Adolygiad o Gynlluniau Cydraddoldeb Anabledd ac arfer mewn ysgolion ac unedau cyfeirio - Mehefin 2011 - Estyn

Adolygiad o Gynlluniau Cydraddoldeb Anabledd ac arfer mewn ysgolion ac unedau cyfeirio – Mehefin 2011

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion:

  • godi ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion, rhieni a chymunedau am eu Cynllun Cydraddoldeb Anabledd a’u cynllun gweithredu; a
  • sicrhau bod adeiladau yn briodol, yn enwedig mewn mannau ymarferol a mannau gweithdy.

Dylai awdurdodau lleol:

  • sicrhau bod staff mewn UCDau yn deall eu cyfrifoldebau yn llawn ac yn trefnu darpariaeth briodol i hyrwyddo cydraddoldeb anabledd;
  • parhau i weithio gydag ysgolion i sicrhau bod adeiladau yn briodol;
  • monitro Cynlluniau Cydraddoldeb Anabledd yn fwy rheolaidd a rhoi adborth i ysgolion ac UCDau i sicrhau cysondeb gwell o ran polisi ac arfer.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddiweddaru eu harweiniad i ysgolion, yng ngoleuni Deddf Cydraddoldeb 2010, i gefnogi ysgolion i barhau i fodloni anghenion pob grŵp o ddisgyblion, yn cynnwys y rhai ag anableddau.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn