Mae’r adroddiad hwn yn adolygu gwaith a chynnydd cychwynnol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol o ran cyflawni’r nodau a amlinellir yn ei chynllun strategol (Gyda’n Gilydd: Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, 2016) ac yn seiliedig ar yr argymhellion a wnaed yn ‘Codi Golygon: adolygiad o Gymraeg i Oedolion’ (Llywodraeth Cymru, 2013).
Argymhellion
Dylai’r Ganolfan Genedlaethol:
-
A1 Ddatblygu ei gweithdrefnau ar gyfer dwyn y darparwyr i gyfrif am eu perfformiad a’u cydymffurfiad â’r polisïau cenedlaethol
-
A2 Mireinio ei strategaethau marchnata mewn cydweithrediad â darparwyr i dargedu mwy o ddarpar ddysgwyr ar draws pwyllgorau amrywiol Cymru
Dylai darparwyr:
- A3 Roi’r polisïau a’r arferion a gyflwynwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar waith yn llawn
- A4 Gwella eu dealltwriaeth o drefniadau a pholisïau llywodraethu’r Ganolfan Genedlaethol