Adolygu a myfyrio – effaith hunanwerthuso
Quick links:
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae’r astudiaeth achos wedi’i seilio ar brosesau’r lleoliad ac effaith hunanwerthuso.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Adolygu a myfyrio – effaith hunanwerthuso
Yn Caban Kingsland, mae hunanwerthuso wedi bod yn asgwrn cefn gwaith y lleoliad. Mae ymarferwyr yn adolygu eu harferion yn barhaus i sicrhau bod y broses yn parhau i adlewyrchu’r gwasanaeth ar hyn o bryd. Maent yn ystyried beth sydd wedi digwydd, ac yn rhannu syniadau i annog deilliannau lles, ymgysylltu ac addysgol ar gyfer pob un o’r plant yn eu gofal. Mae hyn yn cefnogi anghenion unigol pob plentyn ac yn galluogi’r tîm cyfan i ddeall y ffyrdd gorau posibl o greu darpariaeth sy’n ymateb i’r datblygiadau diweddaraf mewn addysg a gofal y blynyddoedd cynnar.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?
Mae’n hanfodol fod arweinwyr yn sicrhau perchnogaeth y staff cyfan ar y broses hunanwerthuso. Nid trefn sy’n cymryd amser ac ymdrech yn unig mohoni. Mae’n broses sy’n galluogi pawb i fyfyrio ar lwyddiannau ac agweddau sydd angen eu datblygu ymhellach. Ar y dechrau, mae hunanwerthuso yn helpu ymarferwyr i nodi’r meysydd sydd angen eu gwella, a gall hyn achosi straen wrth iddynt geisio sicrhau bod y ddarpariaeth yn gwneud yn dda.
Mae’r broses o werthuso’n rheolaidd yn fuddiol ynddi’i hun. Mae lleoli meysydd i’w gwella, cyflwyno newidiadau, myfyrio a rhoi mwy o welliannau ar waith, yn atgoffa ymarferwyr ynglŷn â pha mor dda y maent yn gweithio. Mae’n gyfle i alw i gof y profiadau gwych a’r heriau a nodwyd ganddynt a’r newidiadau a gyflwynwyd ganddynt, ac y maent yn gweithio’n galed i’w hymgorffori. Yn ei ffordd ei hun, hunanwerthuso yw’r cyfrwng datblygiad personol parhaus gorau sydd ar gael.
Heriau
Nid yw’n hawdd gweithio’n agos gyda phobl eraill ac wedyn bwrw amheuaeth ynglŷn â’u harferion, yn enwedig os ydynt yn gwneud yr hyn y maent wedi’i wneud erioed. Mae newidiadau i’r cwricwlwm, deddfwriaeth, deddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol ac effaith COVID-19 yn nodi bod angen ystyried newidiadau yn barhaus fel tîm. Mae’n hanfodol fod arweinwyr yn cynnwys yr holl ymarferwyr yn y broses, gan ganiatáu amser iddynt nodi eu datblygiad personol a’u hanghenion dysgu proffesiynol eu hunain. Mae ennyn diddordeb pob un o’r ymarferwyr yn y broses yn galluogi pawb i fyfyrio ar feysydd arfer orau. Caiff hyn effaith gadarnhaol ar y tîm sy’n teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u grymuso i ffurfio’r ddarpariaeth.
Mae ymarferwyr yn sicrhau cyfleoedd i rieni a gofalwyr ddarparu adborth am bob agwedd ar y ddarpariaeth a phrofiad eu plentyn yn y lleoliad. Maent yn darparu cyfleoedd i dderbyn adborth gan bartneriaid ac asiantaethau eraill y maent yn gweithio gyda nhw. Mae hyn hefyd yn bwydo i mewn i gyfleoedd i ddatblygu ymwybyddiaeth o arferion llwyddiannus ac yn helpu nodi meysydd i’w gwella. Nid yw ymarferwyr yn anghofio dangos yr adborth cadarnhaol a gânt, ac maent yn ymfalchïo yn hyn wrth iddynt symud ymlaen. Wrth i bethau ddatblygu yn y ddarpariaeth, mae ymarferwyr yn ychwanegu’r newidiadau bach hynny. Gallai fod mor syml â sut roeddent yn ymateb i rywbeth wnaeth plentyn ei ddweud neu’i wneud. Fel offeryn myfyriol, y pethau bach sy’n gosod y safonau ar gyfer arferion cynhwysol ac yn creu dyfodol gwell ar gyfer y plant yn y ddarpariaeth.
Gall gwaith papur fod yn heriol ar yr adegau gorau. Gall y prosesau hunanwerthuso fod yn frawychus. Fodd bynnag, gan fod pob diwrnod yn wahanol a phennau ymarferwyr yn gallu bod yn orlawn o ran gwybodaeth, maent yn ysgrifennu cwestiynau; Pa mor dda ydym ni’n gwneud? Sut ydym ni’n gwybod? Sut gallwn ni wella? Trwy ddadansoddi eu gwaith a symud pethau at gasgliad cadarnhaol, maent yn chwilio am yr effaith gadarnhaol ar y lleoliad. Bydd hunanwerthuso yn nodi’r ffordd orau ymlaen yn glir ac yn atgoffa pawb am y gwaith gwych a wnânt. Maent yn mwynhau gwybod bod popeth a wnânt er lles pennaf y plant a symud pethau at gasgliad cadarnhaol fel tîm. Wedyn, maent yn symud ymlaen at y mater nesaf.