Argymhellion
Dylai ysgolion:
- Ddarparu cyngor ac arweiniad diduedd cynhwysfawr ac amserol i’r holl ddisgyblion a’u rhieni neu’u gofalwyr am holl opsiynau’r cwricwlwm 14-16, gan gynnwys prentisiaethau iau lle mae’r rhain ar gael.
- Cydweithio â cholegau ac awdurdodau lleol i werthuso cyfleoedd ar gyfer datblygu neu ymestyn rhaglenni prentisiaethau iau er mwyn ehangu eu harlwy cwricwlwm er budd pennaf y dysgwyr.
Dylai colegau addysg bellach:
- Weithio’n agos gydag ysgolion i wneud yn siŵr fod cyfrifoldebau am drefniadau diogelu yn glir a bod asesiadau risg unigol yn cael eu cynnal ar gyfer pob un o’r dysgwyr prentisiaethau iau.
- Rhannu a chytuno ar drefniadau amserlen gydag ysgolion partner ac awdurdodau lleol ar gyfer pob un o’r dysgwyr prentisiaethau iau a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar ddysgwyr unigol, fel trefniadau cynllun bugeiliol.
Dylai awdurdodau lleol:
- Egluro a chyfleu trefniadau cyllid yn y dyfodol ar gyfer prentisiaethau iau gydag ysgolion a cholegau.
- Cydweithio â’u holl ysgolion a cholegau lleol i werthuso’r potensial ar gyfer cyflwyno neu ymestyn darpariaeth prentisiaethau iau i ymestyn cyfleoedd dysgu addas ar gyfer disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 sy’n cael trafferth ymgysylltu â darpariaeth brif ffrwd bresennol mewn ysgolion.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- Yn sgil sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER), egluro a chyhoeddi manylion am gyfrifoldeb parhaus a threfniadau parhaus ar gyfer prentisiaethau iau a’u cyllid.
- Adolygu gofynion penodol y cwricwlwm ar gyfer rhaglenni prentisiaethau iau fel yr amlinellir yng nghyfeiriadur rhaglenni Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran cymwysterau Saesneg, mathemateg a rhifedd, i sicrhau bod nodau cymhwyster yn gweddu i anghenion a galluoedd dysgwyr unigol, ac yn adlewyrchu’r cymwysterau 14-16 cenedlaethol newydd sydd ar waith o fis Medi 2027.