau iaith darpariaeth ac i ystyried yr angen i wneud newidiadau i’r categorïau er mwyn hwyluso hynny. Mae diffyg cysondeb o hyd yn y ffordd mae colegau a darparwyr yn cofnodi categorïau ieithyddol eu darpariaeth. Yn ogystal, mae llawer o ymarferwyr o’r farn broffesiynol bod angen ailedrych ar ddiffiniadau’r categorïau hynny er mwyn hwyluso taith ymarferwyr yn ogystal â myfyrwyr a phrentisiaid i fyny’r pyramid neu gontinwwm iaith.

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn